Rhufeiniaid 1 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-7Paul, gwas i Iesu Grist, Apostol galwedig, wedi ei neillduo i Efengyl Duw, (yr hon á fynegasai efe o’r blaen drwy ei broffwydi, yn yr Ysgrifeniadau Cysegrlan,) am ei Fab, Iesu Grist ein Harglwydd ni; yr hwn á hanodd o Ddafydd, o ràn ei gnawd, ac á arbenodwyd yn Fab Duw mewn gallu, o ràn ei natur ysbrydol santaidd, àr ol ei adgyfodiad oddwrth y meirw: drwy yr hwn y derbyniasom rad, sef yr apostoliaeth, èr ufydd‐dod ffydd yn mhlith yr holl genedloedd, er mwyn ei enw ef; yn mysg y rhai yr ydych chwithau, hefyd, yn alwedigion Iesu Grist: At bawb à sydd yn Rhufain, yn anwyl gàn Dduw, yn saint galwedig; rhad fo i chwi, a thangnefedd oddwrth Dduw ein Tad, a’r Arglwydd Iesu Grist.

8-12Yn gyntaf, yr wyf yn diolch i’m Duw, drwy yr Arglwydd Iesu Grist, drosoch chwi oll, oblegid bod eich ffydd chwi yn gyhoeddus yn yr holl fyd. Canys tyst i mi yw Duw, yr hwn yr ydwyf yn ddiffuant yn ei wasanaethu yn efengyl ei Fab ef, fy mod yn ddibaid yn gwneuthur coffa o honoch, gàn ddeisyf bob amser yn fy ngweddiau, a gawn, ryw fodd, weithian bellach, rwyddhynt, (gydag ewyllys Duw,) i ddyfod atoch chwi. Canys yr wyf yn chwennychu yn fawr eich gweled, fel y gallwyf gyfranu i chwi ryw ddawn ysbrydol, èr eich cadarnâu; a fel y caffwyf fy nghydgysuro gyda chwi, drwy ffydd ein gilydd, yr eiddoch chwi a’r eiddof finnau.

13-17Eithr ni fỳnwn i chwi fod heb wybod, frodyr, i mi yn fynych arfaethu dyfod atoch, èr i mi gael fy lluddio hyd yn hyn; fel y cawn ryw ffrwyth yn eich plith chwithau, fel yn mhlith y Cenedloedd ereill. Dyledwr ydwyf i’r Groegiaid, ac i’r barbariaid hefyd; i’r doethion, ac i’r annoethion hefyd. Am hyny, parod ydwyf, hyd y mae ynof, i gyhoeddi y newydd da i chwithau hefyd, y rhai ydych yn Rhufain. Canys nid oes arnaf gywilydd o’r efengyl; oblegid gallu Duw yw hi èr iechydwriaeth, i bob un à sydd yn credu; i’r Iuddew yn gyntaf, a hefyd i’r Groegwr. Oblegid ynddi hi y dadguddir cyfiawnâad Duw drwy ffydd, èr ffydd; megys y mae yn ysgrifenedig, “Y cyfiawn á fydd byw drwy ffydd.”

18-25Heblaw hyny, digofaint Duw á ddadguddir o’r nef, yn erbyn pob annuwioldeb ac annghyfiawnder dynion, y rhai sydd yn attal y gwirionedd drwy annghyfiawnder. Oblegid yr hyn à ellir ei wybod am Dduw sydd eglur yn eu mysg hwynt, canys Duw á’i heglurodd iddynt: (oblegid ei anweledig briodoliaethau ef, sef ei dragywyddol allu a’i dduwdod, èr crëad y byd, ydynt dra amlwg; yn cael eu hadnabod drwy ei weithredoedd:) hyd onid ydynt yn ddiesgus. Oblegid, èr eu bod yn adnabod Duw, nis gogoneddasant ef megys Duw, a ni buont ddiolchgar iddo; ond ynfyd yr aethant drwy eu rhesymiadau eu hunain, a’u calon anystyriol hwynt á dywyllwyd. Gan broffesu bod yn ddoethion, hwy á aethant yn ffyliaid: canys hwy á newidiasant ogoniant yr anfarwol Dduw, i gyffelybiaeth delw dyn marwol, ehediaid, anifeiliaid pedwarcarnol, ac ymlusgiaid. O ba erwydd, Duw hefyd, drwy drachwantau eu calonau eu hunain, á’u rhoddes hwynt i fyny i aflendid, i anmherchi eu cyrff eu hun yn eu plith eu hunain. Y rhai á newidiasant y gwirionedd am Dduw yn gelwydd, ac á addolasant ac á wasanaethasant y creadur yn fwy na’r Creawdwr, yr hwn sy fendigedig yn dragywydd. Amen.

26-32Oblegid hyn y rhoddes Duw hwynt i fyny i wyniau gwarthus; canys hyd y nod eu benywod á newidiasant yr arfer naturiol i’r hon sydd yn erbyn natur. Yn gyffelyb, y gwrywod hefyd, gàn adael yr arfer naturiol o’r fenyw, á ymlosgent yn eu hawydd iddeu gilydd, gwrywod gyda gwrywod, yn gwneuthur brynti, ac yn derbyn ynynt eu hunain y cyfryw dâl am eu cyfeiliorni ag ydoedd ddyledus. A megys nad oedd gymeradwy ganddynt gydnabod Duw, Duw á’u rhoddes hwynt i fyny i feddwl diddirnadol, i wneuthur y pethau nid ydynt weddaidd; wedi eu llenwi â phob annghyfiawnder, godineb, anwiredd, cybydd‐dod, dryganiaeth; yn llawn cenfigen, llofruddiaeth, cynhen, twyll, drygarferion; yn hustingwyr, yn athrodwyr, yn gas ganddynt Dduw, yn drahaus, yn feilchion, yn ffrostwyr, yn ddyfeiswyr drygau, yn anufyddion i rieni, yn ddigywilydd, yn dòrwyr ammod, yn ddiserch, yn annghymmodlawn, yn annhrugarogion. Yn rai, èr eu bod yn deall yn eglur ddeddf Duw, (bod y sawl à wnant y cyfryw bethau yn haeddu marwolaeth,) y sy nid yn unig yn gwneuthur y pethau hyn, ond hefyd yn canmol y rhai sydd yn eu gwneuthur hwynt.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help