1-19Ac yr ydwyf yn dwyn àr gof i chwi, frodyr, y newydd da à gyhoeddais i chwi; yr hwn hefyd á dderbyniasoch, ac yn yr hwn yr ydych yn sefyll. Drwy yr hwn hefyd yr ydych yn gadwedig, os ydych yn dàl yn eich cof y newydd llawen à draddodais i chwi; oddieithr, yn wir, ddarfod i chwi gredu yn ofer. Canys mi á draddodais i chwi, yn mhlith y pethau cyntaf, yr hyn hefyd á dderbyniais gyntaf, – farw o Grist dros ein pechodau ni, yn ol yr ysgrythyrau; a’i gladdu; a’i gyfodi y trydydd dydd, yn ol yr ysgrythyrau; a’i weled ef gàn Gephas, yna gàn y deg a dau. Gwedi hyny y gwelwyd ef gàn fwy na phumm cant o frodyr àr unwaith; o’r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd y pryd hwn, eithr rhai á hunasant. Wedi hyny y gwelwyd ef gàn Iago; yna, gàn yr holl Apostolion. Ac yn ddiweddaf oll, gwelwyd ef genyf finnau, megys gàn un annhymmig. Canys myfi yw y lleiaf o’r Apostolion, yr hwn nid wyf deilwng i’m galw yn Apostol, am i mi erlid cynnulleidfa Duw. Eithr, drwy rad Duw, yr ydwyf yr hyn ydwyf; a’i rad ef, yr hwn á roddwyd i mi, ni bu yn ofer; canys mi á lafuriais yn helaethach na hwynt oll; a nid myfi chwaith, ond rhadioni Duw, yr hwn sy gyda myfi. Gan hyny, pa un bynag ai myfi ai hwynthwy, felly yr ydym yn cyhoeddi, a felly y credasoch chwi. Ac os cyhoeddir gyfodi Crist o feirw; pa fodd y dywed rhai yn eich plith chwi, nad oes adgyfodiad y meirw? Canys onid oes adgyfodiad y meirw, ni chyfodwyd Crist chwaith. Ac os na chyfodwyd Crist, ofer, yn ddiau, yw ein cyhoeddedigaeth ni, ac ofer hefyd yw eich ffydd chwithau. Gyda hyny, fe’n ceir ni hyd y nod yn eudystion am Dduw; oblegid ni á dystiasom, o barthed i Dduw, ddarfod iddo gyfodi Crist; yr hwn ni chyfododd efe, os y meirw ni chyfodir. Ac os y meirw ni chyfodir, ni chyfodwyd Crist chwaith. Hefyd, os Crist ni chyfodwyd, ofer yw eich ffydd chwi; yr ydych eto yn eich pechodau. Diau, hefyd, bod y rhai à hunasant yn Nghrist wedi eu cyfrgolli. Os yn y fuchedd hon yn unig y gobeithiwn yn Nghrist, truenusaf o’r holl ddynion ydym ni.
20-28Eithr yn awr Crist á gyfodwyd oddwrth y meirw, – blaenffrwyth y rhai à hunasant. Canys gàn fod marwolaeth drwy ddyn, drwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Gan hyny, megys drwy Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd drwy Crist y caiff pawb eu bywâu. Eithr pob un yn ei restr ei hun: Crist y blaenffrwyth; y rhai ydynt eiddo Crist, wedi hyny, yn ei ddyfodiad ef. Yna y daw y diwedd, pan roddo efe y deyrnas i fyny i Dduw, sef, y Tad; wedi iddo ddileu pob llywodraeth, a phob awdurdod, a gallu. Canys rhaid iddo deyrnasu, hyd oni osodo yr holl elynion dan ei draed. Y gelyn diweddaf, Angeu, á ddinystrir. Canys efe á ddarostyngodd bob peth dan ei draed ef. Eithr pan y mae yn dywedyd bod pob peth wedi eu darostwng, amlwg yw mai oddieithr yr hwn à ddarostyngodd bob peth iddo. A phan ddarostyngir pob peth iddo, yna y Mab ei hun á ddarostyngir i’r hwn à ddarostyngodd bob peth iddo ef, fel y byddo Duw oll yn oll.
29Os amgen, beth á wna y rhai à drochir dros y meirw, os y meirw ni chyfodir ddim? paham ynte y trochir hwy drostynt?
