1-6Am hyny, gàn roddi heibio egwyddorion cyntaf athrawiaeth Crist, awn rhagom at gyflawn oed, heb osod i lawr drachefn y sylfaen gyda golwg àr ddiwygiad oddwrth weithredoedd meirwon, a ffydd tuagat Dduw; gyda golwg àr athrawiaeth trochiadau, ac arddodiad dwylaw, ac adgyfodiad y meirw a’r farn dragwyddol; a hyn á wnawn, os caniatâa Duw. Canys annichon yw adnewyddu drachefn i ddiwygiad, y rhai à oleuwyd unwaith, ac á brofasant y rhodd nefol, ac á wnaethwyd yn gyfranogion o’r Ysbryd Glan, ac a brofasant ddaionus air Duw, a nerthoedd y byd oedd àr ddyfod, ac èr hyny á syrthiasant ymaith, gàn ailgroeshoelio iddynt eu hunain Fab Duw, a’i osod yn watwor.
7-8Canys y tir, yr hwn sydd yn yfed y gwlaw sydd yn mynych ddyfod arno, ac yn dwyn llysiau cymhwys i’r rhai y llafurir ef ganddynt, sydd yn derbyn bendith gàn Dduw: eithr yr hwn sydd yn dwyn drain a mieri, sydd annghymeradwy, ac agos i felldith, diwedd yr hwn yw ei losgi.
9-20Eithr yr ydym ni yn coelio am danoch chwi, garedigion, bethau gwell, sef pethau yn nglyn wrth iechydwriaeth, èr ein bod yn dywedyd fel hyn. Canys nid yw Duw yn annghyfiawn fel yr annghofio eich gwaith, a’r cariad à ddangosasoch tuagat ei enw ef, y rhai á weiniasoch i’r saint, ac ydych yn gweini. Eto yr ydym yn taerddeisyf fod i bob un o honoch ddangos yr un diwydrwydd, èr mwyn llawn sicrwydd gobaith hyd y diwedd; fel na byddoch fusgrell, eithr yn ddilynwyr i’r rhai, drwy ffydd ac amynedd, sydd yn etifeddu yr addewidion. Canys Duw, wrth wneuthur addewid i Abraham, oblegid na allai dyngu i neb oedd fwy, á dyngodd iddo ei hun, – gàn ddywedyd, “Yn ddiau, gàn fendithio, yth fendithiaf, a chàn amlâu, yth amlâaf;” a felly, gwedi iddo hirymaros, efe á gafodd yr addewid. Canys dynion, yn wir, sydd yn tyngu i un à fo mwy; a llw èr sicrwydd y sy derfyn iddynt àr bob ymryson. Am hyny, Duw, yn ewyllysio yn helaethach ddangos i etifeddion yr addewid ddianwadalwch ei gynghor á’i cadarnâodd drwy lw; fel, drwy ddau beth dianwadal, yn y rhai yr oedd yn annichon i Dduw fod yn gelwyddog, y gallem ni gael cysur cryf, y rhai à ffoisom i gymeryd gafael yn y gobaith à osodwyd o’n blaen; yr hwn sy genym ni megys angor yr enaid, yn ddiogel ac yn sicr, ac yn myned i fewn hyd at y fàn y sydd o’r tu fewn i’r llen, lle yr aeth y rhagflaenor drosom ni; sef Iesu, yr hwn á wnaethwyd yn Archoffeiriad yn dragwyddol, yn ol urdd Melchisedec.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.