Luwc 24 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-8Ond y dydd cyntaf o’r wythnos, hwy á aethant gyda thòriad y dydd, gyda rhai ereill, at y tomawd, gàn ddwyn y peraroglau à barotoisent, ac á gawsant y maen wedi ei dreiglo ymaith oddwrth y tomawd; a gwedi iddynt fyned i fewn, ni chawsant gorff yr Arglwydd Iesu. A bu, a hwy yn petruso am y peth hyn, wele dau wr á safodd yn eu hymyl mewn gwisgoedd gorddysglaer. Wedi dychrynu o’r gwragedd, a dàl eu golygon tua’r llawr, dywedodd y rhai hyn wrthynt, Paham yr ydych yn ceisio y byw yn mysg y meirw? Nid yw ef yma, ond efe á gyfododd; cofiwch pa fodd y dywedodd wrthych, cyn iddo adael Galilea, gàn ddywedyd, Rhaid i Fab y Dyn gael ei draddodi i ddwylaw pechaduriaid, a’i groeshoelio, a’r trydydd dydd adgyfodi. Yna y cofiasant ei eiriau ef.

9-12Gwedi dychwelyd o honynt oddwrth y tomawd, hwy á fynegasant y cwbl i’r unarddeg, ac i’r holl ddysgyblion ereill. Mair y Fagdalead, a Ioanna, a Mair mam lago, a gwragedd ereill gyda hwynt, oedd y rhai á ddywedasant y pethau hyn wrth yr Apostolion: ond eu geiriau á ymddangosent iddynt fel gwagchwedlau; ni roisant yr un gred iddynt. Eithr Pedr á gododd i fyny, ac á redodd at y tomawd; a gwedi ymgrymu, ni welai efe ddim ond y llieiniau yn gorwedd. Ac efe á aeth ymaith, dàn synfyfyrio àr yr hyn à ddygwyddasai.

13-24Yr un diwrnod, fel yr oedd dau o’r dysgyblion yn ymdaith i bentref a’i enw Emmäus, triugain ystad oddwrth Gaersalem, yr oeddynt yn ymddyddan â’u gilydd am yr holl ddygwyddion hyn. Tra yr oeddynt yn ymddyddan ac yn ymresymu, Iesu ei hun á ymunodd â hwynt, ac á aeth gyda hwynt. Ond yr oedd eu llygaid hwynt wedi eu haffeithio gymaint, fel nad adwaenent ef. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Pa destunau yw y rhai hyn yr ydych yn ymddyddan yn eu cylch? a phaham yr ydych yn bruddion? Ac un o honynt, a’i enw Cleopas, á atebodd, Ai tydi yn unig sy ddyeithr yn Nghaersalem ac heb wybod y pethau à ddygwyddasant yno mòr ddiweddar? Pa bethau? ebai yntau. Hwythau á atebasant, Yn nghylch Iesu y Nasarethiad, yr hwn oedd Broffwyd, galluog mewn gair a gweithred, gèr bron Duw a’r holl bobl; y modd y traddododd ein harchoffeiriaid a’n llywiawdwyr ni ef iddei gollfarnu i farwolaeth, ac á’i croeshoeliasant ef. Am danom ni, yr oeddym yn hyderu mai efe fuasai yr hwn à waredasai Israel. Heblaw hyn oll, a heddyw y trydydd dydd èr pan ddygwyddodd y pethau hyn, rhyw wragedd yn perthyn i ni á’n sỳnasant ni; canys wedi iddynt fyned yn fore at y tomawd, ac heb gael ei gorff ef, hwy á ddaethant, ac á fynegasant i ni weled o honynt weledigaeth o angylion, y rhai á ddywedent ei fod ef yn fyw. A rhai o honom ni á aethant at y tomawd, ac á gawsant bethau yr un ffunud ag y dywedasai y gwragedd; ond ef nis gwelsant.

