2 Timotheus 2 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-26Gan hyny, fy mab, ymnertha yn y rhad y sy drwy Grist Iesu. A’r pethau à glywaist genyf fi drwy lawer o dystion, y rhai hyn traddoda i ddynion ffyddlawn, y rhai á fyddant gymhwys hefyd i ddysgu ereill. Goddef galedi fel milwr da i Iesu Grist. Nid yw neb y sydd yn milwrio, yn ymrwystro â negeseuau y bywyd hwn, fel y rhyngo fodd i’r hwn à’i dewisodd yn filwr. Ac od ymdrech neb hefyd yn y campiau, ni choronir ef onid ymdrech yn ol y cyfreithiau. Y mae yn raid i’r llafurwr lafurio, cyn iddo gyfranogi o’r ffrwythau. Ystyria yr hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd; a’r Arglwydd á roddo i ti ddeall yn mhob peth! Cofia i Iesu Grist, o had Dafydd, gael ei gyfodi o feirw, yn ol fy efengyl i; dros yr hon yr wyf yn goddef cystudd fel drygweithredwr, ïe hyd rwymau; eithr gair Duw nis rhwymir. Oherwydd hyn, yr ydwyf yn goddef pob peth yn amyneddgar èr mwyn yr etholedigion; fel y gallent hwythau gael yr iechydwriaeth y sy drwy Grist Iesu, gyda gogoniant tragwyddol. Y gair hwn sydd wir, mai os buom feirw gydag ef, byw fyddwn hefyd gydag ef; os ydym yn dyoddef yn amyneddgar, ni á deyrnaswn hefyd gydag ef; os ydym yn ei wadu ef, yntau hefyd á’n gwad ninnau. Er i ni fod yn anffyddlawn, y mae efe yn aros yn ffyddlawn; nis gall efe ei wadu ei hun. Dwg àr gof iddynt y pethau hyn; gàn dystiolaethu wrthynt yn ddifrifol yn ngwydd yr Arglwydd, na byddo iddynt ymryson yn nghylch geiriau, yr hyn nid yw fuddiol i ddim, ond i ddadymchwelyd y gwrandaẅwyr. Ymegnia i’th gyflwyno dy hun i Dduw yn weithiwr cymeradwy, difefl, yn iawngyfrànu gair y gwirionedd. Ond halogedig goegeiriau gwrthwyneba, canys cynnyddu á wnant i fwy o annuwioldeb. A’u hymadrodd hwy á ysa fel cancr; o’r sawl y mae Hymenêus a Philêtus; – y rhai, o berthynas i’r gwirionedd, á gyfeiliornasant, gàn daeru fod yr adgyfodiad wedi bod eisoes; – ac y maent yn dadymchwelyd ffydd rhai. Er hyny y mae sail Duw yn sefyll yn ddiysgog, a chanddi y graifft hon, Yr Arglwydd á wnaeth yn adnabyddus y rhai ydynt eiddo ef: – a, Pob un y sydd yn enwi enw yr Arglwydd, ymadawed oddwrth ddrygioni. Eithr, mewn tŷ mawr, y mae nid yn unig lestri o aur ac o arian, ond hefyd o bren ac o bridd; rhai i barch, a rhai i anmharch. Pwybynag gàn hyny á’i glanâo ei hun oddwrth y pethau hyn, efe á fydd yn llestr i barch, wedi ei santeiddio, ac yn ddefnyddiol iawn i’r meistr, wedi ei ddarparu i bob gwaith da. Ffo, gàn, hyny, oddwrth chwantau ieuenctid; a dilyn gyfiawnder, ffydd, cariad, heddwch â’r sawl y sydd yn galw àr yr Arglwydd o galon bur. Heblaw hyn, gwrthod ddadleuon ynfyd ac anwybodus, gàn wybod eu bod yn magu ymrysonau; a ni ddylai gwas yr Arglwydd ymryson, ond bod yn dirion wrth bawb, yn athrawus, yn ddyoddefgar; mewn addfwynder, yn dysgu y rhai gwrthwynebus; i edrych á ddyry Duw iddynt hwy ryw amser ddiwygiad i gydnabod gwirionedd; a bod iddynt ddeffroi i fyny allan o fagl y diafol, y rhai á ddelir ganddo wrth ei ewyllys.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help