1-2 Paul, a Silfanus, a Thimothëus, at gynnulleidfa y Thessaloniaid, yr hon y sydd yn Nuw ein Tad ni, ac yn yr Arglwydd Iesu Grist. Rhad i chwi, a thangnefedd oddwrth Dduw ein Tad, ac oddwrth ein Harglwydd Iesu Grist.
3-12Diolch á ddylem i Dduw yn wastadol drosoch, frodyr, fel y mae yn addas, oblegid bod eich ffydd chwi yn cynnyddu yn ddirfawr, a chariad pob un o honoch oll tuagat eich gilydd yn chwanegu; hyd onid ydym ni ein hunain yn bostio o’ch plegid wrth gynnulleidfäoedd Duw, oherwydd eich amynedd chwi a’ch ffydd, yn nghanol eich holl erlidiau a’ch gorthrymderau, y rhai yr ydych yn eu goddef; arbrawf o gyfiawn farn Duw, fel ych cyfrifer yn wir deilwng o deyrnas Duw, dros yr hon yr ydych fel hyn yn dyoddef; gàn mai cyfiawn yw gèr bron Duw atdalu cystudd i’r sawl y sydd yn eich cystuddio chwi; – ac i chwithau, y rhai à gystuddir, (oherwydd i’n tystiolaeth ni gael ei chredu genych,) orphwysdra gyda ni, yn nadguddiad yr Arglwydd Iesu o’r nef gyda’i angylion nerthol, mewn tân flamlyd, gàn roddi cyfiawn daledigaeth i’r sawl nid adwaenant Dduw, a’r sawl nid ydynt yn ufyddâu i efengyl ein Harglwydd Iesu Grist; y rhai á ddyoddefant gyfiawn gosbedigaeth – dinystr tragwyddol oddwrth bresennoldeb yr Arglwydd, ac oddwrth ogoniant ei gadernid ef – yn y dydd hwnw pan ddel efe iddei ogoneddu yn ei saint, ac i gael ei ryfeddu gàn yr holl gredinwyr. O berthynas i’r hyn beth yr ydym yn gweddio yn wastadol drosoch, àr fod i’n Duw ni eich cyfrif yn deilwng o’r alwedigaeth hon, a’ch llenwi â phob caredigrwydd daioni, ac effaith ffydd gyda gallu; fel y gogonedder enw ein Harglwydd Iesu Grist trwoch chwi, a chwithau drwyddo yntau, yn ol rhadioni ein Duw ni, a’r Arglwydd Iesu Grist.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.