1-7A mi á sefais àr dywod y môr, ac á welais fwystfil yn codi o’r môr, â chanddo saith ben, a deg corn; ac àr ei gyrn ddeg coron; ac ar ei bènau enwau cabledd. A’r bwystfil à welais i oedd debyg i lewpard, a’i draed fel traed arth, a’i safn fel safn llew; a’r ddraig á roddodd iddo ef ei gallu, a’i gorseddfainc, ac awdurdod mawr. A mi á welais un o’i bènau ef megys wedi ei glwyfo yn farwol; ac eto ei friw marwol ef á iachawyd. A’r holl ddaiar á ryfeddodd, ac á aeth àr ol y bwystfil: – a hwy á addolasant y ddraig, yr hon á roes awdurdod i’r bwystfil; ac á addolasant y bwystfil, gàn ddywedyd, Pwy sy debyg i’r bwystfil? pwy á ddichon ryfela âg ef? A rhoddwyd iddo ef enau yn llefaru pethau mawrion, a chabledd: a rhoddwyd iddo awdurdod i weithredu ddau fis a deugain – ac efe á agorodd ei enau mewn cabledd yn erbyn Duw, i gablu ei enw ef, a’i babell, a’r rhai sydd yn trigo yn y nef. A chenadwyd iddo wneuthur rhyfel â’r saint, a’u gorchfygu hwynt: a rhoddwyd iddo awdurdod àr bob llwyth, ac iaith, a chenedl.
8-10A holl drigolion y ddaiar á’i haddolant ef, y rhai nad yw eu henwau yn ysgrifenedig yn llyfr bywyd yr Oen, yr hwn á laddwyd èr dechreuad y byd. Od oes gàn neb glust, gwrandawed. Os yw neb yn eu tywys hwynt i gaethiwed, efe á dywysir i gaethiwed: os lladd neb â chleddyf, rhaid yw ei ladd yntau â chleddyf. Yma y mae amynedd a ffydd y saint.
11-18A mi á welais fwystfil arall yn codi o’r ddaiar, ac yr oedd ganddo ddau gorn tebyg i oen; ond llefaru yr oedd fel draig. A holl allu y bwystfil cyntaf y mae efe yn ei ymarfer, yn ei wydd ef; ac y mae efe yn peri i’r ddaiar, a’r rhai sydd yn trigo ynddi, addoli y bwystfil cyntaf, yr hwn yr iachawyd ei glwyf marwol. Ac y mae yn gwneuthur gwyrthiau mawrion, hyd onid yw yn peri i dân ddisgyn o’r nef i’r ddaiar, yn ngolwg dynion; ac y mae efe yn twyllo trigolion y ddaiar drwy arwyddion, y rhai y caniatawyd iddo ef eu gwneuthur gèr bron y bwystfil; gàn orchymmyn i drigolion y ddaiar wneuthur delw i’r bwystfil, yr hwn á gafodd friw gàn y cleddyf ac à fu byw. A chaniatawyd iddo ef roddi anadl i ddelw y bwystfil, fel y llefarai delw y bwystfil, ac y perai fod i’r sawl nid addolent ddelw y bwystfil gael eu lladd. Ac y mae yn peri i bawb, fychain a mawrion, cyfoethogion a thylodion, rhyddion a chaethion, dderbyn y nod àr eu llaw ddëau neu àr eu talcènau: ac na allai neb na phrynu na gwerthu, ond yr hwn à fyddai ganddo y nod, enw y bwystfil, neu rifedi ei enw ef. Yma y mae doethineb: yr hwn sy ganddo ddeall, bwried rifedi y bwystfil; canys rhifedi dyn ydyw; a’i rifedi ef yw chwechant a thriugain a chwech.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.