1-8Ac, àr ol y pethau hyn, mi á welais bedwar angel, yn sefyll àr bedair congl y ddaiar, yn dal pedwar gwynt y ddaiar, fel na chwythai y gwynt àr y ddaiar, nac àr y môr, nac àr un pren. A mi á welais angel arall yn dyfod i fyny oddwrth godiad haul, â sel y Duw byw ganddo: ac efe á lefodd â llef uchel àr y pedwar angel, i’r rhai y rhoddasid gallu i ddrygu y ddaiar, a’r môr; gàn ddywedyd, Na ddrygwch y ddaiar, na’r môr, na’r preniau, nes darfod i ni selio gweision ein Duw ni yn eu talcenau. A mi á glywais nifer y rhai à seliwyd; cant a phedair a deugain o filoedd, y rhai oedd wedi eu selio o holl lwythau meibion Israel. O lwyth Iuwda, yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Rewben, yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Gad, yr oedd deg a dwy fel wedi eu selio. O lwyth Aser, yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Naphtali, yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Manasse, yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Simeon yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Lefi, yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Issachar, yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Zabulon, yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Ioseph, yr oedd deg a dwy fil wedi eu selio. O lwyth Beniamin, yr oedd deg dwy fil wedi eu selio.
9-17Gwedi hyn mi á edrychais, ac wele dyrfa fawr, yr hon ni allai neb ei rhifo, o bob cenedl, a llwyth, a phobl, ac iaith, yn sefyll o flaen yr orseddfainc, a chèr bron yr Oen, wedi eu gwisgo mewn gynau gwỳnion, a phalmwydd yn eu dwylaw; a hwy á lefasant â llef uchel, gàn ddywedyd, Iechydwriaeth i’n Duw ni, yr hwn sydd yn eistedd àr yr orseddfainc, ac i’r Oen! A’r holl genadau á safasant o amgylch yr oseddfainc, ac o amgylch yr henuriaid, a’r pedwar anifail; a hwy á syrthiasant àr eu hwynebau gèr bron yr orseddfainc, ac á addolasant Dduw; gán ddywedyd, Amen: y fendith, a’r gogoniant, a’r doethineb, a’r diolch, a’r anrhydedd, a’r gallu, a’r nerth, á fyddo i’n Duw ni yn oes oesedd; Amen. Ac un o’r henuriaid á atebodd, gàn ddywedyd wrthyf, Am y rhai hyn sy gwedi eu gwisgo mewn gynau gwỳnion, pwy ydynt, ac o ba le y daethant? A mi a ddywedais wrtho ef, Feistr, ti á wyddost. Ac efe á ddywedodd wrthyf, Y rhai hyn yw y rhai à ddaethant allan o’r cystudd mawr, ac á olchasant eu gynau, ac a’u cànasant hwy yn ngwaed yr Oen: oherwydd hyny, y maent gèr bron gorseddfainc Duw, ac yn ei wasanaethu ef, ddydd a nos, yn ei deml; a’r hwn sydd yn eistedd àr yr oseddfainc, á babella drostynt hwy. Ni bydd arnynt na newyn mwyach, na syched; ac ni ddisgyn arnynt na’r haul, na dim gwres; oblegid yr Oen, yr hwn sydd yn nghanol yr orseddfainc, á’u portha hwynt, ac á’u harwain hwynt at ffynnonau o ddyfroedd bywiol; a Duw á sych ymaith bob deigr oddwrth eu llygaid hwynt.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.