Dadguddiad 16 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-2A mi á glywais lef uchel allan o’r deml, yn dywedyd wrth y saith angel, Ewch, a thywelltwch saith fail digofaint Duw àr y ddaiar. A’r cyntaf á aeth, ac á dywalltodd ei fail àr y ddaiar; a bu cornwyd drwg a blin àr y dynion oedd â nod y bwystfil arnynt, a’r rhai à addolent ei ddelw ef.

3A’r ail angel á dywalltodd ei fail àr y môr; ac efe á aeth fel gwaed dyn marw; a phob enaid byw oedd yn y môr á fu farw.

4-7A’r trydydd á dywalltodd ei fail àr yr afonydd, ac àr y ffynnonau dyfroedd; a hwy á aethant yn waed. A mi á glywais angel y dyfroedd yn dywedyd, Cyfiawn ydwyt ti, yr hwn wyt, a’r hwn oeddit; yr hwn wyt berffaith; oblegid barnu o honot y rhai hyn: oherwydd gwaed saint a phrophwydi á dywalltasant hwy; a gwaed a roddaist iddynt iddei yfed: – y maent yn ei haeddu. A mi á glywais lais o’r allor, yn dywedyd, Ië, Arglwydd Dduw Hollalluog, cywir a chyfiawn yw dy farnau di.

8-9A’r pedwerydd á dywalltodd ei fail àr yr haul; a gallu á roddwyd iddo i boethi dynion â thân. A hwy á boethwyd â gwres mawr, a hwy á gablasant enw Duw, yr hwn oedd âg awdurdod ganddo àr y pläau hyn, ac ni ddiwygiasant, i roi gogoniant iddo ef.

10-11A’r pummed á dywalltodd ei fail àr orseddfainc y bwystfil; a’i deyrnas ef á aeth yn dywyll, a hwy á gnoisant eu tafodau gàn ofid, ac á gablasant Dduw y nef, oherwydd eu poenau ac oherwydd eu cornwydydd, ac ni ddiwygiasant oddwrth eu gweithredoedd.

12-16A’r chwechfed á dywalltodd ei fail àr yr afon fawr Euphrates; a sychodd ei dwfr hi, fel y parotoid ffordd i’r breninoedd oddwrth godiad haul. A mi á edrychais, ac allan o safn y ddraig, ac allan o safn y bwystfil, ac allan o safn y geubrophwyd, y daeth tri ysbryd aflan, tebyg i lyffaint: canys ysbrydion cythreuliaid, yn gwneuthur gwyrthiau, ydynt, y rhai sydd yn myned allan at freninoedd yr holl fyd, iddeu cynnull hwy i frwydr y dydd hwnw, dydd mawr Duw Hollalluog. Wele yr wyf fi yn dyfod fel lleidr. Gwyn ei fyd yr hwn sydd yn gwylio, ac yn cadw ei ddillad, fel na rodio yn noeth, ac iddynt weled ei anharddwch ef. Ac efe á’u casglodd hwynt yn nghyd i le à elwir yn Hebraeg, Armagèdon.

17-21A’r seithfed á dywalltodd ei fail i’r awyr; a daeth llais mawr allan o deml y nef, o’r orseddfainc, yn dywedyd, Darfu. Ac yr oedd lleisiau, a tharanau, a mellt; ac yr oedd daiargryn fawr, y fath ni bu èr pan yw dynion àr y ddaiar, y fath ddaiargryn a mòr fawr. A rhànwyd y ddinas fawr yn dair rhan, a dinasoedd y Cenedloedd á syrthiasant. A Babilon Fawr á ddaeth mewn cof gèr bron Duw, i roddi iddi gwpan gwin ei ddigofaint llidiog ef. A phob ynys á ffoes ymaith, a’r mynyddoedd ni chafwyd mwy. A chenllusg mawr, fel pwys talent, á ddisgynodd o’r nef àr ddynion: a dynion á gablasant Dduw oherwydd pla y cenllusg; oblegid mawr iawn ydoedd ei bla ef.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help