30-31A phaham yr ydym ni yn peryglu ein hunain bob awr? Yr wyf fi yn tystio yn ddifrifol, myn eich gorfoledd, yr hwn sy genyf yn Nghrist Iesu ein Harglwydd, fy mod i beunydd yn marw.
32-34Os, yn ol dull dynion, yr ymleddais â bwystfilod yn Ephesus, pa lesâad yw i mi, oni chyfodir y meirw? Bwytawn ac yfwn, canys y fory marw yr ydym. Na thwyller chwi: y mae ymddyddanion drwg yn llygru moesau da. Deffrowch fel y mae yn iawn i chwi, a na phechwch; canys nid oes gàn rai o honoch wybodaeth am Duw. Er cywilydd i chwi yr wyf yn dywedyd hyn.
35-58Eithr fe ddywed rhyw un, Pa fodd y cyfodir y meirw? ac â pha fath gorff y deuant? O ynfyd! y peth yr wyt ti yn ei hau ni fywêir, oni bydd ef marw. Ac am y peth yr wyt ti yn ei hau, nid y corff à gynnyrchir yr wyt yn ei hau, ond y gronyn noeth; ysgatfydd o wenith, neu o ryw fath arall: eithr Duw sydd yn rhoddi iddo gorff, fel y mỳnodd efe; ac i bob un o’r hadau ei gorff ei hun. Nid yw pob cnawd unrhyw gnawd: eithr cnawd arall, yn wir, sydd i ddynion, ac arall i anifeiliaid, ac arall i bysgod, ac arall i adar. Y mae cyrff nefol, a chyrff daiarol: ond arall, yn wir, yw gogoniant y rhai nefol, ac arall y rhai daiarol. Arall yw gogoniant yr haul, ac arall yw gogoniant y lloer, ac arall yw gogoniant y ser; hefyd, y mae seren yn rhagori àr seren mewn gogoniant. Felly hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Efe á heuir mewn llygredigaeth – efe á gyfodir mewn anllygredigaeth: efe á heuir mewn anmharch – efe á gyfodir mewn gogoniant: efe á heuir mewn gwendid – efe á gyfodir mewn nerth: efe á heuir yn gorff anifeiliol – efe á gyfodir yn gorff ysbrydol. Y mae corff anifeiliol, ac y mae corff ysbrydol. Canys felly y mae yn ysgrifenedig, “Y dyn cyntaf, Adda, á wnaed yn enaid byw – yr Adda diweddaf, yn ysbryd yn bywâu.” Eithr nid cyntaf yr ysbrydol; ond yr anifeiliol, ac yna yr ysbrydol. Y dyn cyntaf o’r ddaiar, oedd ddaiarol; yr ail dyn yw yr Arglwydd o’r nef. Fel yr oedd y daiarol, felly y mae y rhai daiarol hefyd; a fel y mae y nefol, felly y bydd y rhai nefol hefyd. Canys megys y dygasom ddelw y daiarol, ni á ddygwn hefyd ddelw y nefol. A hyn yr wyf yn ei sicrâu, frodyr, nas dichon llygredigaeth etifeddu anllygredigaeth. Wele, yr wyf yn dywedyd i chwi ddirgelwch; ni byddwn ni feirw oll, eithr ni á newidir oll; mewn meidyn, àr darawiad llygad wrth yr udgorn diweddaf; canys yr udgorn á gan, ac yna y meirw á gyfodir yn anllygredig; a ninnau á newidir. Oherwydd rhaid i’r corff llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth; ac i’r corff marwol hwn wisgo anfarwoldeb. A phan ddarffo i’r corff llygradwy hwn wisgo anllygredigaeth, ac i’r corff marwol hwn wisgo anfarwoldeb, yna y cyflawnir yr ymadrodd hwnw o’r ysgrythyr, “Angeu á lyncwyd yn dragywydd.” Angeu! pa le mae dy golyn? Hades! pa le mae dy fuddygoliaeth? Canys colyn angeu yw pechod; a grym pechod yw y gyfraith. Ond i Dduw y byddo y diolch, yr hwn sydd yn rhoddi i ni y fuddygoliaeth hon drwy ein Harglwydd Iesu Grist. Am hyny, fy mrodyr anwyl, byddwch sefydlog, a diymmod; gàn fod yn helaethion yn ngwaith yr Arglwydd yn wastadol, a chwi yn gwybod nad yw eich llafur chwi yn ofer yn yr Arglwydd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.