Rhufeiniaid 13 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-14Ymddarostynged pob enaid i’r awdurdodau goruchel. Canys nid oes awdurdod ond oddwrth Dduw; a’r rhai sy, dàn Dduw y gosodwyd hwynt. Am hyny, y sawl sydd yn ymosod yn erbyn yr awdurdod, sydd yn gwrthwynebu gosodiad Duw; a’r rhai à wrthwynebant, á dderbyniant gosbedigaeth iddynt eu hunain. Oblegid llywodraethwyr nid ydynt ddychryn i weithredoedd da, ond i rai drwg. A fỳni di, gàn hyny, beidio ofni yr awdurdod? Gwna yr hyn sy dda, a thi á gai glod gànddo. Canys gweinidog i Dduw yw efe èr daioni i ti. Eithr os gwnai ddrwg, ofna; canys nid yw efe yn dwyn y cleddyf yn ofer. Oblegid gweinidog i Dduw yw efe, dialydd llid àr y sawl sydd yn gwneuthur drwg. Am hyny, rhaid yw i chwi ymddarostwng, nid yn unig oherwydd cosb, eithr oherwydd cydwybod hefyd. Am hyn, gàn hyny, yr ydych yn talu teyrnged hefyd iddynt, am mai gweinidogion cyhoeddus i Dduw ydynt, yn gwylied yn wastad àr y gorchwyl yma. Rhoddwch, gàn hyny, i bawb yr hyn sy ddyledus iddynt; teyrnged, i’r hwn y mae teyrnged yn ddyledus; toll, i’r hwn y mae toll; ofn, i’r hwn y mae ofn; parch, i’r hwn y mae parch. Na fyddwch yn nyled neb o ddim, ond o garu bawb eich gilydd. Canys yr hwn sydd yn caru arall, á gyflawnodd y gyfraith. Canys hyn, “Na odineba, Na ladd, Na ladrata, Na thrachwanta;” ac od oes un gorchymyn arall, efe á gynnwysir yn gryno yn yr un gorchymyn hwn, sef, “Ceri dy gymydog fel ti dy hun.” Cariad ni wna ddrwg i gymydog un: am hyny, cyflawniad y gyfraith yw cariad. Yn mhellach, gàn wybod yr amser, ei bod hi weithian yr awr i ni ddeffroi o gwsg. (Canys yr awrhon y mae ein hiechydwriaeth ni yn nes na phan gredasom: y nos á gerddodd yn mhell, a’r dydd á nesâodd.) Am hyny, dyosgwn weithredoedd y tywyllwch, a gwisgwn arfau y goleuni. Rhodiwn yn weddus megys wrth liw dydd, nid mewn cyfeddach a meddwdod, nid mewn cydorwedd ac anlladrwydd, nid mewn cynhen a chenfigen. Eithr gwisgwch am danoch yr Arglwydd Iesu Grist, a na wnewch ragddarpariaeth gyda golwg àr chwantau y cnawd.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help