1-3 Yr henuriad, at yr anwyl Gaius, yr hwn yr wyf yn ei garu yn y gwirionedd. Anwylyd, yr wyf yn dymuno dy fod o ran pob peth yn llwyddo ac yn iach, fel y mae dy enaid yn llwyddo. Canys mi á lawenychais yn fawr, pan ddaeth y brodyr, a thystiolaethu am dy wirionedd di, megys ag yr ydwyt yn rhodio mewn gwirionedd.
4-15Mwy llawenydd na hyn nid oes genyf, sef cael clywed bod fy mhlant yn rhodio mewn gwirionedd. Anwylyd, ffyddlawn yr ydwyt yn gwneuthur yr hyn yr wyt yn ei wneuthur i’r brodyr, ac i’r dyeithriaid. Y rhai hyn á ddygasant dystiolaeth i’th gariad yn ngwydd y gynnulleidfa; y rhai, os hebryngi fel y gweddai i Dduw, da y gwnai, Oblegid, èr mwyn ei enw ef yr aethant allan, heb gael dim gàn y cenedloedd. Ni á ddylem, gàn hyny, resawu y cyfryw rai, fel y byddom gydweithwyr yn y gwirionedd. Mi á ysgrifenais at y gynnulleidfa; eithr Diotrephes, yr hwn sydd yn chwennych y blaen yn eu plith hwy, ni dderbyn ddim o honom. Oherwydd hyn, pan ddeuaf, mi á ddygaf àr gof ei weithredoedd ef, y rhai y mae efe yn eu gwneuthur – gàn wagsiared i’n herbyn â geiriau maleisus; ac heb fod yn foddlon àr hyny, nid yw efe ei hun yn derbyn y brodyr, a’r sawl y sydd yn ewyllysio, y mae efe yn eu gwahardd, ac yn eu bwrw allan o’r gynnulleidfa. Anwylyd, nac efelycha yr hyn sy ddrwg, ond yr hyn sy dda. Yr hwn sydd yn gwneuthur daioni, o Dduw y mae; ond yr hwn sydd yn gwneuthur drygioni, ni welodd Dduw. Y mae i Ddemetrius air da gàn bawb, a chan y gwirionedd ei hun: ac yr ydym ninnau hefyd yn dwyn tystiolaeth iddo; a chwi á wyddoch bod ein tystiolaeth ni yn wir. Y mae genyf lawer o bethau iddeu hysgrifenu; ond nid wyf yn chwennych ysgrifenu â phin ac inc atat ti; canys yr wyf yn gobeithio cael dy weled di àr fyrder, a ni á gawn ymddyddan wyneb yn wyneb. Tangnefedd i ti. Y mae y cyfeillion yma yn dy anerch. Anerch y cyfeillion wrth eu henwau.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.