1 Corinthiaid 9 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-27Onid wyf fi yn Apostol? Onid wyf fi yn wr rhydd? Oni welàis i Iesu Grist, ein Harglwydd? Onid fy ngwaith i ydych chwi yn yr Arglwydd? Os nad wyf yn Apostol i ereill, eto, yr wyf, o’r hyn lleiaf, i chwi; canys sel fy apostoliaeth i, ydych chwi, yn yr Arglwydd. Fy ateb, i’r rhai à’m barnant, yw hyn: Onid oes i ni ryddid i fwyta, ac i yfed? Onid oes i ni ryddid i arwain o amgylch wraig à fo chwaer, megys y mae i’r Apostolion ereill, ac i frodyr yr Arglwydd, ac i Gephas? Ai myfi, yn unig, a Barnabas, nid oes genym ryddid i fod heb weithio? Pwy sydd, un amser, yn gwasanaethu yn y rhyfel, àr ei draul ei hun? Pwy sydd yn plànu gwinllan, a nid yw yn bwyta o’i ffrwyth hi? Neu pwy sydd yn porthi praidd, a nid yw yn bwyta o laeth y praidd? Ai myfi yn unig sydd yn dywedyd y pethau hyn fel dyn? Neu onid yw y gyfraith hefyd yn dywedyd y pethau hyn? Canys, yn nghyfraith Moses, y mae yn ysgrifenedig, “Na chau safn yr ŷch sydd yn dyrnu yr ŷd.” Ai dros ychain, yn unig, y mae Duw yn gofalu? Ynte, èr ein mwyn ni, yn bènaf, y mae yn gorchymyn hyn? Er ein mwyn ni, yn ddiau, yr ysgrifenwyd hyn; oherwydd, yr hwn sydd yn aredig, á ddylai aredig mewn gobaith; a’r hwn sydd yn dyrnu, mewn gobaith á ddylai fod yn gyfranog o’i obaith ei hun. Os heuasom i chwi bethau ysbrydol, ai peth mawr yw, os cawn fedi eich pethau cnawdol? Os yw ereill yn cyfranogi o’r awdurdod hwn arnoch, oni ddylem ni, yn hytrach? Eithr nid arferasom ni yr awdurdod hwn; ond goddef yr ydym bob peth, fel na roddom ddim rhwystr i efengyl Crist. Oni wyddoch chwi bod y rhai sydd yn gweinyddu mewn pethau cysegredig, yn bwyta o’r cysegr? Onid yw y rhai sydd yn gwasanaethu wrth yr allor, yn cydgyfranogi â’r allor? Felly, hefyd, y trefnodd yr Arglwydd, i’r rhai sydd yn cyhoeddi yr efengyl, fyw wrth yr efengyl. Eithr nid arferais i yr un o’r breintiau hyn; nid ysgrifenais y pethau hyn chwaith, fel y gwnelid felly i mi; canys da fyddai i mi farw, yn hytrach na gwneuthur o neb fy most i yn ofer. Canys, pan yr wyf yn mynegi yr efengyl, nid oes i mi ddim i fostio ynddo; oblegid angenrhaid á osodwyd arnaf; ïe, gwae fydd i mi, oni fynegaf yr efengyl. Canys os gwnaf hyn o’m bodd, y mae i mi obr; ond, os o’m hanfodd, eto fe ymddiriedwyd i mi am yr oruchwyliaeth. Pa beth ynte yw fy ngobr? bod i mi, pan yn mynegi yr efengyl, wneyd efengyl Crist yn ddidraul, fel na chamarferwyf fy awdurdod yn yr efengyl. Canys, èr fy mod yn wr rhydd, gyda golwg àr bawb; mi á wneuthym fy hun yn was i bawb, fel yr ynnillwn fwy. Felly, i’r Iuddewon, mi á aethym megys Iuddew, fel yr ynnillwn yr Iuddewon: i’r rhai dàn y gyfraith, (a minnau heb fod dàn y gyfraith,) megys dàn y gyfraith, fel yr ynnillwn y rhai dàn y gyfraith: i’r rhai digyfraith, megys digyfraith, (a minnau heb fod yn ddigyfraith i Dduw, ond dàn gyfraith i Grist,) fel yr ynnillwn y rhai digyfraith. I’r rhai gweiniaid, mi á aethym megys gwan, fel yr ynnillwn y gweiniaid. Myfi á aethym yn bob peth i bawb, fel, drwy bob modd, y gallwn achub rhai. A hyn yr wyf yn ei wneuthur èr mwyn yr efengyl, fel ym gwneler yn gydgyfranog o’i gobrau. Oni wyddoch chwi, bod y rhai sydd yn rhedeg gyrfa, i gyd yn rhedeg, ond un yn unig sydd yn derbyn y gamp? Felly rhedwch, fel yr ennilloch y gamp. Ac y mae pob un sydd yn ymdrechu am gamp, yn gymedrol yn mhob peth: hwynthwy, yn wir, fel y derbyniont goron lygredig; eithr nyni, un anllygredig. Yr wyf fi, gàn hyny, felly yn rhedeg, megys heb fod allan o olwg. Felly yr wyf fi yn ymladd, nid fel un yn curo yr awyr: ond yr wyf fi yn marwâu fy nghorff, ac yn ei ddwyn yn gaeth; rhag, ysgatfydd, wedi i mi bregethu i ereill, i mi fod fy hun yn annghymeradwy.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help