Ioan 15 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-7Myfi yw y wir winwydden, a’m Tad yw y gwinllanydd. Pob cangen ddiffrwyth ynof fi, y mae efe yn ei hysgythru ymaith: pob cangen ffrwythlawn y mae efe yn ei glanâu drwy ei brigdòri, èr ei gwneuthur yn ffrwythlonach. Am danoch chwi, yr ydych eisoes yn lân drwy yr addysgiadau à roddais i chwi. Aroswch ynof fi, a mi á arosaf ynoch chwithau: fel na all y gangen ddwyn ffrwyth o honi ei hun, onid erys yn y winwydden; felly, ni ellwch chwithau, onid aroswch ynof fi. Myfi yw yr winwydden; chwithau yw y cangenau. Yr hwn sydd yn aros ynof fi, ac yn yr hwn yr wyf finnau yn aros, sydd yn dwyn ffrwyth lawer: oblegid wedi eich gwahanu oddwrthyf fi, ni ellwch chwi wneuthur dim. Onid erys un ynof fi, efe á deflir allan fel y cangenau crinion, y rhai á gesglir yn danwydd, ac á losgir. Os aroswch ynof fi, ac aros o’m geiriau ynoch, chwi á ellwch ofyn y peth à fỳnoch, ac efe á ganiatêir i chwi.

8-16Yn hyn y gogoneddir fy Nhad, drwy ddwyn o honoch ffrwyth lawer: felly y byddwch ddysgyblion i mi. Fel y mai y Tad yn fy ngharu i, felly yr wyf finnau yn eich caru chwithau: aroswch yu fy nghariad i. Os cedẅwch fy ngorchymynion, chwi á aroswch yn fy nghariad; fel y cedwais i orchymynion fy Nhad, ac yr wyf yn aros yn ei gariad ef. Y rhybyddion hyn yr wyf yn eu rhoddi i chwi, fel y parâwyf i gael llawenydd ynoch, ac y byddai eich llawenydd chwithau yn gyflawn. Dyma fy ngorchymyn i, bod i chwi garu eich gilydd, fel yr wyf fi yn eich caru chwi. Cariad mwy na hwn nid oes gàn neb, bod i un roi ei einioes dros ei gyfeillion. Chychwi yw fy nghyfeillion, os gwnewch pa bethau bynag yr wyf yn eu gorchymyn i chwi. O hyn allan, nid wyf yn eich galw yn weision; oblegid y gwas nis gwyr beth á wna ei feistr; ond yr wyf fi yn eich galw chwi yn gyfeillion; oblegid beth bynag á ddysgais gàn fy Nhad, yr wyf yn ei hysbysu i chwi. Nid chwi á’m dewisasoch i; ond myfi á’ch dewisais chwi, ac á’ch gosodais chwi, fel yr elech ac y dygech ffrwyth; ffrwyth à fydd yn arosol, fel y rhoddo y Tad i chwi pa beth bynag à ofynoch iddo yn fy enw i.

17-27Hyn yr wyf yn ei orchymyn i chwi, garu o honoch eich gilydd. Os yw y byd yn eich casâu chwi, ystyriwch ddarfod iddo fy nghasâu i o’ch blaen chwi. Pe byddech o’r byd, y byd á garai yr eiddo ei hun. Ond am nad ydych o’r byd, gàn fy mod i gwedi eich dethol chwi allan o’r byd, y mae y byd yn eich casâu chwi. Cofiwch yr hyn à ddywedais i wrthych, Nid yw y gwas yn fwy na’i feistr. Os erlidiasant fi, hwy á’ch erlidiant chwithau hefyd; os cadwasant fy ngair i, yr eiddoch chwithau hefyd á gadwant. Eithr hyn oll á wnant i chwi o’m hachos i, am nad adwaenant yr hwn à’m danfonodd i. Oni bai fy nyfod a llefaru wrthynt, ni buasai arnynt bechod; ond yn awr nid oes ganddynt esgus am eu pechod. Yr hwn sydd yn fy nghasâu i, sydd yn casâu fy Nhad hefyd. Oni bai wneuthur o honof yn eu plith y fath weithredoedd, na wnaeth neb arall erioed, ni buasai arnynt bechod; ond yn awr hwy á’u gwelsant, ac èr hyny á’m casâasant i a’m Tad hefyd. Fel hyn y maent yn gwireddu y dywediad hwnw yn eu cyfraith hwynt, “Hwy á’m casâasant i yn ddiachos.” Ond pan ddêl y Dadleuwr, yr hwn á ddanfonaf i chwi oddwrth y Tad, Ysbryd y Gwirionedd, yr hwn sydd yn deilliaw oddwrth y Tad, efe á dystiolaetha am danaf fi. A chwithau hefyd á dystiolaethwch, am eich bod o’r dechreuad gyda mi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help