1 Timotheus 1 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-2 Paul, Apostol i Iesu Grist, drwy orchymyn Duw ein Hiachawdwr, a’r Arglwydd Iesu Grist ein gobaith; at Dimothëus fy mab cynnwynol yn y ffydd: Rhad, trugaredd, a thangnefedd oddwrth Dduw ein Tad, ac oddwrth Grist Iesu ein Harglwydd.

3-20Megys y deisyfais arnat aros yn Ephesus, pan oeddwn yn myned i Facedonia, fel y gorchymynit i rai beidio dysgu dim yn amgen: na rhoi coel i chwedlau, ac achau anorphen, y rhai sydd yn peri dadleuon yn hytrach na chyflawni goruchwyliaeth Duw, yr hon sy drwy ffydd; (a dyben y gorchymyn hwn yw cariad, o galon bur, a chydwybod dda, a ffydd ddiffuant: oddwrth yr hyn bethau y gwyrodd rhai, ac y troisant ymaith at ofersiarad. Gan ewyllysio bod yn athrawon o’r gyfraith, heb ddeall na pha bethau y maent yn eu dywedyd, nac am ba bethau y maent yn taeru. Nyni á wyddom, yn wir, mai da yw y gyfraith, os arfer dyn hi yn gyfreithlawn. Gan wybod hyn, nad i’r cyfiawn y gosodwyd y gyfraith, ond i’r rhai digyfraith ac annarostyngedig, i’r annuwiolion a’r pechaduriaid, i’r rhai ansantaidd a halogedig; i dadleiddiaid, a mamleiddiaid, i leiddiaid dynion, i buteinwyr, i wrywgydwyr, i ladron dynion, i gelwyddwyr, i anudonwyr, ac od oes dim arall yn wrthwyneb i athrawiaeth iachus; yn ol efengyl ogoneddus y bendigedig Dduw, am yr hon yr ymddiriedwyd i mi. Ac yr ydwyf yn diolch i Grist Iesu ein Harglwydd, yr hwn á’m cymhwysodd i, am iddo fy nghyfrif yn ffyddlawn, gàn fy ngosod yn y weinidogaeth, yr hwn oeddwn o’r blaen yn gablwr, ac yn erlidiwr, ac yn drahâus. Eithr mi á gefais drugaredd, am i mi yn ddiarwybod ei wneuthur drwy annghrediniaeth. A rhad ein Harglwydd ni á ymhelaethodd yn ddirfawr, yn nghyd â’r ffydd a’r cariad y sy drwy Grist Iesu. Gwir yw y gair ac yn haeddu pob derbyniad, ddyfod Crist Iesu i’r byd i gadw pechaduriaid, o ba rai pènaf ydwyf fi. Eithr, o achos hyn y cefais drugaredd, fel ynof fi, y pènaf o bechaduriaid, yr arddangosai Iesu Grist bob hirymaros, yn gynllun i’r sawl à gredont rhagllaw ynddo ef, èr bywyd tragwyddol. Ac i’r Brenin tragywyddol, anfarwol, anweledig, i Dduw yn unig, y byddo anrhydedd a gogoniant, yn oes oesoedd. Amen.) Y gorchymyn hwn yr ydwyf yn ei roddi i ti, fy mab Timotheus, yn ol y prophwydoliaethau à gerddasant o’r blaen am danat, fel y gellit drwyddynt hwy filwrio y filwriaeth dda; gàn gadw ffydd a chydwybod dda; yr hon á fwriodd rhai ymaith, ac o ran y ffydd á wnaethant longddrylliad: o ba rai y mae Hymenëus ac Alecsander, y rhai á draddodais i’r gwrthwynebwr, fel drwy gerydd y dysgid iddynt beidio cablu.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help