25-32Yna y dywedodd efe wrthynt, O rai difeddwl a hwyrfrydig i gredu pethau à ragfynegwyd oll gàn y proffwydi! Onid oedd raid i’r Messia ddyoddef fel hyn, a felly myned i fewn iddei ogoniant? Yna gàn ddechreu gyda Moses, a myned drwy yr holl broffwydi, efe á eglurodd iddynt yr holl rànau hyny o’r ysgrythyr à berthynent iddo ef ei hun. Pan ddaethant yn agos i’r pentref lle yr oeddynt yn ymdaith iddo, efe á gymerai arno ei fod yn myned yn mhellach. Hwythau á’i cymhellasant ef, gàn ddywedyd, Aros gyda ni; canys y mae hi yn hwyrâu, a’r dydd yn darfod. Ac efe á aeth i fewn i aros gyda hwynt. Tra yr oeddynt wrth y bwrdd yn nghyd, efe á gymerodd y dorth, ac á’i bendithiodd, ac á’i tòrodd, ac á rànodd iddynt. Yna eu llygaid hwynt á agorwyd, a hwy á’i hadnabuant ef; ac efe á ddiflànodd. A hwy á ddywedasant wrth eu gilydd, Onid oedd ein calonau yn llosgi ynom, tra yr ydoedd efe yn ymddyddan â ni àr y ffordd, ac yn egluro i ni yr ysgrythyrau?

33-35Yn ddiannod hwy á godasant, ac á ddychwelasant i Gaersalem, lle y cawsant yr unarddeg, a’r lleill o’u cymdeithion, wedi ymgasglu yn nghyd, y rhai á ddywedasant, Y Meistr á gyfododd mewn gwirionedd, ac á ymddangosodd i Simon. Y rhai hyn hefyd á adroddasant yr hyn á ddygwyddasai àr y ffordd, a pha fodd yr adnabuwyd ef ganddynt ar dòriad y dorth.

36-49Tra yr oeddynt yn ymddyddan fel hyn, efe á safodd yn eu canol hwynt, ac á ddywedodd, Tangnefedd i chwi. Hwythau á gymerasant fraw ac á ofnasant, gàn ddychymygu weled o honynt ysbryd. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Paham ych cythruddir? a phaham y mae meddyliau ammheüus yn codi yn eich calonau? Edrychwch fy nwylaw a’m traed; myfi fy hun ydyw; teimlwch fi a choeliwch; canys nid oes gàn ysbryd gnawd ac esgyrn, fel y gwelwch bod gènyf fi. Gwedi iddo ddywedyd hyn, efe á ddangosodd iddynt ei ddwylaw a’i draed. Ac a hwy eto heb gredu gàn lawenydd a syndod, efe á ddywedodd wrthynt, A oes gènych chwi yma ddim bwyd? A hwy a roddasant iddo ddarn o bysgodyn wedi ei rostio, ac o ddil mel, yr hwn á gymerodd efe, ac á’i bwytäodd yn eu gwydd hwynt. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn à ddywedais i wrthych, tra yr oeddwn yn aros gyda chwi, bod yn raid cyflawni pob peth à ysgrifenwyd yn nghyfraith Moses, a’r proffwydi, a’r Salmau, am danaf fi. Yna yr agorodd efe eu meddyliau hwynt, fel y deallent yr ysgrythyrau; ac á ddywedodd wrthynt, Felly yr ysgrifenwyd, a felly yr oedd raid i’r Messia ddyoddef, a chyfodi oddwrth y meirw y trydydd dydd; a chyhoeddi diwygiad a maddeuant pechodau yn ei enw ef yn mhlith pob cenedl, gàn ddechreu yn Nghaersalem. Ac yr ydych chwi yn dystion o’r pethau hyn; ac wele yr wyf fi yn anfon i chwi yr hyn à addawodd fy Nhad; eithr aroswch chwi yn y ddinas hon, hyd oni wisger chwi â nerth o’r uchelder.

50-53Yna efe á’u dyg hwynt hyd yn Methania, ac á gododd ei ddwylaw ac á’u bendithiodd hwynt. A thra yr oedd efe yn eu bendithio hwynt, efe á wahanwyd oddwrthynt, ac á ddygwyd i fyny i’r nef. A gwedi iddynt ei addoli ef, hwy á ddychwelasant i Gaersalem, gyda llawenydd mawr; ac yr oeddynt yn wastadol yn y deml, yn moli ac yn bendithio Duw

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help