1-10A chwithau y rhai oeddych feirw mewn camweddau a phechodau; yn y rhai y rhodiasoch gynt, yn ol helynt y byd hwn, yn ol tywysog llywodraeth yr awyr, – yr ysbryd sydd yr awrhon yn gweithio yn mhlant anufydd‐dod; yn mysg y rhai, hefyd, y buom ni oll gynt yn ymarweddu yn chwantau ein cnawd, gàn wneuthur ewyllysiau y cnawd, a’r eiddo y meddwl, ac yr oeddym wrth naturiaeth yn blant digofaint, megys ereill. Eithr Duw, ac efe yn gyfoethog o drugaredd, drwy ei fawr gariad â’r hwn y carodd efe ni, ïe nyni y rhai oeddym feirw mewn camweddau, á gydfywâodd efe gyda Christ; (drwy radioni yr ydych yn gadwedig); ac á’n cydgyfododd, ac á’n gosododd i gydeistedd yn y nefolion leoedd gyda Christ Iesu; fel y gallai ddangos, yn yr oesoedd à ddeuai, ragorol olud ei radioni ef yn ei gymwynasgarwch i ni drwy Grist Iesu. Canys drwy radioni yr ydych yn gadwedig drwy ffydd; a’r gadwedigaeth hon nid trwoch eich hunain; rhodd Duw ydyw – nid drwy weithredoedd, fel nad ymffrostiai neb. Canys ei waith ef ydym, wedi ein creu yn Nghrist Iesu i weithredoedd da, i’r rhai y rhagddarparodd Duw ni, fel y rhodiem ni ynynt.
11-22Am hyny, cofiwch, a chwi gynt yn Genedloedd yn y cnawd, (y rhai à elwid y dienwaediad, gàn y rhai à elwir yr enwaediad o waith llaw yn y cnawd,) eich bod chwi, y pryd hwnw, yn y byd, heb Grist, wedi eich dyeithrio oddwrth wladwriaeth Israel, ac yn estroniaid oddwrth sefydliadau yr addewid, heb obaith genych, ac heb Dduw; eithr, yn awr, yn Nghrist Iesu, chychwi, y rhai oeddych gynt yn mhell, á wnaethwyd yn agos drwy waed Crist. Canys efe yw ein tangnefedd ni yr hwn á wnaeth y ddau yn un, ac á ddattododd ganolfur y gwahaniaeth rhyngom ni; gwedi iddo ddirymu drwy ei gnawd y gelyniaeth, (cyfraith y gorchymynion o berthynas i osodedigaethau,) fel y gwnelai y ddau yn un dyn newydd dano ei hun, gàn wneuthur heddwch: ac y cymmodai y ddau â Duw, yn un corff, drwy y groes, wedi lladd y gelyniaeth drwyddi hi. A, gwedi iddo ddyfod, efe á ddyg newydd da tangnefedd i chwi, y rhai pell, – i ninau, y rhai agos: mai, drwyddo ef, y mae i ni ein dau ddyfodfa at y Tad drwy un Ysbryd. Weithian, gán hyny, nid ydych chwi mwyach yn ddyeithriaid a dyfodiaid; ond yn gyd‐ddinesyddion â’r saint, ac o deulu Duw: gwedi eich adeiladu ár sail yr Apostolion a’r proffwydi, ac Iesu Grist ei hun yn sailgonglfaen; drwy yr hwn y mae yr holl adeilad wedi ei chymhwys gydgyssylltu, yn codi yn deml santaidd i’r Arglwydd; yn yr hon ych cydadeiladwyd chwithau yn breswylfod i Dduw drwy yr Ysbryd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.