Hebreaid 9 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-5Ac, yn wir, yr ydoedd i’r sefydliad cyntaf ddefodau gwasanaeth, a chysegr bydol. Canys yr oedd y babell gyntaf, yr hon á elwid y cysegr, wedi ei threfnu; yn yr hon yr oedd y canwyllbren, a’r bwrdd, a’r bara dangos; ac yn ol yr ail len, y babell, yr hon á elwid y cysegr santeiddiolaf; yr hwn yr oedd y thuser aur ynddo, ac arch y sefydliad, wedi ei goreuro o amgylch, yn yr hon yr oedd y crochan aur a’r manna ynddo, a gwialen Aaron yr hon á flagurasai, a llechau y sefydliad; ac uwch ei phen cerubiaid y gogoniant, yn cysgodi y drugareddfa; am y rhai ni ellir yn awr ddywedyd bob yn un.

6-28A’r pethau hyn wedi eu trefnu felly, i’r babell gyntaf yn ddiau yr ai bob amser yr offeiriaid, gàn gyflawni y gwasanaeth; eithr i’r ail, – yr archoffeiriad yn unig, – unwaith bob blwyddyn, nid heb waed, yr hwn á offrymai efe drosto ei hun, a thros bechodau y bobl à wneler drwy anwybod. Yr Ysbryd Glan yn hysbysu hyn, nad oedd ffordd y cysegroedd yn agored eto, tra byddai y babell gyntaf yn sefyll; yr hon ydoedd ddarlun cysgodol dros yr amser presennol, yn yr hwn yr offrymid rhoddion ac aberthau, y rhai ni allent o ran y gydwybod, berffeithio yr addolydd – yn unig â bwydydd a diodydd, ac amryw drochiadau; – defodau o berthynas i’r cnawd, wedi eu gosod hyd amser y diwygiad. Eithr wedi dyfod Crist, – Archoffeiriad y daionus bethau i ddyfod, – drwy babell fwy a pherffeithiach, nid o waith llaw, (hyny yw, nid o’r adeiladaeth yma,) á aeth unwaith i fewn i’r cysegroedd, wedi caffael tragwyddol brynedigaeth; nid, yn wir, drwy waed lloi a geifr, eithr drwy ei waed ei hun. Oblegid os oedd gwaed teirw a geifr, a lludw anner, wedi ei daenellu àr y rhai à halogwyd, yn santeiddio èr puredigaeth y cnawd, pa faint mwy y bydd i waed Crist, yr hwn drwy Ysbryd Tragywyddol, á’i hoffrymodd ei hun yn ddifai i Dduw, buro eich cydwybod chwi oddwrth weithredoedd meirwon i wasanaethu y Duw byw? Ac, oherwydd hyn, y mae efe yn Gyfryngwr y sefydliad newydd, fel drwy farwolaeth, èr gwaredigaeth oddwrth y troseddau dan y sefydliad cyntaf, y cai y rhai à alwyd dderbyn addewid yr etifeddiaeth dragwyddol. A lle byddo y cyfryw sefydliad, rhaid yw digwyddo marwolaeth yr aberth sefydledig: oblegid gàn fod y sefydliad yn cael ei gadarnâu uwch ben y meirw, nid oes grym ynddo tra byddo yr aberth sefydledig yn fyw. O ba achos ni ddygwyd y cyntaf i fewn heb waed; canys “wedi i Foses adrodd pob gorchymyn yn y gyfraith wrth yr holl bobl, wedi cymeryd gwaed lloi, a geifr, gyda dwfr, a gwlan porphor, ac isop, efe á daenellod àr y llyfr, a’r bobl, oll;” gàn ddywedyd, “Dyma waed y sefydliad, à orchymynodd Duw i chwi.” Y babell hefyd a holl lestri y gwasanaeth á daenellodd efe â gwaed, yr un modd. A chàn mwyaf drwy waed y purir pob beth yn ol y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant. Rhaid oedd, gàn hyny, i ddarluniau y pethau nefol gael eu puro â’r pethau hyn; ond y pethau nefol eu hunain, ag aberthau gwell na’r rhai hyn. Am hyny, nid i’r cysegroedd o waith llaw, gwrthluniau y gwir gysegroedd, yr aeth Crist i fewn, ond i’r nef ei hun, yn awr i ymddangos gèr bron Duw, drosom ni. Nid, ychwaith, fel yr offrymai efe ei hun yn fynych, megys y mae yr archoffeiriad yn myned i fewn i’r cysegroedd bob blwyddyn â gwaed arall; oblegid yna rhaid fuasai iddo yn fynych ddyoddef èr dechreuad y byd: eithr yr awrhon unwaith, àr ddiweddiad yr oesau, yr ymddangosodd efe i ddileu pechod drwy ei aberthu ei hun. Ac yn gymaint ag y gosodwyd i ddynion farw unwaith, a gwedi hyny bod barn; felly Crist hefyd, wedi ei offrymu unwaith i ddwyn ymaith bechodau llawer, á ymddengys yr ail waith, i’r rhai sydd yn ei ddysgwyl ef, heb bechaberth, èr iechydwriaeth.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help