1 Corinthiaid 2 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-16A myfi, pan ddaethym atoch, frodyr, ni ddaethym gyda godidogrwydd ymadrodd, a’r eiddo doethineb, gàn fynegi i chwi dystiolaeth Duw. Canys mi á roddais fy mryd na wnawn, yn eich plith, ddim yn adnabyddus, ond Iesu Grist, a hwnw gwedi ei groeshoelio. A myfi, mewn gwendid, a mewn ofn, a mewn cryndod mawr, a fum gyda chwi. Fy ymadrodd hefyd, a’m cyhoeddiad, ni buont gyda geiriau darbwyllus doethineb ddynol; ond gydag arbrawf yr Ysbryd, a’r eiddo nerth. Fel na byddai eich ffydd yn dibynu àr ddoethineb dynion, ond àr nerth Duw. Eto, yr ydym ni yn llefaru doethineb yn mysg y rhai perffaith: eithr nid doethineb y byd hwn; na’r eiddo penaethiaid y byd hwn, y rhai sydd i gael eu diddymu. Eithr yr ydym ni yn llefaru doethineb ddirgelaidd Duw, yr hon hyd yn hyn á guddiwyd; yr hon á ragbènododd Duw, cyn yr oesoedd, iddei llefaru èr ein gogoniant ni. Yr hon nid adnabu neb o benaethiaid y byd hwn; oherwydd ped adwaenasent, ni chroeshoeliasent Arglwydd y gogoniant. Canys, fel y mae yn ysgrifenedig, “Y pethau hyny nis gwelodd llygad, a ni chlywodd clust, a ni ddaethant i galon dyn, y rhai á ddarparodd Duw i’r rhai à’i carant ef.” Eithr Duw á’u dadguddiodd hwynt i ni drwy ei Ysbryd; canys yr Ysbryd sydd yn chwilio pob peth, hyd y nod dyfnion bethau Duw. Canys pa ddyn á edwyn feddyliau dyn, ond ysbryd dyn yr hwn sydd ynddo ef; felly hefyd, meddyliau Duw nid edwyn neb ond Ysbryd Duw. Ond nyni á dderbyniasom, nid ysbryd y byd, ond yr ysbryd sydd o Dduw; fel y gwypom y pethau à radroddwyd i ni gàn Dduw. Yr hyn bethau yr ydym yn eu llefaru hefyd, nid mewn geiriau à ddysgir gàn ddoethineb ddynol; ond mewn geiriau à ddysgir gàn yr Ysbryd, gàn egluro pethau ysbrydol mewn geiriau ysbrydol. Eithr dyn anianol nid yw yn derbyn pethau Ysbryd Duw; canys ffolineb ydynt ganddo ef; a nis gall eu gwybod, oblegid yn ysbrydol y chwilir hwynt. Ond y dyn ysbrydol sydd yn chwilio pob peth, eithr efe ni chwilir gàn neb. Canys pa ddyn anianol á wybu feddwl yr Arglwydd, yr hwn á’i cyfarwydda ef? Ond y mae genym ni feddwl Crist.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help