1-6Am hyny, gàn ddyoddef o Grist drosom ni yn y cnawd, chwithau hefyd byddwch wedi eich arfogi â’r un meddwl, (oblegid yr hwn à ddyoddefodd yn y cnawd á beidiodd â phechod,) fel na byddoch byw mwyach dros yr amser sydd yn ol yn y cnawd, i chwantau dynion, ond i ewyllys Duw. Canys digon yw yr amser à aeth heibio o’r einioes i weithredu ewyllys y Cenedloedd, gàn rodio mewn trythyllwch, trachwantau, meddwdod, cyfeddach, diota, a ffiaidd eilunaddoliaeth. O achos yr hyn y mae yn rhyfedd ganddynt, nad ydych yn cydredeg gyda hwynt i’r unrhyw ormod rhysedd, gàn eich cablu chwi: – y rhai á roddant gyfrif i’r hwn y sy barod i farnu y byw a’r meirw. Canys èr mwyn hyn yr efengylwyd i’r meirw, fel y bernid hwy yn ol dynion yn y cnawd; ac y byddent byw yn ol Duw yn yr ysbryd.
7-19Eithr diwedd pob peth á nesâodd; am hyny byddwch sobr, a gwyliadwrus i weddiau. Ac o flaen pob peth, bydded genych gariad helaeth tuagat eich gilydd; canys cariad á guddia liaws o bechodau. Byddwch lettyugar y naill i’r llall, heb rwgnach. Pob un, megys y derbyniodd rodd, cyfrenwch â’ch gilydd, fel daionus oruchwylwyr amryw rad Duw. Os llefaru á wna neb, llefared megys oraglau Duw; os gweini y mae neb, gwnaed megys o’r gallu y mae Duw yn ei roddi; fel yn mhob peth y gogonedder Duw drwy Iesu Grist, i’r hwn y byddo y gogoniant a’r gallu yn oes oesoedd. Amen. Anwylyd, na fydded ddyeithr genych am y prawf tanllyd y sydd yn eich plith, yr hwn á ddaeth arnoch er prawf, fel pe bai beth dyeithr wedi dygwydd i chwi; eithr, yn gymaint a’ch bod yn gyfranogion o ddyoddefiadau Crist, llawenêwch; fel, pan ddadguddier ei ogoniant ef, y byddoch yn llawen ac yn gorfoleddu. Os difenwir chwi er mwyn enw Crist, gwyn eich byd; oblegid y mae Ysbryd y gogoniant, ac Ysbryd Duw yn gorphwys arnoch. Ganddynt hwy, yn wir, efe á geblir, ond genych chwi efe á ogoneddir. Am hyny, na ddyoddefed neb o honoch fel llofrudd, neu leidr, neu ddrygweithredwr, neu fel un ymyrgar. Eithr, os fel Cristion, na fydded gywilydd ganddo, ond gogonedded Dduw oblegid hyny. Yn wir, fe ddaeth yr amser i ddechreu o’r farn àr dŷ Duw; ac os dechreu hi yn gyntaf arnom ni, beth fydd diwedd y rhai nid ydynt yn ufyddâu i efengyl Duw? Ac os o’r braidd yr achubir y cyfiawn, pa le yr ymddengys yr annuwiol a’r pechadur! Am hyny, y rhai sydd yn dyoddef yn ol ewyllys Duw, gorchymynant eu bywydau iddo ef drwy wneuthur yn dda, megys i Greawdwr ffyddlawn.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.