1-6A daeth un o’r saith angel oedd â’r saith fail ganddynt, ac á ymddyddanodd â mi, gàn ddywedyd, Dyred, a mi á ddangosaf i ti farnedigaeth y butain fawr, y sydd yn eistedd àr ddyfroedd lawer: gyda’r hon y puteiniodd breninoedd y ddaiar, ac y meddwyd trigolion y ddaiar gàn win ei phuteindra hi. Ac efe á’m dyg i, yn yr Ysbryd, i’r diffeithwch: a mi á welais wraig, yn eistedd àr fwystfil o liw ysgarlad, yn llawn o enwau cableddus, â saith ben iddo, a deg corn. A’r wraig oedd wedi ei dilladu â phorphor, ac ysgarlad, a’i gwychu âg aur, ac â meini gwerthfawr, a pherlau; a chanddi gwpan aur yn ei llaw, yn llawn o ffieidd‐dra ac affendid ei phuteindra hi. Ac àr ei thalcen, yr oedd ei henw gwedi ei ysgrifenu, DIRGELWCH, BABILON FAWR, MAM PUTEINIAID, A MAM FFIEIDD‐DRA Y DDAIAR. – A mi á welais y wraig yn feddw gàn waed y saint, a chàn waed merthyron Iesu: a phan ei gwelais, mi á ryfeddais á rhyfeddod fawr.
7-14A’r angel á ddywedodd wrthyf, Paham y rhyfeddi? Mi á ddywedaf i ti ystyr dirgeledig y wraig, a’r eiddo y bwystfil sydd yn ei dwyn hi, yr hwn sydd â’r saith ben ganddo, a’r deg corn. Y bwystfil à welaist, á fu, ac nid yw; a bydd iddo ddyfod i fyny o’r pydew heb waelod, a myned i ddystryw; a thrigolion y ddaiar, (y rhai nid ysgrifenwyd eu henwau yn llyfr y bywyd èr seiliad y byd,) á ryfeddant, pan welont y bwystfil, y bu, ac nid yw, ac y bydd eto. Dyma y meddwl sydd â doethineb ganddo. Y saith ben saith fynydd ydynt, lle mae y wraig yn eistedd arnynt. Ac y mae saith brenin; pump á gwympasant, ac un sydd, a’r llall ni ddaeth eto; a phan ddaw, rhaid iddo aros ychydig. A’r bwystfil, yr hwn oedd, ac nid ydyw, yntau yw yr wythfed, ac o’r saith y mae, ac i ddinystr y mae yn myned. A’r deg corn, à welaist, deg brenin ydynt, y rhai ni dderbyniasant eu breniniaeth eto, eithr awdurdod á dderbyniant gyda’r bwystfil, fel breninoedd yr un amser. Yr un meddwl sy gàn y rhai hyn, a hwy á roddant i fyny eu gallu a’u hawdurdod i’r bwystfil. Y rhai hyn á ryfelant â’r Oen; a’r Oen á’u gorchfyga hwynt: oblegid Arglwydd arglwyddi ydyw, a Brenin breninoedd; a’r rhai sy gydag ef, sydd alwedig, ac etholedig, a ffyddlawn.
15-18Ac efe á ddywedodd wrthyf, Y dyfroedd à welaist, lle y mae y butain yn eistedd, pobloedd, a thyrfeydd, a chenedloedd, ac ieithoedd, ydynt. A’r deg corn à welaist àr y bwystfil, y rhai hyn á gasânt y butain, ac á’i gwnant hi yn annghyfannedd ac yn noeth; a hwy á fwytânt ei chnawd hi, ac á’i llosgant hi â thân. Canys Duw á roddodd yn eu calonau hwy wneuthur ei ewyllys ef, sef gwneuthur un bwriad; ac i roddi eu teyrnas i’r bwystfil, hyd oni chyflawner geiriau Duw. A’r wraig à welaist, yw y ddinas fawr, sydd yn llywodraethu àr freninoedd y ddaiar.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.