Hebreaid 3 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-19Oherwydd paham, frodyr santaidd, cyfranogion o’r galwedigaeth nefol, ystyriwch Iesu, yr Apostol a’r Archoffeiriad à gyffesasom ni; yr hwn, megys ag y bu Moses, sy ffyddlawn i’r hwn à’i gosododd ef àr ei holl dŷ. Yn wir, fe gyfrifwyd hwn yn haeddu gogoniant o hyny yn fwy na Moses, o gymaint ag y mae anrhydedd yr adeiladydd yn fwy na’r eiddo y tŷ. Canys pob tŷ á adeiledir gàn ryw un; ond efe, adeiladydd pob peth, Duw ydyw. A Moses, yn wir, megys gwas, á fu ffyddlawn yn ei holl dŷ ef, èr tystiolaeth i’r pethau oedd i gael eu llefaru ganddo ef; eithr Crist, megys Mab àr ei dŷ ei hun; – tŷ yr hwn ydym ni, os nyni á geidw ein hyder, a gorfoledd ein gobaith yn sicr hyd y diwedd. Am hyny, megys y mae yr Ysbryd Glan yn dywedyd, “Heddyw, os gwrandewch àr ei leferydd ef, na chaledwch eich calonau, megys yn y cyffroad, yn nydd y profedigaeth yn y diffeithwch; lle y temtiodd eich tadau fi, ac y profasant fi, ac eto à welsant fy ngweithredoedd ddeugain mlynedd. Am hyny y digiais wrth y genedlaeth hòno, ac y dywedais, ‘Y maent bob amser yn cyfeiliorni yn eu calonau, a nid adnabuant fy ffyrdd i.’ Fel y tyngais yn fy llid, ‘Ni chant fyned i fewn i’m gorphwysfa i.’” Edrychwch, frodyr, na byddo yn neb o honoch galon ddrwg annghrediniol, drwy ymadaw oddwrth y Duw byw. Eithr, fel na chaleder neb o honoch drwy dwyll pechod, cynghorwch eich gilydd bob dydd tra y gelwir ef Heddyw: (canys cyfranogion o Grist ydym ni oll, os daliwn ein hyder cyntaf yn sicr hyd y diwedd;) â’r dywediad yma, “Heddyw, os gwrandewch àr ei leferydd ef, na chaledwch eich calonau, megys yn y cyffroad.” Pwy, ynte, gwedi iddynt glywed, á’i cyffroisant ef? Onid pawb, yn ddiau, à ddaethant o’r Aifft drwy Foses? Ac wrth bwy y digiodd efe ddeugain mlynedd? Onid wrth y rhai à bechasant, y rhai y syrthiodd eu cyrff yn y diffeithwch? Ac wrth bwy y tyngodd efe, na chaent fyned i fewn iddei orphwysfa ef, ond wrth y rhai ni chredasant? Felly yr ydym yn gweled nas gallent hwy fyned i fewn oherwydd annghrediniaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help