Gweithredoedd 27 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

DOSBARTH XVI.Mordaith Paul i’r Eidal. Ei Longddrylliad àr Falta, a’i ddyfodiad, fel carcharor, i Rufain.

1-26A phan benderfynwyd i ni hwylio i’r Eidal, hwy á draddodasant Baul, a rhyw garcharorion ereill, at ganwriad a’i enw Iuwlius, o Gadgordd Augustus. A gwedi myned o honom àr long o Adramyttis, ni á aethom allan, àr fedr hwylio àr dueddau Asia; a gyda ni yr oedd Aristarchus, Macedoniad o Thessalonica. A thranoeth ni á gyrhaeddasom Sidon: ac Iuwlius, gàn ymddwyn tuagat Baul yn dra dyngarol, á roddes gènad iddo i fyned at ei gyfeillion i gael ymgeledd. A gwedi myned allan oddyno, ni á hwyliasom dàn Gyprus, am fod y gwyntoedd yn wrthwynebus. A gwedi hwylio o honom dros y môr sy gyferbyn a Chilicia a Phamphylia, ni á ddaethom i Fyra, dinas yn Lycia. Ac yno y canwriad, wedi cael llong o Alecsandria, yn hwylio i’r Eidal, á’n gosododd ni arni. A gwedi i ni hwylio yn annyben, lawer o ddyddiau, a phrin ddyfod àr gyfer Cnidus, am na adawai y gwynt i ni, ni á hwyliasom is law Creta, àr gyfer Salmone: a gwedi i ni yn brin fyned heibio iddi, ni a ddaethom i ryw le à elwir y Porthladdoedd Prydferth, yn agos i’r hwn yr oedd dinas Lasea. A chàn bod llawer o amser wedi myned heibio, a bod morio weithian yn enbyd, oherwydd hefyd bod yr ympryd wedi myned drosodd eisoes, Paul á’u cynghorodd hwynt, gàn ddywedyd wrthynt, Ha wŷr, yr wyf yn gweled y bydd i’r fordaith hon fod gyda niwed a cholled fawr, nid yn unig am y llwyth a’r llong, ond am ein heinioes ni hefyd. Eithr y canwriad á gredodd i lywydd ac i berchen y llong, yn fwy nag i’r pethau à ddywedid gàn Baul. A chàn fod y porthladd yn annghyfleus i auafu, y rhan fwyaf á roisant gynghor i fyned allan oddyno, os gallent ryw fodd gyrhaeddyd hyd Phenice, i auafu yno; yr hwn sy borthladd yn Nghreta, àr gyfer y deauorllewin a’r gogleddorllewin. A fel yr oedd y deheuwynt yn chwythu yn araf, gàn dybied eu bod yn sicr o’u hamcan, wedi iddynt godi angor, hwy á hwyliasant rhagddynt yn agos i Greta. Ond cyn nemawr, cyfododd yn ei herbyn hi wynt tymhestlog, yr hwn á elwir Euroclydon. A fel yr oedd y llong yn cael ei chipio ymaith, a heb allu gwrthwynebu y gwynt, ni á’i rhoisom i fyny, ac á ddygwyd gyda’r gwynt. A gwedi i ni redeg goris rhyw ynys à elwir Clauda, braidd y gallasom gael y bâd: yr hwn wedi iddynt ei godi i fyny, hwy á arferasant gynnorthwyon, gàn wregysu y llong odani; a hwy yn ofni rhag syrthio àr sugndraeth, wedi gostwng yr hwyl, á ddygwyd felly. A fel yr oeddym yn cael ein lluchio yn dost gàn y dymhestl, dranoeth hwy á ysgafnaasant y llong: a’r trydydd dydd bwriasom, â’n dwylaw ein hunain daclau y llong allan. A phan nad oedd na haul na ser yn ymddangos dros lawer o ddyddiau, a thymhestl nid bechan yn pwyso arnom, pob gweddill o obaith, y gallem gael ein gwaredu, á gymerwyd ymaith. A gwedi bod hir ddirwest, yna y safodd Paul yn eu canol hwynt, ac á ddywedodd, Ha wŷr, chwi á ddylasech wrandaw arnaf fi, a pheidio myned allan o Greta, a felly ochelyd y niwed yma a’r golled. Er hyny, yr ydwyf yr awrhon yn eich cynghori i fod yn galonog; canys ni bydd colled am einioes un o honoch; ond am y llong yn unig. Canys ymddangosodd i mi heno, angel i’r Duw, yr hwn a’m piau, a’r hwn yr wyf yn ei addoli, gàn ddywedyd, Nac ofna, Paul; rhaid i ti sefyll gèr bron Caisar; ac, wele, rhoddes Duw i ti y rhai oll à sydd yn hwylio gyda thi. Am hyny, wŷr, byddwch galonog; canys yr wyf fi yn ymddiried yn Nuw, mai felly y bydd, y modd y dywedwyd i mi. Ond mae yn raid ein bwrw ni ar ryw ynys.

