1-5A mi á edrychais, ac wele yr Oen yn sefyll àr fynydd Sïon, a chydag ef bedair mil a seithugeinmil, a chanddynt enw ei Dad ef yn ysgrifenedig àr eu talcènau. A mi á glywais lais o’r nef, fel trwst dyfroedd lawer, ac fel trwst taran fawr: a mi á glywais lais telynorion yn canu àr eu telynau. A hwy á ganasant ganiad newydd gèr bron yr orseddfainc, a chèr bron y pedwar anifail, a’r henuriaid: ac ni allai neb ddysgu y gân, ond y pedair mil a’r seithugeinmil, y rhai á brynwyd oddar y ddaiar. Y rhai hyn yw y rhai ni halogwyd â gwragedd; canys gwyryfon ydynt. Y rhai hyn yw y rhai y sydd yn dilyn yr Oen, pa le bynag yr elo. Y rhai hyn á brynwyd o blith dynion, yn flaenffrwyth i Dduw, ac i’r Oen. Ac yn eu genau ni chaed twyll; canys difai ydynt.
6-12A mi á welais angel arall yn ehedeg yn nghanol y nef, â newydd da tragwyddol ganddo, i gyhoeddi i drigolion y ddaiar, nid amgen i bob cenedl, a llwyth, ac iaith, a phobl; gàn ddywedyd â llais uchel, Ofnwch Dduw, a rhoddwch ogoniant iddo; oblegid daeth awr ei farnedigaeth ef: ac addolwch yr hwn à wnaeth y nef, a’r ddaiar, a’r môr, a’r ffynnonau dyfroedd. Ac angel arall á ddilynodd, gàn ddywedyd, Syrthiodd, syrthiodd Babilon Fawr; oblegid hi á ddiododd yr holl genedloedd â gwin ei phuteindra cynddeirioglawn. A thrydydd angel á’u dilynodd hwynt, gàn ddywedyd â llais uchel, Os addola neb y bwystfil, a’i ddelw ef, a derbyn ei nod ef àr ei dalcen, neu àr ei law, hwnw hefyd á ŷf o win digofaint Duw, yr hwn á ddarparwyd, yn ddigymysg, yn nghwpan ei lid ef; ac efe á boenir â than a brwmstan yn ngwydd yr angylion santaidd, ac yn ngwydd yr Oen. A mwg eu poenedigaeth sydd yn myned i fyny yn oes oesoedd: ac nid ydynt hwy yn cael gorphwysdra ddydd na nos, y rhai sydd yn addoli y bwystfil, a’i ddelw ef; a phwybynag sydd yn derbyn nod ei enw ef. Yma y mae amynedd y saint: yma y mae y rhai sydd yn cadw gorchymynion Duw, a ffydd Iesu.
13A mi á glywais lais o’r nef, yn dywedyd, Ysgrifena; O hyn allan, gwynfydedig yw y meirw y rhai sydd yn marw yn yr Arglwydd; ie, medd yr Ysbryd; fel y gorphwysont oddwrth eu llafur; ac y mae eu gweithredoedd yn eu canlyn hwynt.
14-16A mi á edrychais, ac wele, gwmwl gwyn, ac àr y cwmwl un yn eistedd tebyg i Fab dyn, a chanddo ar ei ben goron o aur, ac yn ei law gryman llym. Ac angel arall á ddaeth allan o deml Duw, gàn lefain â llef uchel wrth yr hwn oedd yn eistedd ar y cwmwl, Bwrw dy gryman i fewn, a meda; canys daeth yr amser i fedi, oblegid addfedodd cynauaf y ddaiar. – A’r hwn oedd yn eistedd àr y cwmwl á fwriodd ei gryman ar y ddaiar; a’r ddaiar á fedwyd.
17-20Ac angel arall á ddaeth allan o’r deml oedd yn y nef; ac yr oedd ganddo yntau gryman llym. Ac angel arall á ddaeth allan oddwrth yr allor, yr hwn oedd âg awdurdod ganddo àr y tân; ac efe á lefodd â bloedd uchel àr yr hwn oedd â’r cryman llym ganddo, gàn ddywedyd, Bwrw i fewn dy gryman llym, a chasgl rawnsypiau y winwydden àr y ddaiar; oblegid addfedodd ei grawn hi. A’r angel á fwriodd ei gryman àr y ddaiar; ac efe á’u bwriodd i winwryf mawr digofaint Duw. A’r gwinwryf, yr hwn oedd o’r tu allan i’r ddinas, á sathrwyd; a’r gwaed á ddaeth allan o’r gwinwryf, hyd at ffrwynau y meirch, àr hyd mil a chwe chant o ystadau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.