1-17A myfi, frodyr, nis gallwn lefaru wrthych megys wrth rai ysbrydol, ond megys wrth rai cnawdol, megys wrth fabanod yn Nghrist. Llaeth á roddais i chwi – nid bwyd; canys y pryd hyny nis gallech ei dderbyn; a nis gellwch eto yr awrhon chwaith, oblegid cnawdol ydych chwi eto. Canys, yn gymaint a bod yn eich plith chwi genfigen, a chynhen, ac ymbleidiau; onid ydych yn gnawdol, ac yn rhodio yn ol dull dynion? Hefyd, tra y dywedo un, Myfi, yn wir, ydwyf eiddo Paul; ac arall, Myfi wyf eiddo Apòlos, onid ydych chwi yn gnawdol? Canys pwy yw Paul, a phwy yw Apòlos; ond gweinidogion drwy y rhai y credasoch chwi, a felly yn ol fel y rhoddes yr Arglwydd i bob un? Myfi á blènais, Apòlos, á ddyfrâodd; ond Duw á barodd dyfu. Fel nad yw y plànwr ddim, na’r dyfräwr chwaith, ond Duw yr hwn sydd yn peri tyfu. Y plànwr, gàn hyny, a’r dyfräwr, un ydynt; a phob un á dderbyn ei briod obr ei hun, yn ol ei lafur ei hun. Oherwydd paham, cydlafurwyr dàn Dduw ydym ni. Maes Duw; adeilad Duw, ydych chwi. Yn ol y rhad Duw, à rodded i mi, fel pensaer celfydd myfi á osodais y sylfaen, ac arall sydd yn adeiladu arni. Ond edryched pob un pa wedd y mae yn adeiladu arni. Canys sylfaen arall nis gall neb ei gosod, heblaw yr un à osodwyd, yr hon yw Iesu Grist. Ac os adeilada neb àr y sylfaen hon, aur, arian, meini gwerthfawr, coed, gwair, sofl; gwaith pob un á wneir yn amlwg: canys y dydd á’i dengys, oblegid drwy dan y dadguddir ef; a felly y tan á brawf waith pawb, pa fath ydyw. Os gwaith neb á erys, yr hwn á adeiladodd efe àr y sylfaen; efe á dderbyn obr. Os gwaith neb á losgir, efe á gaiff golled: eithr efe ei hun á fydd cadwedig, eto felly megys drwy dan. Oni wyddoch chwi mai teml Duw ydych, a bod Ysbryd Duw yn trigo yn eich plith? Os dinystria neb deml Duw, Duw á ddinystria hwnw; canys santaidd yw teml Duw, yr hon ydych chwi.
18-23Na thwylled neb ei hunan. Od oes neb yn eich mysg yn meddwl bod yn ddoeth yn yr oes hon, aed yn ffol, fel y byddo doeth. Canys doethineb y byd hwn sy ffolineb gyda Duw; oherwydd ysgrifenedig yw, “Y mae efe yn dal y doethion yn eu cyfrwysdra.” A thrachefn, “Yr Arglwydd á edwyn resymiadau y doethion, mai ofer ydynt.” Am hyny, nac ymffrostied neb mewn dynion; canys pob peth sydd eiddoch chwi: pynag ai Paul, ai Apòlos, ai Cephas, ai y byd, ai bywyd, ai angeu, ai pethau presennol, ai pethau i ddyfod – y mae pob peth yn eiddoch chwi; a chwithau yn eiddo Crist, a Christ yn eiddo Duw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.