2 Corinthiaid 3 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-18A raid i ni ddechreu drachefn ein canmol ein hunain? neu á raid i ni, megys i rai, wrth lythyrau canmoliaeth atoch chwi, neu lythyrau canmoliaeth oddwrthych chwi? Ein llythyr ni ydych chwi gwedi ei ysgrifenu àr ein calonau, yr hwn á adwaenir ac á ddarllenir gàn bob dyn. Gàn fod wedi eich amlygu, mai llythyr Crist ydych, wedi ei weini genym ni, gwedi ei ysgrifenu nid ag inc, ond ag Ysbryd y Duw byw; nid àr lechau cèryg, ond àr lechau cnawdol y galon. Ac y mae genym gyfryw hyder, drwy Grist, àr Dduw; nid ein bod yn gymhwys trwom ein hunain i gyfrif dim megys o honom ein hunain; eithr ein cymhwysder ni sydd o Dduw, yr hwn á’n gwnaeth ni yn weinidogion cymhwys sefydliad newydd; nid yr eiddo llythyren, ond yr eiddo ysbryd: canys y mae y llythyren yn lladd, ond yr ysbryd sydd yn bywâu. Canys os bu gweinidogaeth marwolaeth mewn llythyrenau, gwedi ei hargraffu àr gèryg, yn ogoneddus, fel nas gallai plant Israel edrych yn graff àr wyneb Moses, gàn ogoniant ei wynebpryd, yr hwn ogoniant oedd i gael ei ddileu; pa fodd na bydd gweinidogaeth yr Ysbryd yn fwy gogoneddus? Canys os bu gweinidogaeth colledigaeth yn ogoneddus, mwy o lawer y mae gweinidogaeth cyfiawnâad yn rhagori mewn gogoniant. Canys, yn wir, yr hyn à ogoneddwyd, nis gogoneddwyd yn yr ystyr yma, oherwydd y gogoniant sydd yn trarhagori. Canys os bu yr hyn à ddilewyd yn ogoneddus; mwy o lawer y bydd yr hyn sydd yn aros yn ogoneddus. Gan fod genym, wrth hyny, y cyfryw hyder, yr ydym yn arfer mawr eglurdeb ymadrodd; a nid megys Moses, yr hwn á osododd lengudd àr ei wyneb, fel nad edrychai plant Israel yn graff àr ddiwedd yr hyn á ddilewyd. Eu meddyliau hwy, yn wir, á ddallwyd; canys hyd y dydd heddyw, y mae yr un llèn yn aros wrth ddarllen yr Hen Sefydliad; gàn nad yw gwedi ei ddarganfod ei fod wedi ei ddileu yn Nghrist. Yn mhellach, pan ddarllenir Moses, y mae y llèn yn gorwedd àr eu calon hwynt. Ond pan ymchwelo at yr Arglwydd, tỳnir ymaith y llèn oddiam dani. Eithr yr Arglwydd yw yr Ysbryd; a lle mae Ysbryd yr Arglwydd, yno y mae rhyddid. A nyni oll, ag wyneb dilèn, yn edrych àr ogoniant yr Arglwydd megys mewn drych, á newidir i’r unrhyw ddelw, o ogoniant i ogoniant, megys gàn yr Arglwydd, yr Ysbryd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help