1-2 Iuwdas, gwas i Iesu Grist, a brawd i Iago, at y rhai à santeiddiwyd gàn Dduw Dad, ac á gedwir gàn Iesu Grist, at y rhai galwedig; Trugaredd, a thangnefedd, a chariad á liosoger i chwi.
3-25Garedigion, gàn wneuthur pob brys i ysgrifenu atoch am yr iechydwriaeth gyffredin, myfi á fernais yn angenrhaid i mi ysgrifenu atoch, gàn eich annog i ymdrech yn egniol o blaid y ffydd, yr hon á rodded gynt i’r saint. Canys y mae rhyw ddynion wedi ymlusgo i fewn, y rhai èr ys talm á ysgrifenwyd o’r blaen i’r farnedigaeth hon; annuwiolion, yn troi rhad ein Duw ni i drythyllwch, ac yn gwadu yr unig Benarglwydd, sef ein Harglwydd Iesu Grist. Ewyllysio, gàn hyny, yr ydwyf ddwyn àr gof i chwi, èr eich bod unwaith yn gwybod hyn, i’r Arglwydd, wedi iddo waredu y bobl o dir yr Aifft, ddystrywio gwedi hyny y rhai ni chredasant. Yr angylion hefyd y rhai ni chadwasant eu dechreuad, eithr á adawsant eu trigfa eu hun, á gadwodd efe mewn cadwynau tragwyddol, dan dywyllwch, i farn y dydd mawr. Yr un wedd y mae Sodoma a Gomorra, a’r dinasoedd o’u hamgylch, y rhai, mewn cyffelyb fodd â hwythau, á wnaethent aflendid, ac á aethent àr ol cnawd arall, wedi eu gosod yn ddrych, gàn ddyoddef dialedd tân tragwyddol. Yr un ffunud hefyd y cosbir y breuddwydwyr hyn – y rhai, yn wir, ydynt yn halogi y cnawd, yn diystyru llywodraeth, ac yn cablu y rhai sy mewn awdurdod. Eithr Michael, yr Arch Angel, pan yn dadleu â’r diafol, (ymresymu yr oedd yn nghylch corff Moses,) ni feiddiodd ddwyn cyhuddiad cableddus yn ei erbyn ef, ond á ddywedodd, “Cerydded yr Arglwydd dydi:” eithr y rhai hyn sydd yn cablu y pethau nas gwyddant; eithr y pethau y maent, yn naturiol, fel anifeiliaid direswn, yn eu gwybod, drwy y rhai hyny y maent yn eu dyfetha eu hunain. Gwae hwynt! oblegid hwy á aethant yn ffordd Cain, ac á ruthrasant i dwyll gobr Balaam, ac á ddyfethwyd yn ngwrthryfel Corah. Y rhai hyn ydynt frychau yn eich cariadwleddoedd chwi, pan yn cydwledda â chwi, ac yn eu pesgi eu hunain yn ddiofn. Cymylau diddwfr ydynt, yn cael eu dwyn oddamgylch gàn wyntoedd; preniau gwywedig heb ffrwyth: ddwywaith yn feirw; gwedi eu diwreiddio; tònau cynddeiriog y môr, yn ewỳnu allan eu cywilydd eu hunain; ser gwibiog, i’r rhai y cadwyd niwl tywyllwch yn dragywydd. Ac Enoch, y seithfed o Adda, á brophwydodd, yn wir, am y rhai hyn; gàn ddywedyd, “Wele y mae yr Arglwydd yn dyfod gyda myrddiwn o’i angylion glân, i roddi barn àr bawb, ac i lwyrargyhoeddi yr holl rai annuwiol o honynt, o’u holl weithredoedd drygionus, y rhai yn annuwiol á wnaethant; ac o’r holl bethau, y rhai á lefarodd pechaduriaid annuwiol yn ei erbyn ef.” Y rhai hyn sy rwgnachwyr, a thuchanwyr, y rhai sydd yn cerdded yn ol eu chwantau eu hunain; ac y mae eu genau yn llefaru geiriau chwyddedig. Y maent yn derbyn wynebau dynion, èr mwyn elw. Eithr chychwi, garedigion, cofiwch y geiriau à ddywedwyd o’r blaen gàn Apostolion ein Harglwydd Iesu Grist; ddywedyd o honynt hwy i chwi, y bydd yn yr amser diweddaf watwarwyr, yn rhodio yn ol eu chwantau annuwiol eu hunain. Y rhai hyn yw y rhai sydd yn eu didoli eu hunain, yn anianol, heb fod yr Ysbryd ganddynt. Eithr chychwi, garedigion, gàn eich adeiladu eich hunain àr eich santeiddiaf ffydd, a gweddio mewn ysbryd santaidd; ymgedwch yn nghariad Duw, gàn ddysgwyl trugaredd ein Harglwydd Iesu Grist, i fywyd tragwyddol. A chàn wneuthur rhagor, tosturiwch wrth rai; eithr ereill gwaredwch drwy ofn, gàn eu cipio hwy allan o’r tân, gàn gasâu hyd y nod y wisg à halogwyd gàn y cnawd. Ac i’r hwn à ddichon eich cadw chwi yn ddigwymp, a’ch gosod gèr bron ei ogoniant ef yn ddifeius mewn gorfoledd; i Dduw yn unig ein Hiachawdwr ni, y byddo gogoniant a mawredd, arglwyddiaeth ac awdurdod, yr awrhon, ac yn oes oesoedd. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.