27-44A gwedi dyfod y bedwaredd nos àr ddeg, a ni yn cael ein gỳru yma a thraw yn môr Adria, tybiai y morwyr, yn nghylch hanner nos, eu bod yn nesâu i ryw dir: a gwedi iddynt blymio, hwy á’i cawsant yn ugain gwrhyd; a gwedi myned ychydig pellach, a phlymio drachefn, hwy á’i cawsant yn bymtheg gwrhyd. Ac a hwy yn ofni rhag iddynt syrthio àr ryw draeth creigiog, hwy a daflasant bedwar angor allan o’r ysdarn, ac á ddymunasant ei myned hi yn ddydd. Ond pan oedd y llongwyr yn ceisio ffoi allan o’r llong, a gwedi gollwng y bad i waered i’r môr, yn rhith bod àr fedr taflu angorau o’r pen blaen i’r llong; dywedodd Paul wrth y canwriad, a’r milwyr, Onid erys y rhai hyn yn y llong, ni ellwch chwi fod yn gadwedig. Yna y milwyr á dòrasant raffau y bad, ac a adawsant iddo syrthio ymaith. A thra yr ydoedd hi yn dyddâu, Paul á gynghorai bawb i gymeryd lluniaeth, gàn ddywedyd, Heddyw, tra yn dysgwyl am y pedwerydd dydd àr ddeg hwn, yr ydych yn aros àr eich cythlwng, heb gymeryd dim. Yr wyf yn eich cynghori, gàn hyny, i gymeryd lluniaeth; canys hyny sydd èr eich cadwraeth; oherwydd ni syrth blewyn oddar ben yr un o honoch. A gwedi iddo ddywedyd hyn, a chymeryd bara, efe á ddiolchodd i Dduw yn eu gwydd hwynt oll; a gwedi iddo ei dòri, efe á ddechreuodd fwyta. A gwedi iddynt oll gael eu calonogi, hwythau á gymerasant luniaeth hefyd. Ac yr oeddym yn y llong, i gyd, yn ddau gant seithdeg a chwech o eneidiau. A gwedi eu digoni o luniaeth, hwy á ysgafnâasant y llong; ac á fwriasant yr ŷd i’r môr. A phan aeth hi yn ddydd, nid oeddynt yn adnabod y tir, ond hwy á ganfuant ryw gilfach a glàn iddi, yr hon y penderfynasant, os gallent, wthio y llong iddi. A gwedi iddynt dòri ymaith yr angorau, gan eu gadael yn y môr, hwynthwy, àr yr un pryd, wedi dattod rhwymau y llyw, a chodi y brifhwyl i’r gwynt, á geisiasant am y làn. Ond wedi i ni sýrthio àr le deufor‐gyfarfod, hwy á redasant y llong àr lawr, a’r pen blaen iddi á lynodd, ac á safodd yn ddiysgog, tra yr ymddattodai y pen ol gàn nerth y tònau. A chynghor y milwyr oedd, bod iddynt ladd y carcharorion, rhag i neb o honynt nofio ymaith a dianc. Ond y canwriad, yn ewyllysio cadw Paul, á rwystrodd iddynt eu hamcan, ac á archodd i’r sawl à fedrent nofio, ymdaflu yn gyntaf i’r môr a myned ymaith i dir: ac i’r lleill, rhai àr esdyllod, ac ereill àr rai o bethau y llong. A felly y dygwyddodd ddyfod o bawb i dir yn ddiangol.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help