Rhufeiniaid 15 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-7Nyni, gàn hyny, y rhai ydym gryfion, á ddylem ddwyn gwendidau y rhai gweiniaid, a nid rhyngu ein bodd ein hunain. Am hyny, boddâed pob un o honom ei gymydog, hyd y mae yn dda, èr adeiladaeth. Canys hyd y nod Crist nis boddâodd ei hun: eithr, megys y mae yn ysgrifenedig, “Gwaradwyddiadau y rhai à’th waradwyddent di, á syrthiasant arnaf fi.” Yn awr, pa bethau bynag á ysgrifenwyd o’r blaen, èr addysg i ni yr ysgrifenwyd hwynt; fel, drwy amynedd, a thrwy ddyddanwch yr ysgrythyrau, y gallem gael gobaith. A’r Duw yr hwn sydd yn rhoddi amynedd a dyddanwch, á roddo i chwi synied yr un peth tuagat eich gilydd, yn ol Crist Iesu. Fel y galloch ag un meddwl, ac ag un genau ogoneddu Duw, sef Tad ein Harglwydd Iesu Grist. O herwydd paham, derbyniwch eich gilydd, megys y derbyniodd Crist ninnau èr gogoniant Duw.

8-21Hefyd, yr wyf yn sicrâu, wneuthur Iesu Grist yn weinidog i’r enwaediad, oherwydd gwirionedd Duw, èr cadarnâu yr addewidion à wnaethwyd i’r tadau; fel y byddai i’r Cenedloedd ogoneddu Duw, oherwydd trugaredd: fel y mae yn ysgrifenedig, “Am hyn, yth foliannaf di yn mhlith y Cenedloedd, ac y canaf i’th enw.” A thrachefn, y mae yn dywedyd, “Ymlawenewch, Genedloedd, gyda ’i bobl ef.” A thrachefn, “Molwch yr Arglwydd, yr holl Genedloedd, a chlodforwch ef, yr holl bobloedd.” A thrachefn, y mae Isaia yn dywedyd, “Fe fydd gwreiddyn i Iesse, a chyfyd un i lywodraethu y Cenedloedd, – arno ef y gesyd y Cenedloedd eu gobaith.” A Duw y gobaith á’ch cyflawno o bob llawenydd a thangnefedd, gàn gredu; fel y byddoch helaethion yn y gobaith hwnw, drwy nerth yr Ysbryd Glan. Pa fodd bynag, fy mrodyr, yr wyf fi fy hun yn coelio am danoch chwi, eich bod chwithau yn llawn daioni, gwedi eich cyflawni o bob gwybodaeth; yn alluog, hefyd, i addysgu eich gilydd. Eithr, mi á ysgrifenais yn hyfach atoch, frodyr, mewn rhan, fel un yn dwyn pethau àr gof i chwi, drwy y rhad à roddwyd i mi gàn Dduw. Fel y byddwn weinidog i Iesu Grist, yn mhlith y Cenedloedd, gàn weini i efengyl Duw, fel y byddai offrymiad o’r Cenedloedd, tra chymeradwy; wedi ei santeiddio gàn yr Ysbryd Glan. Y mae i mi, gàn hyny, fost, drwy Grist Iesu, am bethau yn perthyn i Dduw. Ond, ni feiddiaf ddywedyd dim am yr hyn ni weithredodd Crist; eithr, am yr hyn á weithredodd efe, trwof fi, èr gwneuthur y Cenedloedd yn ufydd, mewn gair a gweithred; drwy nerth arwyddion a rhyfeddodau, a thrwy nerth yr Ysbryd Glan: hyd nes o Gaersalem, ac oddamgylch hyd Ilyricum, y cyflawn gyhoeddais efengyl Crist; a felly hefyd, yr oeddwn yn ymorchestu i bregethu yr efengyl, lle ni enwid Crist, fel nad adeiladwn àr sail un arall. Eithr, fel y mae yn ysgrifenedig, “Hwynthwy á’i gwelant ef, i’r rhai ni fynegwyd dim am dano; a’r rhai ni chlywsant, á ddeallant.”

22-29Am ba achos, hefyd, ym lluddiwyd yn fawr i ddyfod atoch chwi. Ond, yn awr, gàn nad oes genyf le mwyach yn y parthau hyn, a bod arnaf hiraeth èr ys llawer o flynyddoedd am ddyfod atoch chwi, pan elwyf tua ’r Hispaen, yr wyf, yn gobeithio, wrth fyned heibio, y caf eich gweled, a’m hebrwng genych yno, gwedi i mi yn gyntaf, i ryw radd gael fy nigoni â’ch cyfeillach. Eithr yn awr yr wyf yn myned i Gaersalem, gàn weini i’r saint; canys Macedonia ac Achaia á welsant yn dda wneuthur rhyw gyfraniad i’r rhai tylodion o’r saint sydd yn Nghaersalem. Hwy á welsant yn dda, yn ddiau; a’u dyledwyr hwy ydynt: oblegid os cafodd y Cenedloedd gyfran o’u pethau ysbrydol hwynt, hwythau á ddylent yn ddiau weini iddynt hwy mewn pethau tymmorol. Wedi i mi, gàn hyny, orphen hyn o neges, a selio iddynt y ffrwyth hwn, myfi á âf oddyno heibio chwi i’r Hispaen. A mi á wn pan ddelwyf atoch, y deuaf yn llawnder bendith Crist.

30-33Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, drwy yr Arglwydd Iesu Grist, a thrwy gariad yr Ysbryd, àr gydymdrech o honoch gyda mi, mewn gweddiau drosof fi at Dduw; fel ym gwareder rhag y rhai anufydd yn Iuwdea; ac àr fod fy ngwasanaeth, yr wyf yn ei gyflawni dros Gaersalem, yn gymeradwy gàn y saint: fel y delwyf atoch mewn llawenydd, drwy ewyllys Duw, ac ym hadlòner yn eich plith chwi. A Duw yr heddwch fyddo gyda chwi oll. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help