2 Corinthiaid 1 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-2 Paul, Apostol i Iesu Grist, drwy ewyllys Duw, ac y brawd Timothëus, at gynnulleidfa Duw yr hon sydd yn Nghorinth, gyda phawb o’r saint y rhai sydd yn holl Achaia: Rhad i chwi, a thangnefedd oddwrth Dduw ein Tad, ac oddwrth yr Arglwydd Iesu Grist.

3-24Bendigedig fyddo Duw a Thad ein Harglwydd Iesu Grist, Tad y tosturiaethau, a Duw pob dyddanwch! yr hwn sydd yn ein dyddanu ni yn ein holl orthrymder, fel y gallom ninnau ddyddanu y sawl sy mewn dim gorthrymder, drwy y dyddanwch â’r hwn y dyddenir ni ein hunain gàn Dduw. Oblegid fel y mae y dyoddefiadau dros Grist yn amlâu ynom ni, felly hefyd, drwy Grist, y mae ein dyddanwch ni yn amlâu. A pha un bynag ai ein gorthrymu yr ydys, èr dyddanwch ac iechydwriaeth i chwi y mae; ai ein dyddanu yr ydys, èr dyddanwch i chwi y mae, yr hwn á effeithir drwy ymaros dàn yr un dyoddefiadau, y rhai yr ydym ninnau yn eu dyoddef. Ac y mae ein gobaith am danoch chwi yn sicr, gàn wybod, mai megys yr ydych yn gyfranogion o’r dyoddefiadau, felly y byddwch hefyd o’r dyddanwch. Am hyny, ni fynem i chwi fod heb wybod, frodyr, am ein cystudd, à ddygwyddodd i ni yn Asia; ddarfod ein gorthrymu yn ddirfawr uwchlaw ein gallu, nes oeddym yn anobeithio hyd y nod am ein bywyd. Nid hyny yn unig, eithr ni á gawsom ein hunain farn angeu ynom ein hunain, fel na byddai i ni ymddiried ynom ein hunain, ond yn Nuw, yr hwn sydd yn cyfodi y meirw; yr hwn á’n gwaredodd ni oddwrth gyfryw ddirfawr angeu, ac y sydd yn ein gwaredu; yn yr hwn yr ydym yn ymddiried, y gweryd efe ni hefyd rhagllaw; a chwithau hefyd yn cydweithio drosom mewn gweddi, fel, am y rhodd i ni oddwrth lawer, y rhodder diolch, gàn lawer, drosom. Canys hyn yw ein gorfoledd ni, – tystiolaeth ein cydwybod, mai gyda symledd a chywirdeb duwiol, (nid gyda doethineb cnawdol, ond drwy rad Duw,) yr ymddygasom yn y byd, ac yn helaethach yn eich plith chwi. Canys nid ydym yn ysgrifenu dim arall atoch, oddigerth y pethau yr ydych yn eu darllen, ac yn eu cydnabod hefyd; ac yr wyf yn gobeithio á gydnabyddwch, hyd y diwedd; megys, yn wir, y cydnabuoch ni mewn rhan, mai nyni yw eich bost chwi, fel chwithau yr eiddom ninnau hefyd, yn nydd yr Arglwydd Iesu. Ac yn yr hyder hwn yr oedd yn fy mryd ddyfod atoch yn gyntaf, fel y caffech ail ddawn; a myned heibio chwi i Facedonia, a dyfod drachefn o Facedonia atoch, a chael fy hebrwng genych i Iuwdea. Gwedi i mi, gàn hyny, fwriadu hyn, á arferais i ysgafnder? neu y pethau yr wyf yn eu bwriadu, ai yn ol y cnawd yr wyf yn eu bwriadu, fel y byddai gyda mi ïe, ïe, a nage, nage? Eithr gàn mai ffyddlawn yw Duw, yn ddiau ein hymadrodd ni wrthych chwi, ni bu ïe a nage. Canys Mab Duw, Iesu Grist, yr hwn á gyhoeddwyd i chwi genym ni, sef genyf fi a Silfanus, a Thimothëus, nid ydoedd ïe a nage; eithr ynddo ef ïe ydoedd. A pha addewidion bynag ydynt eiddo Duw, drwyddo ef oeddynt ïe, a thrwyddo ef amen, èr gogoniant i Dduw, trwom ni. A’r hwn sydd yn ein cadarnâu ni gyda chwi yn Nghrist, a’r hwn à’n heneiniodd ni, yw Duw; yr hwn hefyd á’n seliodd ni, ac á roddes i ni ernes yr Ysbryd yn ein calonau. Yn mhellach, yr wyf fi yn galw àr Dduw yn dyst yn erbyn fy enaid, mai èr eich arbed chwi na ddaethym eto i Gorinth. Nid ein bod yn arglwyddiaethu àr eich ffydd chwi, ond cydweithwyr ydym ni èr eich llawenydd; oblegid drwy y ffydd yr ydych yn sefyll.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help