Rhufeiniaid 7 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-6Oni wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod cyfraith yr wyf yn dywedyd,) bod y gyfraith yn arglwyddiaethu àr ddyn tra byddo efe byw? Canys y wraig briod sydd yn rwym, wrth gyfraith, i’r gwr, tra byddo efe byw; ond os bydd marw y gwr, y mae hi gwedi ei rhyddâu oddwrth gyfraith ei gwr. Felly, ynte, os a’r gwr yn fyw, y bydd hi yn eiddo gwr arall, hi á elwir yn odinebus; eithr os marw fydd ei gwr hi, y mae hi yn rydd oddwrth y gyfraith; fel nad yw hi odinebus, èr bod yn eiddo gwr arall. Felly chwithau, fy mrodyr, ydych wedi meirw i’r gyfraith, drwy gorff Crist, fel y byddoch eiddo un arall, yr hwn á gyfodwyd o feirw, fel y dygom ffrwyth i Dduw. Canys pan oeddym yn y cnawd, ein gwŷniau pechadurus y rhai oedd drwy y gyfraith, oedd yn gweithio yn ein haelodau ni, i ddwyn ffrwyth i farwolaeth. Eithr yn awr, wedi ein meirw gyda Christ, y rhyddawyd ni oddwrth y gyfraith, gàn yr hon yn dèlid yn rwym; fel y gwasanaethom Dduw mewn newydd‐deb ysbryd, a nid yn hender y llythyren.

7-12Beth, gàn hyny, á ddywedwn ni? Ai pechod yw y gyfraith?

Na ato Duw. Eithr nid adnabuaswn ni bechod, ond drwy y gyfraith. Canys nid adnabuaswn i drachwant, oni bai ddywedyd o’r gyfraith, “Na thrachwanta.” Eithr pechod, wedi cymeryd achlysur drwy y gorchymyn, á weithiodd ynof fi bob trachwant; canys heb y gyfraith marw yw pechod. Canys yr oeddwn i gynt yn fyw heb y gyfraith; ond pan ddaeth y gorchymyn, yr adfywiodd pechod, a minnau á fum farw. Ie, y gorchymyn yr hwn ydoedd i fywyd, hwnw á gaed i mi yn farwolaeth. Canys pechod, wedi cymeryd achlysur drwy y gorchymyn, á’m twyllodd i, a thrwy hwnw á’m lladdodd. Am hyny, y mae y gyfraith yn santaidd, a’r gorchymyn yn santaidd, yn gyfiawn, ac yn dda.

13-25Gan hyny, á wnaed yr hyn sy dda yn farwolaeth i mi?

Na ato Duw. Eithr pechod á wnaed yn farwolaeth, fel yr ymddangosai yn peri marwolaeth i mi, drwy yr hyn sy dda; fel y byddai pechod (drwy y gorchymyn) yn bechadur mawr iawn. Heblaw hyny, ni á wyddom bod y gyfraith yn ysbrydol; ond myfi sy gnawdol, wedi fy ngwerthu dàn bechod. Canys yr hyn yr wyf yn ei wneuthur, nid wyf yn ei gymeradwyo; eithr y peth sy gas genyf, yr wyf yn ei wneuthur. Ac os y peth nid wyf yn ei ewyllysio, yr wyf yn ei wneuthur, yr wyf fi yn cydsynio â’r gyfraith mai da ydyw. Eithr yr awrhon nid myfi sy mwy yn gwneuthur hyn; ond pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. Canys mi á wn nad oes ynof fi, hyny yw, yn fy nghnawd i, ddim da yn trigo; oblegid ewyllysio yr hyn sy dda, sy hawdd genyf; eithr ei gwblâu, nid wyf yn ei gael yn hawdd. Canys y da yr wyf yn ei ewyllysio, nid hyny yr wyf yn ei wneuthur; ond y drwg yr hwn nid wyf yn ei ewyllysio, hyny yr wyf yn ei wneuthur. Ac os ydwyf fi yn gwneuthur yr hyn nid wyf yn ei ewyllysio, nid myfi mwyach sydd yn ei wneuthur, ond pechod yr hwn sydd yn trigo ynof fi. Yr ydwyf, gàn hyny, yn ei chael yn gyfraith i mi, pan yn ewyllysio gwneuthur da, bod drwg yn agos ataf. Canys ymhyfrydu yr wyf yn nghyfraith Duw, o ràn y dyn oddifewn: eithr yr ydwyf yn canfod cyfraith arall yn fy aelodau, yn gwrthryfela yn erbyn cyfraith fy meddwl, ac yn fy ngwneuthur yn gaeth i gyfraith pechod, yr hon sydd yn fy aelodau. Ystruan o ddyn wyf fi! pwy á’m gwared i oddwrth y corff marwolaeth hwn? Yr wyf fi yn diolch i Dduw, drwy Iesu Grist ein Harglwydd! Felly, gàn hyny, yr wyf fi fy hun, â’r meddwl, yn gwasanaethu cyfraith Duw; ond â’r cnawd, cyfraith pechod.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help