1-13A’r Phariseaid a rhyw Ysgrifenyddion à ddaethent o Gaersalem, á gyrchasant at Iesu. A gwedi canfod rhai o’i ddysgyblion ef yn bwyta â dwylaw anmhur, hyny yw, heb eu golchi; (canys nid oedd y Phariseaid, nac yn wir yr holl Iuddewon à gadwent draddodiad yr henuriaid, yn bwyta nes y golchent eu dwylaw drwy dywallt ychydig ddwfr arnynt; ac os byddent wedi dyfod o’r farchnad, drwy eu trochi; ac y mae llawer o ddefodau ereill wedi eu cymeryd i fyny ganddynt, megys trochiadau cwpanau a photiau, efyddynau a gwelỳau;) yna y Phariseaid a’r ysgrifenyddion á ofynasant iddo Beth yw yr achos nad yw dy ddysgyblion di yn cadw traddodiad yr henuriaid, ond yn bwyta â dwylaw heb eu golchi? Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, O ragrithwyr! da yr ydych yn ateb i’r nodwedd à roddes Isaia i chwi, pàn ddywedodd, “Y bobl hyn á’m hanrhydeddant â’u gwefusau, ond eu calon sy gwedi ymddyeithro oddwrthyf. Ond yn ofer yr addolant fi, tra y maent yn dysgu sefydliadau nad ydynt ond dynol yn unig.” O herwydd, gàn adael heibio orchymyn Duw, yr ydych yn dàl traddodiadau dynion, trochiadau potiau a chwpanau, a llawer o ymarferion ereill cyffelyb. Gwych yr ydych yn barnu, meddai efe, drwy ddiddymu gorchymyn Duw, i wneuthur lle i’ch traddodiadau eich hunain. Canys dywedodd Moses, “Anrhydedda dy dad á’th fam,” a “Pwybynag á ddifenwo dad neu fam, á gosbir â marwolâeth.” Ond yr ydych chwi yn dàl, os dywed dyn wrth dad neu fam, “Corban fyddo (hyny yw, diofrydedig) bethbynag o’r eiddof á wna les i ti;” ni raid iddo o hyny allan wneuthur dim iddei dad neu ei fam; fel hyn yn dirymu gair Duw, drwy y traddodiad à osodasoch i fyny. A mewn llawer o bethau ereill yr ydych yn gwneuthur fel hyn.
14-16Yna gwedi galw ato yr holl dyrfa, efe á ddywedodd wrthynt, Gwrandewch arnaf, bawb o honoch, a deallwch. Nid oes dim oddallan yn myned i fewn i ddyn, á all ei halogi ef; ond y pethau sydd yn dyfod allan o hono, yw y pethau à’i halogant ef. Od oes gàn neb glustiau i wrandaw, gwrandawed.
17-23Gwedi iddo gilio oddwrth y bobl i dŷ, ei ddysgyblion á ofynasant iddo ystyr y frawddeg hòno. Yntau á atebodd, A ydych chwithau hefyd yn ddiddëall? Oni wyddoch chwi na all bethbynag sydd oddallan i ddyn yn myned i fewn iddo, ei halogi ef; am nad ydyw yn myned iddei galon ef, ond iddei gylla, o’r lle y mae pob anmhuredd yn yr ymborth yn cael ei fwrw i’r geudy. Ond, meddai efe hefyd, yr hyn sydd yn dyfod allan o’r dyn, hyny sydd yn halogi y dyn: canys o fewn y galon ddynol y deillia drygddyfeisiau, godinebau, puteiniadau, llofruddiaethau, lladradau, trachwantau, drygwyllys, twyll, anlladrwydd, cenfigen, enllib, trahausder, ysgafndra. Yr holl ddrygau hyn sydd yn dyfod oddifewn ac yn halogi y dyn.
24-30Yna y cyfododd efe ac yr aeth i gyffiniau Tyrus a Sidon; a gwedi myned i fewn i dŷ, efe á ddymunai na byddai i neb gael gwybod am dano, ond ni allai efe ymgelu. Canys gwraig, yr hon yr oedd ei merch fechan ag ysbryd aflan ynddi, gwedi clywed am dano, á ddaeth ac á syrthiodd wrth ei draed ef, (Groeges oedd y wraig, yn enedigol o Syrophenicia) ac á ddeisyfodd arno fwrw y cythraul allan o’i merch. Iesu á atebodd, Gad i’r plant gael eu diwallu yn gyntaf; canys nid gweddus yw cymeryd bara y plant, a’i daflu i’r cwn. Hithau á atebodd, Gwir, Syr; eto y mae hyd yn nod y cwn dàn y bwrdd yn bwyta o friwsion y plant. Efe á ddywedodd wrthi, Am yr atebiad hwn, dos adref; aeth y cythraul allan o’th ferch. Yn y fàn hi á aeth adref, ac á gafodd ei merch yn gorwedd àr y gwely, a gwedi ei rhyddâu oddwrth y cythraul.
31-37Yna gàn adael terfynau Tyrus a Sidon, efe á ddychwelodd at fôr Galilëa, drwy amgorau Decapolis. A hwy á ddygasant ato un byddar, yr hwn oedd hefyd ag attal dywedyd arno, ac á attolygasant iddo ddodi ei law arno ef. Iesu gwedi ei gymeryd ef o’r neilldu, allan o’r dorf, á boerodd àr ei fysedd ei hun, ac a’u rhoddodd yn nglustiau y dyn, ac á gyfhyrddodd â’i dafod ef. Yna gàn edrych i fyny i’r nef ac ocheneidio, ef á ddywedodd Ephphatha, hyny yw, Ymagor. Yn y fàn ei glustiau ef á agorwyd, a’i dafod á ryddâwyd, ac efe á lefarodd yn groew. Efe á orchymynodd iddynt na ddywedent wrth neb; ond po mwyaf y gorchymynai efe iddynt, mwyaf y cyhoeddent, gàn ddywedyd, gyda syndod, annrhaethadwy, Y mae efe yn gwneuthur pob peth yn dda: y mae efe yn gwneyd i’r byddariaid glywed, a’r mudanod lefaru.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.