Rhufeiniaid 16 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-27Yr wyf yn gorchymyn i chwi Phebe, ein chwaer, yr hon sy weinidoges i’r gynnulleidfa yn Nghenchrea, fel y derbynioch hi yn yr Arglwydd, megys y mae yn weddus i saint, a’i chynnorthwyo hi yn mha beth bynag y bo raid iddi wrthych: canys, yn wir, hi á fu yn gymhorth i lawer, ac yn enwedig i mi. Anerchwch Briscila ac Acwila, fy nghydweithwyr yn Nghrist Iesu. Y rhai hyn, dros fy mywyd i, á ddodasant eu gyddfau eu hunain i lawr; i’r rhai nid wyf fi yn unig yn diolch, ond hefyd holl gynnulleidfäoedd y Cenedloedd. Anerchwch, hefyd, y gynnulleidfa sydd yn eu tŷ hwynt. Anerchwch Epenetus, fy anwylyd, yr hwn yw blaenffrwyth Asia i Grist. Anerchwch Fair, yr hon á gymerodd lawer o boen erom ni. Anerchwch Andronicus a Iuwnia, fy ngheraint a’m cydgarcharorion, y rhai sy hynod yn mhlith yr Apostolion, y rhai hefyd oeddynt yn Nghrist o’m blaen i. Anerchwch Amplias, fy anwylyd yn yr Arglwydd. Anerchwch Urbanus, ein cydweithiwr yn Nghrist, a Stachys, fy anwylyd. Anerchwch Apèles, y cymeradwy yn Nghrist. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Aristobulus. Anerchwch Herodion, fy nghâr. Anerchwch y rhai sydd o dylwyth Narcissus, y rhai sydd yn yr Arglwydd. Anerchwch Dryphena a Thryphosa, y rhai sydd yn cymeryd poen yn yr Arglwydd. Anerchwch yr anwyl Bersis, yr hon á gymerodd lawer o boen yn yr Arglwydd. Anerchwch Ruwfus, yr etholedig yn yr Arglwydd, a’r hon sy fam iddo ef ac i minnau. Anerchwch Asyncritus, Phlegon, Hermas, Patrobas, Hermes, a’r brodyr gyda hwynt. Anerchwch Philologus, ac Iuwlia, Nerëus, a’i chwaer, ac Olympas, a’r holl saint y rhai sy gyda hwynt. Anerchwch eich gilydd â chusan santaidd. Y mae cynnulleidfäoedd Crist yn eich anerch. Ac yr wyf yn attolwg i chwi, frodyr, graffu àr y rhai sydd yn peri annghydfod a rhwystrau, yn groes i’r athrawiaeth à ddysgasoch chwi; a chiliwch oddwrthynt. Canys y rhai sy gyfryw, nid ydynt yn gwasanaethu ein Harglwydd Iesu Grist, eithr eu bol eu hunain; a thrwy ymadrodd teg a gweniaith, yn twyllo calonau y rhai annichellgar. Canys eich ufydd‐dod chwi á ddaeth àr led at bawb. Yr wyf fi, gàn hyny, yn llawen o’ch rhan chwi; eto myfi á ewyllysiwn i chwi fod yn ddoethion tuagat y peth sy dda; ac yn wirion tuagat y peth sy ddrwg. Boed i Dduw y tangnefedd sathru Satan dàn eich traed àr frys! Rhad ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi. Y mae Timothëus, fy nghydweithiwr, a Luwcius, ac Iason, a Sosipater, fy ngheraint, yn eich anerch. Yr wyf fi Tertius, yr hwn á ysgrifenais y llythyr hwn, yn eich anerch yn yr Arglwydd. Y mae Gaius, fy llettywr i, a’r holl gynnulleidfa, yn eich anerch. Y mae Erastus, goruchwyliwr y ddinas, yn eich anerch, a’r brawd Cwartus. Rhad ein Harglwydd Iesu Grist fyddo gyda chwi oll. Amen. Yn awr, i’r Hwn à ddichon eich cadarnâu yn ol fy efengyl i a phregethiad Iesu Grist, yn ol dadguddiad y dirgelwch, yr hwn á gadwyd yn ddystaw yn yr oesoedd gynt, (eithr yn awr á eglurwyd drwy ysgrifeniadau y proffwydi, a thrwy orchymyn y tragywyddol Dduw a hysbyswyd i’r holl Genedloedd, èr mwyn ufydd‐dod ffydd:) i’r doeth Dduw yn unig, drwy Iesu Grist, iddo ef y byddo y gogoniant yn dragywydd. Amen.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help