1-13Ac am y pethau à ddywedwyd, y pènaf yw hyn: Y mae genym y fath Archoffeiriad, yr hwn á eisteddodd àr ddeheulaw y Mawredd yn y nefoedd; yn weinidog y cysegroedd; sef, y wir babell, yr hon á gododd yr Arglwydd, ac nid dyn. Canys pob archoffeiriad á osodir i offrymu rhoddion ac aberthau. Oherwydd paham, rhaid oedd bod gàn hwn hefyd yr hyn à offrymai. Canys, yn wir, pe bai efe àr y ddaiar, nis gallai fod yn offeiriad, gàn fod yno eisoes offeiriaid y rhai sydd yn offrymu rhoddion yn ol y gyfraith. (Y rhai hyn sydd yn cyflawni gwasanaeth yn yr hyn y sy ddarlun a chysgod pethau nefol, megys y rhybyddiwyd Moses gàn Dduw, pan oedd efe àr fedr adeiladu y babell; “Gwel, gàn hyny, (meddai efe,) àr wneuthur o honot bob peth yn ol y cynllun à ddangoswyd i ti yn y mynydd.”) Heblaw hyny, efe á gafodd yn awr weinidogaeth mwy rhagorol, yn gymaint a’i fod ef yn Gyfryngwr sefydliad gwell, yr hwn á osodwyd àr addewidion gwell. Oblegid pe buasai y sefydliad cyntaf hwnw yn ddifeius, ni cheisiesid lle i ail. Eithr gàn feio, efe á ddywed wrthynt, “Wele, y mae y dyddiau yn dyfod, medd yr Arglwydd, pan y gwnaf â thŷ Israel ac â thŷ Iuwda sefydliad newydd; nid fel y sefydliad à wneuthum â’u tadau hwynt, yn y dydd yr ymaflais yn eu llaw hwynt iddeu dwyn hwy o dir yr Aifft; – oblegid nid arosasant hwy yn fy sefydliad i, minnau á’u hesgeulusais hwythau, medd yr Arglwydd. – A dyma y sefydliad à wnaf fi â thŷ Israel, àr ol y dyddiau hyn, medd yr Arglwydd; Myfi á ddodaf fy nghyfreithiau yn eu meddwl, ac ar eu calonau yr ysgrifenaf hwynt; a mi á fyddaf iddynt hwy yn Dduw, a hwy á fyddant i minnau yn bobl. Ac ni ddysgant bob un ei gyd‐ddinesydd, a phob un ei frawd, gàn ddywedyd, Adnebydd yr Arglwydd; oblegid hwynt‐hwy oll á’m hadnabyddant i o’r lleiaf o honynt hyd y mwyaf o honynt. Canys trugarog fyddaf wrth eu hannghyfiawnderau, a’u pechodau hwynt a’u hanwireddau ni chofiaf ddim o honynt mwyach.” Wrth ddywedyd, “sefydliad newydd,” efe á wnaeth y cyntaf yn hen: a’r hwn à aeth yn hen ac oedranus sy barod i ddiflanu.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.