1-18Hefyd, frodyr, os goddiweddir dyn àr ryw fai, chychwi, y rhai ysbrydol, adgyweiriwch y cyfryw un mewn ysbryd addfwynder; gàn edrych arnat dy hun, rhag dy demtio dithau. Dygwch feichiau eich gilydd, a felly cyflawnwch gyfraith Crist. Oblegid os tybia neb ei fod yn rywbeth, ac yntau heb fod yn ddim, y mae efe yn ei dwyllo ei hun. Eithr profed pob un ei waith ei hun, ac yna y caiff orfoledd ynddo ei hun yn unig, a nid mewn arall. Canys pob un á ddwg ei faich ei hun. A’r hwn à ddysgir yn y gair, cyfràned o bob peth da i’r hwn y sydd yn ei ddysgu ef. Na thwyllwch eich hunain; ni watwarir Duw: canys bethbynag á heuo dyn, hyny hefyd á fêd efe. Gan hyny, yr hwn sydd yn hau iddei gnawd, o’r cnawd á fêd lygredigaeth: eithr yr hwn sydd yn hau iddei ysbryd, o’r Ysbryd á fêd fywyd tragwyddol. Oherwydd paham, yn gwneuthur daioni na ddiogwn; canys yn ei iawn bryd y medwn, oni diffygiwn. Felly, ynte, tra yr ydym yn cael amser cyfaddas, gwnawn dda i bawb, ond yn enwedig i’r rhai y sydd o deulu y ffydd. Gwelwch gyhyd y llythyr, à ysgrifenais atoch â’m llaw fy hun. Cynnifer y sydd yn ewyllysio ymdecâu yn y cnawd, y rhai hyn sydd yn eich cymhell i’ch enwaedu, yn unig fel nad erlidier hwynt oblegid croes Crist. Canys nid yw y rhai à enwaedir, eu hunain yn cadw y gyfraith; ond ewyllysio y maent enwaedu arnoch chwi, fel yr ymffrostiont yn eich cnawd chwi. Eithr pell oddwrthyf fi fyddo ymffrostio, ond yn nghroes ein Harglwydd Iesu Grist, drwy yr hon y croeshoeliwyd y byd i mi, a minnau i’r byd. Canys yn Nghrist Iesu, ni ddichon enwaediad ddim, na dienwaediad, ond creadur newydd. A chynnifer ag á rodiant yn ol y rheol hon, tangnefedd arnynt, a thrugaredd, ac àr Israel Duw. O hyn allan na flined neb fi; canys dwyn yr wyf fi yn fy nghorff greithiau yr Arglwydd Iesu. Rhad ein Harglwydd Iesu Grist á fyddo gyda ’ch ysbryd chwi, frodyr, Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.