1-5Ac am y pethau yr ysgrifenasoch ataf: Da i ddyn na chyfhyrddai â gwraig. Er hyny, o achos aflendid, bydded i bob gwr ei wraig ei hun, a bydded i bob gwraig ei gwr ei hun. Rhodded y gwr i’r wraig yr hyn sy ddyledus iddi; a’r un wedd, hefyd, y wraig i’r gwr. Nid oes i’r wraig feddiant àr ei chorff ei hun, ond i’r gwr: ac yr un ffunud, hefyd, nid oes i’r gwr feddiant àr ei gorff ei hun, ond i’r wraig. Nac ymddifadwch eich gilydd, oddeithr drwy gydsyniad, dros amser, fel y galloch ymroi i weddi; a deuwch drachefn yn nghyd, rhag temtio o Satan chwi drwy eich anniweirdeb.
6-24Eithr hyn sydd yn canlyn yr wyf yn ei ddywedyd fel cynghor, a nid fel gorchymyn, fy mod yn ewyllysio i bob dyn fod fel fi fy hun. Eithr y mae i bob dyn ei ddawn ei hun oddwrth Dduw; i’r naill, yn wir, fel hyn, ac i’r llall fel arall. Dywedyd yr wyf wrth y rhai heb briodi, a’r gwragedd gweddwon, da yw iddynt, pe gallent, aros fel finnau. Eto, os na allant fyw yn ddiwair, priodant; canys gwell yw priodi nag ymlosgi. Ac i’r rhai à briodwyd yr ydwyf yn gorchymyn, (nid myfi chwaith, ond yr Arglwydd;) nac ymadawed gwraig oddwrth ei gwr; ond os ymedy hi, arosed heb briodi, neu gymmoded â’i gwr; a na ollynged gwr ei wraig ymaith. Ond wrth y lleill, dywedyd yr wyf fi – nid yr Arglwydd – os bydd i un brawd wraig ddigred, a hithau yn foddlawn i drigo gydag ef, na ollynged hi ymaith. A’r wraig, yr hon y mae iddi wr digred, ac yntau yn foddlawn i drigo gyda hi, na wrthoded hi ef. Canys y gwr digred á santeiddir drwy y wraig, a’r wraig ddigred á santeiddir drwy y gwr; pe yn amgen, aflan yn ddiau fyddai eich plant; eithr yn awr santaidd ydynt. Eithr os yr annghredadyn á ymedy, ymadawed: nid yw y brawd neu y chwaer yn gaeth gyda ’r cyfryw; eithr Duw á’n galwodd ni i heddwch. Canys beth á wyddost ti, wraig! á gedwi di dy wr? A pheth á wyddost tithau, wr! á gedwi di dy wraig? Ond megys y darfu i Dduw rànu i bob un, a megys y darfu i’r Arglwydd alw pob un, felly rhodied; a fel hyn yr wyf yn pènodi yn y cynnulleidfäoedd oll. A alwyd neb wedi ei enwaedu? Nac adgeisied ddienwaediad. A alwyd neb mewn dienwaediad? Nac enwaeder arno. Enwaediad nid yw ddim, a dienwaediad nid yw ddim, ond cadw gorchymynion Duw. Arosed pob un yn yr un alwedigaeth ag y galwyd ef ynddi. Ai yn gaethwas yth alwyd? Na fydded gwaeth genyt. Eto, os gelli gael bod yn rydd, mwynâa hyny yn hytrach. Canys caethwas yr hwn á alwyd gàn yr Arglwydd, gwr rhydd i’r Arglwydd ydyw. Yr un ffunud, hefyd, gwr rhydd à alwyd, caethwas i Grist ydyw. Er gwerth ych prynwyd: na fyddwch gaethion i ddynion. Yn y sefyllfa y galwyd pob un, frodyr, yn hòno arosed gyda Duw.
25-38Eithr am wyryfon, nid oes genyf orchymyn yr Arglwydd: ond yr wyf yn rhoi fy marn, fel un à gafodd drugaredd gàn yr Arglwydd i fod yn ffyddlawn. Yr wyf yn tybied, gàn hyny, mai da yw hyn, oherwydd yr adfyd presennol; sef, mai da yw i ddyn heb briodi aros felly. A wyt ti yn rwym i wraig? na chais dy ollwng yn rydd. A wyt ti yn rydd oddwrth wraig? na chais wraig. Ac eto, os priodi, ni phechaist; ac os prioda gwyryf, ni phechodd: èr hyny, y cyfryw rai á gânt flinder yn y cnawd; eithr yr wyf yn eich arbed chwi. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd, frodyr, gàn fod yr amser yn fyr, y mae yn aros, bod o’r rhai sydd â gwragedd iddynt, megys pe byddent hebddynt; a’r rhai à wylant, megys heb wylo; a’r rhai à lawenâant, megys heb lawenâu; a’r rhai à brynant, megys heb feddu; a’r rhai à arferant y byd hwn, megys heb ei gamarfer: canys y mae dull y byd hwn yn myned heibio. Hefyd, mi á fỳnwn i chwi fod yn ddiofal. Yr hwn sydd heb briodi, sydd yn gofalu am bethau yr Arglwydd, pa wedd y boddlona efe yr Arglwydd. Ond yr hwn sydd wedi priodi, sydd yn gofalu am bethau y byd, pa wedd y boddlona ei wraig. Y mae yr un gwahaniaeth rhwng gwraig a gwyryf. Y mae yr hon sy heb briodi, yn gofalu am bethau yr Arglwydd, fel y byddo hi santaidd mewn corff ac ysbryd: ond yr hon sydd wedi priodi, sydd yn gofalu am bethau y byd, pa wedd y boddlona hi ei gwr. A hyn yr ydwyf yn ei ddywedyd èr lles i chwi eich hunain; nid i osod magl i chwi, eithr èr mwyn gweddeidd‐dra, a dyfal‐lynu wrth yr Arglwydd yn ddiwahan. Ond, os yw neb yn tybied ei fod yn ymddwyn yn anweddaidd tuagat ei wyryf, od â hi dros flodau ei hoedran, heb briodi, a felly bod yn raid priodi; gwnaed à fỳno hi, nid yw efe yn pechu; priodant. Ond yr hwn sydd yn sefyll yn sicr yn ei galon, heb raid iddo, ac â meddiant ganddo àr ei ewyllys ei hun, ac á roddodd ei fryd àr hyny yn ei galon, àr gadw o hono ei wyryf; da y mae yn gwneuthur. Felly, gàn hyny, yr hwn sydd yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn dda; ond yr hwn nid yw yn ei rhoddi yn briod, sydd yn gwneuthur yn well.
39-40Y mae gwraig yn rwym, tra byddo byw ei gwr; ond os bydd marw ei gwr, y mae hi yn rydd i briodi y neb à fỳno; yn unig yn yr Arglwydd. Eithr dedwyddach yw hi, os erys fel y mae. Dyma fy marn i; ac yr ydwyf finnau yn tybied bod Ysbryd Duw genyf.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.