Galatiaid 1 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-5 Paul, Apostol, nid oddwrth ddynion, na thrwy ddyn; eithr drwy Iesu Grist, a Duw Dad, yr hwn á’i cyfododd ef o feirw; a’r brodyr oll y rhai sy gyda mi, at gynnulleidfäoedd Galatia; Rhad i chwi, a heddwch oddwrth Dduw Dad, a’n Harglwydd Iesu Grist, yr hwn á’i rhoddes ei hun drosom ni, fel y gwaredai ni oddwrth yr oes ddrwg bresennol, yn ol ewyllys ein Duw a’n Tad ni: i’r hwn y byddo gogoniant yn oes oesoedd. Amen.

6-24Y mae yn ryfedd genyf eich symud mòr fuan oddwrth yr hwn à’ch galwodd i rad Crist, at efengyl arall; yr hon nid yw arall; ond bod rhai yn eich trallodi chwi, ac yn chwennych gwyrdroi efengyl Crist. Eithr pe byddai hyd y nod i ni, neu i angel o’r nef, fynegi i chwi efengyl, amgen na’r hyn à fynegasom i chwi, bydded esgymun. Megys y dywedasom o’r blaen, felly yn awr yr wyf yn dywedyd drachefn, os mynega neb i chwi efengyl, amgen na’r hyn à dderbyniasoch, bydded esgymun. Canys á ydwyf fi yn awr yn ennill ewyllys da dynion, ynte yr eiddo Duw? neu, á ydwyf fi yn ceisio rhyngu bodd dynion? canys pe bawn i eto yn rhyngu bodd dynion, ni byddwn was i Grist. Hefyd, yr ydwyf yn hysbysu i chwi, frodyr, am yr efengyl à fynegwyd genyf fi, nad yw hi ddynol. Canys nid gàn ddyn y derbyniais i hi, nac ym dysgwyd; eithr drwy ddadguddiad Iesu Grist. Chwi á glywsoch yn ddiau am fy ymarweddiad i gynt mewn Iuddewaeth; ddarfod i mi allan o fesur erlid cynnulleidfa Duw, a’i hanrheithio hi; a chynnyddu o honof mewn Iuddewaeth, yn fwy na llawer o’m cyfoedion yn fy nghenedl fy hun, gàn fod yn fwy goreiddgar dros draddodiadau fy nhadau. Ond pan welodd Duw, yr hwn á’m neillduodd i o groth fy mam, ac á’m galwodd i drwy ei radioni, yn dda ddadguddio ei Fab i mi, fel y mynegwn y newydd da am dano ef i’r Cenedloedd; yn y màn nid ymgynghorais â chig a gwaed: a nid aethym i fyny i Gaersalem, at y rhai oedd yn Apostolion o’m blaen i; ond mi à aethym i Arabia, a thrachefn, y dychwelais i Ddamascus. Yna, àr ol tair blynedd, yr aethym i fyny i Gaersalem i ddyfod mewn cydnabyddiaeth â Phedr, ac a arosais gydag ef bymtheng niwrnod. Eithr nis gwelais neb arall o’r Apostolion, ond Iago, brawd yr Arglwydd. Ac am y pethau yr wyf yn eu hysgrifenu atoch, wele, Duw sy dyst i mi, nad wyf yn dywedyd celwydd. Wedi hyny yr aethym i ororau Syria a Chilicia; ac yr oeddwn yn anadnabyddus wrth fy wyneb i gynnulleidfäoedd Iuwdea y rhai sydd yn Nghrist. Yn unig hwy á glywsent, bod yr hwn oedd gynt yn ein herlid ni, yn awr yn mynegi, fel newydd da, y ffydd yr hon gynt á anrheithiasai. A hwy á ogoneddasant Dduw o’m plegid i.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help