Galatiaid 3 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-4O y Galatiaid anystyriol! pwy á’ch llygad‐dỳnodd chwi, gèr bron llygaid y rhai y cafodd Iesu Grist wedi ei groeshoelio ei ddarlunio yn amlwg yn eich plith? Hyn yn unig yr wyf yn ewyllysio ei ddysgu genych, ai drwy gyfraith gweithredoedd y derbyniasoch yr Ysbryd, ynte drwy ufydd‐dod ffydd? A ydych chwi mòr anystyriol, wedi i chwi ddechreu yn yr Ysbryd, a berffeithir chwi yr awrhon yn y cnawd? A ddyoddefasoch gymaint yn ofer? os yw ofer hefyd.

5-17Yr hwn, gàn hyny, á weinyddodd i chwi yr Ysbryd, ac á weithredodd wyrthiau yn eich plith, ai drwy gyfraith gweithredoedd y gwnaeth efe y pethau hyn, ynte drwy wrandawiad ffydd? megys y credodd Abraham i Dduw, ac y cyfrifwyd iddo yn gyfiawnder; gwybyddwch, gàn hyny, mai y credinwyr, y rhai hyny yw plant Abraham. Canys yr Ysgrythyr yn rhagddangos y byddai i Dduw gyfiawnâu y cenedloedd drwy ffydd, gynt á fynegodd yr efengyl i Abraham, gàn ddywedyd, “Yn ddiau ynot ti y bendithir yr holl genedloedd.” Am hyny, y credinwyr á fendithir gydag Abraham grediniol. Ond cynnifer y sydd o gyfraith gweithredoedd, dàn felldith y maent; canys ysgrifenwyd, “Melldigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau à ysgrifenir yn llyfr y gyfraith, iddeu gwneuthur hwynt.” Hefyd, na chyfiawnêir neb, gèr bron Duw, drwy gyfraith, sydd eglur: “Oblegid y cyfiawn drwy ffydd á fydd byw.” A’r gyfraith nid yw o ffydd; eithr yr hwn á wna y pethau hyn, á fydd byw drwyddynt. Crist á’n llwyrbrynodd oddwrth felldith y gyfraith, gàn fyned o hono yn felldith drosom: (canys y mae yn ysgrifenedig, “Melldigedig yw pob un y sydd yn nghrog àr bren:”) fel y delai bendith Abraham àr y cenedloedd drwy Grist Iesu; a fel y derbyniem addewid yr Ysbryd drwy ffydd. Frodyr, dywedyd yr wyf àr wedd ddynol: nid yw neb yn dirỳmu neu yn newid pe byddai ond Ewyllys dyn, wedi y cadarnâer ef. I Abraham y dywedwyd yr addewidion, ac iddei had ef. Nid yw yn dywedyd, “Ac yn dy hadau,” megys am lawer; ond megys am un, “Ac yn dy had di,” yr hwn yw Crist. Oherwydd paham, Hyn yr wyf yn ei sicrâu, am yr Ewyllys à gadarnâwyd o’r blaen gàn Dduw am Grist, nas gall y gyfraith à wnaed bedwar cant a deg ar ugain o flynyddoedd wedi, ei ddirỳmu, fel ag i wneuthur yr addewid yn ofer.

18Hefyd, os drwy gyfraith y mae yr etifeddiaeth, nid yw mwyach drwy addewid. Eithr Duw á’i rhadroddodd i Abraham drwy addewid.

19-20I ba beth, gàn hyny, y rhoddwyd y gyfraith?

Oblegid troseddau yr atchwanegwyd hi, hyd oni ddelai yr had i’r hwn y gwnaethid yr addewid; gàn fod wedi ei threfnu drwy gènadau, yn llaw Cyfryngwr; a’r Cyfryngwr nid yw i un blaid; ond Duw sydd un blaid.

21-29A ydyw y gyfraith, ynte, yn erbyn addewidion Duw? –

Na ato Duw. Canys pe rhoisid cyfraith à allasai fywâu, yn wir drwy gyfraith y buasai cyfiawnâad. Eithr cydgauodd yr Ysgrythyr bawb dàn bechod, fel y rhoddid yr addewid drwy ffydd yn Iesu Grist, i’r rhai sydd yn credu. Am hyny, cyn dyfod ffydd, ni á gedwid mewn dalfa dàn gyfraith, wedi ein cydgau i’r ffydd, yr hon oedd i gael ei dadguddio. Y gyfraith, gàn hyny, oedd ein hathraw ni at Grist, fel yn cyfiawnâid drwy ffydd. Eithr wedi dyfod ffydd, nid ydym mwyach dàn yr athraw hwn. Canys chwi oll ydych blant i Dduw, drwy y ffydd yn Nghrist Iesu. Hefyd, cynnifer o honoch ag á drochwyd i Grist, á wisgasoch Grist. Nid oes nac Iuddew na Groegwr, nid oes na chaeth na rhydd, nid oes na gwryw na benyw; canys chwi oll un ydych yn Nghrist Iesu. Ac os eiddo Crist ydych, yn wir had Abraham ydych, ac etifeddion yn ol yr addewid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help