1-6Am hyny, meddaf, á wrthododd Duw ei bobl? Na ato Duw. Oblegid Israeliad wyf finnau hefyd, o had Abraham, o lwyth Beniamin. Ni wrthododd Duw ei bobl y rhai á gydnabu efe o’r blaen. Oni wyddoch chwi pa beth y mae yr ysgrythyr yn ei ddywedyd wrth Elias; pan y mae efe yn achwyn wrth Dduw yn erbyn Israel, gan ddywedyd, “Arglwydd, hwy á laddasant dy broffwydi, ac á gloddiasant dy allorau i lawr, a myfi á adawyd yn unig, ac y maent yn ceisio fy einioes innau.” Ond beth y mae ateb Duw yn ei ddywedyd wrtho? “Mi á adewais i mi fy hun saith mil o wŷr, y rhai ni phlygasant eu gliniau i Fäal.” Felly, gàn hyny, y pryd hwn hefyd, y mae gweddil yn ol etholedigaeth drwy radioni. Ac os drwy radioni, nid yw o weithredoedd mwyach; os yn amgen, nid yw rhadioni yn radioni mwyach.
7Beth gàn hyny? Y peth y mae Israel yn ei daergeisio, hyny nis cafodd efe.
8-10Ond yr etholedigaeth á’i cafodd, a’r lleill á ddallwyd. Megys y mae yn ysgrifenedig, “Rhoddes Duw iddynt ysbryd trymgwsg; llygaid heb weled, a chlustiau heb glywed, hyd y dydd heddyw.” Ac y mae Dafydd yn dywedyd, “Bydded eu bwrdd hwy yn fagl, ac yn rhwyd, ac yn dramgwydd, ac yn daledigaeth iddynt. Tywyller eu llygaid hwy, fel na welant; a chydgrymant eu cefn bob amser.”
11Yr wyf, gàn hyny, yn gofyn, á dramgwyddasant hwy, fel y cwympent? Na ato Duw. Eithr, drwy eu cwymp hwy, y rhoddwyd iechydwriaeth i’r Cenedloedd, i ỳru eiddigedd arnynt.
12-18O herwydd paham, os ydyw eu cwymp hwy yn olud i’r byd, a’u lleiâad hwy yn olud i’r Cenedloedd; pa faint mwy eu cyflawnder hwy? Canys wrthych chwi, y Cenedloedd, yr wyf yn dywedyd, (ac yn gymaint a’m bod yn Apostol i’r Cenedloedd, yr wyf yn mawrâu fy ngweinidogaeth,) os gallaf, ryw fodd, ỳru eiddigedd àr fy nghenedl, ac achub rhai o honynt. Canys os yw eu gwrthodiad hwy yn gymmod i’r byd; beth fydd eu derbyniad hwy, ond bywyd o feirw? Hefyd, os santaidd y blaenffrwyth, y mae y clamp toes hefyd yn santaidd; ac os santaidd y gwreiddyn, y mae y cangenau hefyd felly. Ac os rhai o’r cangenau á dòrwyd ymaith, a thithau yn oleẅwydden wyllt, á impiwyd i fewn yn eu plith hwynt, ac á wnaethwyd yn gyfranog o wreiddyn a brasder yr oleẅwydden; nac ymffrostia yn erbyn y cangenau; eithr os ymffrosti, eto, nid tydi sydd yn dwyn y gwreiddyn, eithr y gwreiddyn dydi.
19Ti á ddywedi, ynte, Tòrwyd y cangenau ymaith, fel yr impid fi i fewn.
20-21Gwir: drwy annghrediniaeth y tòrwyd hwynt ymaith, a thithau, drwy grediniaeth, wyt yn sefyll. Na fydd uchelfryd, eithr ofna. Canys, os nad arbedodd Duw y cangenau naturiol, ysgatfydd, nid erbyd dithau chwaith.
22-32Gwel, gàn hyny, ddaioni a thostedd Duw! I’r rhai à gwympasant, tostedd; eithr daioni i ti, os arosi yn ei ddaioni ef: os yn amgen, tòrir dithau hefyd ymaith. A hwythau, onid arosant mewn annghrediniaeth, á impir i fewn: canys fe all Duw eu himpio hwy i fewn drachefn. Canys os tydi á dòrwyd ymaith o’r oleẅwydden yr hon oedd wyllt wrth naturiaeth, ac, yn erbyn naturiaeth, á impiwyd mewn gwir oleẅwydden; pa faint mwy y caiff y rhai sydd yn gangenau naturiol, eu himpio i fewn yn eu holeẅwydden eu hun? Oblegid, frodyr, fel na byddoch ddoethion yn eich golwg eich hunain, ni fỳnwn i chwi fod heb wybod y dirgelwch hwn, ddyfod ddallineb o ran i Israel, hyd oni ddelo cyflawnder y Cenedloedd i fewn. A felly holl Israel á fydd cadwedig; fel y mae yn ysgrifenedig, “Y gwaredwr á ddaw allan o Sïon, ac á dry ymaith annuwioldeb oddwrth Iacob. A dyma fy nghyfammod â hwynt, pan gymeraf ymaith eu pechodau.” O ran yr efengyl, yn wir, gelynion ydynt o’ch plegid chwi: ond o ran yr etholedigaeth, caredigion ydynt oblegid y tadau. Canys diedifarus yw doniau a galwedigaeth Duw. Hefyd, megys y buoch chwithau gynt yn anufydd i Dduw; èr hyny, yr awrhon, á gawsoch drugaredd, drwy eu hanufydd‐dod hwy; felly hwythau, hefyd, yr awrhon á anufyddâasant, fel y caent hwythau drugaredd, drwy eich trugaredd chwi. Canys cydgauodd Duw bawb i anufydd‐dod, fel y trugarâai wrth bawb.
33-36O ddyfnder golud a doethineb a gwybodaeth Duw! Mòr anchwiliadwy yw ei farnau ef, a’i ffyrdd mòr anolrheinadwy ydynt! Canys pwy á wybu feddwl yr Arglwydd? neu pwy á fu gynghorwr iddo ef? neu pwy á roddes iddo ef yn gyntaf, a fe á delir iddo drachefn? Canys o hono ef, a thrwyddo ef, ac iddo ef, y mae pob peth: iddo ef y byddo y gogoniant yn dragywydd. Amen.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.