1-14 Duw, gwedi iddo yn yr amseroedd gynt lefaru lawer gwaith, a llawer modd, wrth y tadau, drwy y prophwydi, yn y dyddiau diweddaf hyn á lefarodd wrthym ni drwy ei Fab, yr hwn á wnaeth efe yn Arglwydd pob peth; drwy yr hwn hefyd y gwnaeth efe y bydoedd; yr hwn, ac efe yn ddysgleirdeb ei ogoniant ef, ac yn wir ddarlun ei sylwedd ef, ac yn llywio pob peth â’i air nerthol ei hun, wedi iddo drwyddo ei hun wneuthur cymmod dros ein pechodau ni, á eisteddodd àr ddeheulaw y Mawredd yn yr uchelderau; wedi ei ddyrchafu o hyny yn uwch na’r angylion, o gymaint ag y mae yr enw à etifeddodd efe yn fwy rhagorol na’r eiddynt hwy. Canys wrth bwy o’r angylion y dywedodd efe un amser, “Fy Mab ydwyt ti: myfi heddyw á’th genedlais di?” a thrachefn, “Myfi á fyddaf iddo ef yn Dad, ac yntau á fydd i minnau yn Fab?” Eithr pan yw yn dwyn drachefn y cyntafanedig i’r byd, y mae yn dywedyd, “Addoled holl angylion Duw ef.” Ac am angylion y mae yn dywedyd, “Yr hwn sydd yn gwneuthur gwyntoedd yn angylion iddo, a than fflamllyd yn weinidogion.” Ond wrth y Mab, “Dy orseddfainc di, O Dduw, sydd yn oes oesoedd. Teyrnialen uniondeb yw teyrnialen dy deyrnas di’. Ti á geraist gyfiawnder, ac á gaseaist anwiredd; am hyny yth eneiniodd Duw, sef dy Dduw di, âg olew llawenydd tu hwnt i’th gyfeillion.” Ac, “Tydi yn y dechreuad, Arglwydd, á sylfaenaist y ddaiar, a’r nefoedd ydynt waith dy ddwylaw di. Hwynthwy á ddarfyddant, ond tydi sydd yn parâu; a hwynthwy oll fel dilledyn á heneiddiant; a megys gwisg y plygi di hwynt, a hwy á newidir: ond tydi yr un ydwyt, a’th flynyddoedd ni phallant byth.” Hefyd, wrth ba un o’r angylion y dywedodd efe un amser, “Eistedd àr fy neheulaw, hyd oni osodwyf dy elynion yn droedfainc i ti.” “Onid ysbrydion gwasanaethgar ydynt hwy oll, wedi eu danfon i wasanaethu èr mwyn y rhai à gant etifeddu iechydwriaeth.”
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.