Dadguddiad 19 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-9Ac àr ol y pethau hyn mi á glywais megys llef uchel tyrfa fawr yn y nef, yn dywedyd, Hàleluwia! O iechydwriaeth, a gogoniant, a gallu ein Duw ni! oblegid cywir a chyfiawn yw ei farnau ef; oherwydd efe á farnodd y butain fawr, yr hon á lygrodd y ddaiar â’i phuteindra; ac efe á ddialodd waed ei weision a dywalltwyd drwy ei llaw hi. Ac eilwaith y dywedasant, Hàleluwia! A mwg ei phoenedigaeth hi á esgynodd i fyny yn oes oesoedd. A’r pedwar henuriad àr ugain, a’r pedwar anifel, á syrthiasant i lawr, ac á addolasant Dduw, yr hwn oedd yn eistedd àr yr orseddfainc, gàn ddywedyd, Amen! Hàleluwia! A llef á ddaeth allan o’r orseddfainc, yn dywedyd, Moliennwch ein Duw ni ei holl weision ef, a’r rhai ydych yn ei ofni ef, fychain a mawrion. A mi á glywais megys llef tyrfa fawr, a megys llef dyfroedd lawer, a megys trwst taranau cryfion, yn dywedyd, Hàleluwia! canys teyrnasodd yr Arglwydd Dduw, yr Hollalluog. Yr ydym yn llawenychu, ac yn gorfoleddu, ac yn rhoddi gogoniant iddo ef, oblegid daeth priodas yr Oen, a’i wraig ef á’i parotôdd ei hun. A chaniatâwyd iddi gael ei gwisgo â llian main, glan a dysglaer; a’r llian main yw cyfiawnderau y saint. Ac efe á ddyẅedodd wrthyf, Ysgrifena: – Dedwydd yw y rhai à wahoddir i swper neithior yr Oen! Ac efe á ddywedodd wrthyf, Gwir eiriau Duw yw y rhai hyn.

10A mi á syrthiais o flaen ei draed ef iddei addoli ef; ac yntau á ddywedodd wrthyf, Gwel na wnelych hyn: cydwas ydwyf â thi, ac â’th frodyr, y rhai sydd yn dàl tystiolaeth Iesu. Addola Dduw; canys tystiolaeth Iesu ydyw ysbryd y brophwydoliaeth.

11-21A mi á welais y nef yn agored, ac wele, farch gwỳn; a’r hwn oedd yn eistedd arno á elwid Ffyddlawn a Chywir; a mewn cyfiawnder y mae yn barnu ac yn rhyfela; a’i lygaid oedd fel fflam dân; ac àr ei ben yr oedd coronau lawer, a chanddo enw yn ysgrifenedig yr hwn ni wyddai neb ond ef ei hun: ac yr oedd wedi ei wisgo â gwisg wedi ei throchi mewn gwaed, a gelwir ei enw ef, GAIR DUW. A’r byddinoedd y sydd yn y nef á’i canlynasant ef, àr feirch gwynion, wedi eu gwisgo â llian main, gwyn a glan. Ac allan o’i enau ef yr oedd yn dyfod gleddyf llym, i daraw y cenedloedd âg ef: ac efe á’u llywodraetha hwynt â gwialen haiarn; ac y mae efe yn sathru gwinwryf digofaint a llid Duw Hollalluog. Ac y mae ganddo àr ei wisg ac àr ei forddwyd, enw gwedi ei ysgrifenu – BRENIN BRENINOEDD, AC ARGLWYDD ARGLWYDDI. A mi á welais un angel yn sefyll yn yr haul; ac efe á lefodd â llef uchel wrth yr holl adar ysglyfaethus, y rhai oedd yn ehedeg yn nghanol y nef, Deuwch, ac ymgesglwch yn nghyd i swper mawr Duw; fel y bwytäoch gig breninoedd, a chig pencadbeniaid, a chig y cedyrn, a chig meirch, a’r rhai sydd yn eistedd arnynt; a chig pawb, yn rhyddion a chaethion, yn fychain a mawrion. A mi á welais y bwystfil, a breninoedd y ddaiar, a’u byddinoedd wedi ymgynnull yn nghyd, i wneuthur rhyfel yn erbyn yr hwn sydd yn eistedd àr y march gwyn, ac yn erbyn ei fyddin ef. A daliwyd y bwystfil, a chydag ef y geubrophwyd, yr hwn á wnaethai wyrthiau gèr ei fron ef, drwy y rhai y twyllodd efe y sawl à dderbyniasant nod y bwystfil, a’r rhai à addolasant ei ddelw; y rhai ill dau á fwriwyd i’r llyn o dân yn llosgi â brwmstan. A’r gweddill á laddwyd â’r cleddyf, yr hwn oedd yn dyfod allan o enau yr hwn oedd yn eistedd àr y march; a’r holl adar á gawsant eu gwala o’u cig hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help