1-17O ba le y mae rhyfeloedd ac ymladdau yn eich plith chwi? Onid oddwrth hyn, sef eich melyschwantau, y rhai sydd yn rhyfela yn eich aelodau? Chwennychu yr ydych, ac nid ydych yn cael; lladd yr ydych ac eiddigeddu, ac nid ydych yn gallu cyrhaeddyd. Ymladd a rhyfela yr ydych, ac nid ydych yn cael, am nad ydych yn gofyn. Gofyn yr ydych, ac nid ydych yn derbyn, oherwydd eich bod yn gofyn mewn modd drygionus, fel y galloch eu treulio àr eich melyschwantau. Chwi odinebwyr, a godinebwragedd, oni wyddoch chwi, bod cyfeillach y byd yn elyniaeth yn erbyn Duw? Pwybynag, gàn hyny, à fỳno fod yn gyfaill i’r byd, efe à gyfrifir yn elyn i Dduw. A ydych chwi yn tybied, bod yr ysgrythyr yn dywedyd yn ofer? Ai at genfigen y mae yr Ysbryd sydd yn trigo ynom yn tueddu? – Eithr rhoddi rhad mwy y mae. Canys dywedyd y mae, “Y mae Duw yn gwrthwynebu y beilchion, ond yn rhoddi rhad i’r rhai gostyngedig.” Ymddarostyngwch, gàn hyny, i Dduw. Gwrthwynebwch ddiafol, ac efe á ffŷ oddwrthych. Nesêwch at Dduw, ac efe á nesâa atoch chwi. Glanêwch eich dwylaw, chwi bechaduriaid; a phurwch eich calonau, chwi â’r meddwl deuddyblyg. Ymofidiwch, a galerwch, ac wylwch; a thröer eich chwerthin chwi yn alar, a’ch llawenydd yn dristwch. Byddwch ostyngedig yn ngwydd yr Arglwydd, ac efe à’ch dyrchafa chwi. Na ddywedwch yn erbyn eich gilydd, frodyr. Y neb sydd yn dywedyd yn erbyn ei frawd, ac yn collfarnu ei frawd, y mae efe yn dywedyd yn erbyn y gyfraith ac yn collfarnu y gyfraith. Ond os collfarnu y gyfraith yr wyt ti, nid wyt ti wneuthurwr y gyfraith; eithr barnwr. Un gosodwr cyfraith a barnwr y sydd, yr hwn á ddichon gadw a cholli. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn collfarnu arall? Deuwch, yr awrhon, y rhai ydych yn dywedyd, Heddyw, neu y fory, ni á awn i gyfryw ddinas, ac á aroswn yno flwyddyn, ac á farchnatâwn, ac á ynnillwn; y rhai ni wyddoch beth á fydd y fory. Canys beth ydyw eich einioes chwi? Tarth, yn wir, ydyw, yr hwn y sy dros ychydig yn ymddangos, a gwedi hyny yn diflanu. Lle y dylech ddywedyd, Os yr Arglwydd á’i myn, ni á fyddwn byw, ac á wnawn hyn neu hyny. Eithr yn awr ymffrostio yr ydych yn eich rhyfyg: pob cyfryw ymffrost, drwg ydyw. Am hyny, i’r neb à fedr wneuthur daioni, ac nid yw yn ei wneuthur, pechod ydyw iddo.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.