Colossiaid 4 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1Y meistriaid, rhoddwch i’ch gweision yr hyn sy gyfiawn ac uniawn, gàn wybod bod i chwithau Feistr yn y nefoedd.

2-18Dyfalbarêwch mewn gweddi, gan wylied ynddi gyda diolchgarwch; àr yr un pryd gàn weddio drosom ninnau, àr i Dduw agori i ni ddrws ymadrodd i draethu dirgelwch Crist, oherwydd yr hwn, yn wir, yr ydwyf fi mewn rhwymau; fel yr amlygwyf ef, megys y dylwn draethu. Rhodiwch mewn doethineb tuagat y rhai sydd oddi allan, gàn ennill amser. Bydded eich ymadrodd bob amser yn weddus, wedi ei bereiddio â halen, gàn wybod pa fodd y dylech roddi ateb i bob un. Fy holl helynt i á hysbysa Tychicus i chwi, brawd anwyl, a ffyddlawn weinidog, a chydwas yn yr Arglwydd; yr hwn á ddanfonais i atoch yn un swydd, fel y gwybyddai eich helynt chwi, ac y dyddanai eich calonau chwi; gydag Onesimus, brawd ffyddlawn ac anwyl, yr hwn sydd o honoch chwi. Hwy á hysbysant i chwi bob peth à wneir yma. Y mae Aristarchus, fy nghydgarcharor, yn eich anerch; a Marc, nai Barnabas, am yr hwn y cawsoch orchymynion: os daw efe atoch, derbyniwch ef; – ac Iesu, yr hwn á elwir Iustus; y rhai ynt o’r enwaediad. Y rhai hyn yn unig ydynt gydweithwyr â mi dros deyrnas Duw, y rhai á fuont yn gysur i mi. Y mae Epaphras, yr hwn á ddaeth oddwrthych chwi, gwas i Grist, yn eich anerch; gàn ymdrechu yn wastadol drosoch mewn gweddiau, àr i chwi sefyll yn berffaith ac yn gyflawn yn holl ewyllys Duw. Canys yr wyf yn dyst iddo ei fod mewn llafur mawr drosoch, a thros y rhai yn Laodicea, a’r rhai yn Hierapolis. Y mae Luwc, y meddyg anwyl, a Demas, yn eich anerch. Anerchwch y brodyr yn Läodicea; a Nymphas, a’r gynnulleidfa yn ei dŷ ef. A gwedi darllen y llythyr hwn i chwi, perwch ei ddarllen hefyd yn nghynnulleidfa y Läodiceaid; a darllen o honoch chwithau yr un o Läodicea. A dywedwch wrth Archippus, “Edrych at y weinidogaeth à dderbyniaist yn yr Arglwydd, àr i ti ei chyflawni hi.” Anerchiad Paul, a’m llaw fy hun, Cofiwch fy rhwymau. Rhad fyddo gyda chwi.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help