2 Corinthiaid 7 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-3Am hyny, gàn fod genym yr addewidion hyn, garedigion, ymlanâwn oddwrth bob halogrwydd cnawd ac ysbryd; gàn berffeithio santeiddrwydd yn ofn Duw. Derbyniwch ni yn garedigol. Ni wnaethom gam â neb; ni lygrasom neb; ni thwyllasom neb. Nid i’ch collfarnu yr wyf yn dywedyd hyn; canys mi á ddywedais o’r blaen, eich bod chwi yn ein calonau ni, i farw ac i fyw gyda chwi.

4-16Mawr yw fy hyfder ymadrodd wrthych; mawr yw fy most o’ch plegid chwi: yr wyf yn llawn o ddyddanwch, yn dra chyflawn o lawenydd yn ein holl orthrymder. Canys wedi ein dyfod ni i Facedonia, ni chafodd ein cnawd ni ddim llonydd, eithr ein gwasgu yr oeddid o bob tu: oddi allan yr oedd ymladdau – oddi fewn ofnau. Er hyny, Duw, yr hwn sydd yn dyddanu y rhai cystuddiedig, á’n dyddanodd ninnau drwy ddyfodiad Titus: – (nid, yn wir, drwy ei ddyfodiad yn unig; ond yn fwy enwedigol drwy y dyddanwch â’r hwn y dyddanwyd ef genych chwi;) – pan fynegodd efe i ni eich awyddfryd chwi, eich galar, eich brwdfrydedd drosof fi; fel y llawenychais i yn fwy. Am hyny, èr i mi eich tristâu chwi drwy y llythyr, nid yw yn edifar genyf, èr y bu yn edifar genyf; canys yr wyf yn gweled ddarfod i’r llythyr hwnw, èr ei fod yn yr adeg, eich tristâu chwi. Yn awr yr ydwyf yn llawenâu; nid am eich tristâu chwi, ond am eich tristâu i ddiwygiad: canys gwaethwyd i chwi dristâu yn dduwiol, fel na chaech gam mewn dim oddwrthym ni. Canys duwiol dristwch sydd yn gweithio diwygiad i iechydwriaeth, ni bydd edifeirwch am dani; eithr tristwch y byd sydd yn gweithio angeu. Wele, yn awr, y peth yma, – eich tristâu chwi yn dduwiol, – pa astudrwydd á weithiodd ynoch; ïe, pa ymddiheurad; ïe, pa sòriant; ïe, pa ofn; ïe, pa awyddfryd; ïe, pa frwdfrydedd; ïe, pa ddial! Ar y cyfan, chwi á ddangosasoch eich hunain yn bur yn y peth hwn. Ac, yn wir, èr ysgrifenu o honof atoch, nid oedd o ran yr hwn à wnaethai y cam, nac o ran yr hwn à gawsai y cam; ond yn hytrach, èr mwyn gwneyd yn amlwg i chwi, ein gofal drosoch, yn ngwydd Duw. Oblegid hyn, nyni á ddyddanwyd yn eich dyddanwch chwi; ïe, mwy o lawer y buom lawen am lawenydd Titus, oblegid esmwythâu àr ei ysbryd ef genych chwi oll. Canys os bostiais ddim wrtho ef am danoch, nid oes arnaf gywilydd: oherwydd megys y dywedasom bob dim wrthych mewn gwirionedd, felly hefyd y gwirioneddwyd ein bost ni wrth Ditus. Ac y mae ei serch ef yn helaethach tuag atoch chwi, wrth gofio o hono eich ufydd‐dod chwi oll, a pha wedd, drwy ofn ac arswyd, y derbyniasoch chwi ef. Llawen ydwyf, am fod genyf hyder ynoch yn mhob dim.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help