Gweithredoedd 26 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1Yna y dywedodd Agrippa wrth Baul, Y mae cènad i ti i ddywedyd drosot dy hun. Yna Paul á estynodd ei law, ac á’i hamddiffynodd ei hun.

2-23Yr ydwyf yn fy nhybied fy hun yn ddedwydd, O frenin Agrippa! gàn fy mod i gael amddiffyn fy hun gèr dy fron di heddyw, am yr holl bethau yr achwynir arnaf gàn yr Iuddewon; yn bendifaddeu, gàn dy fod di yn gydnabyddus â’r holl ddefodau a’r dadleuon à sydd yn mhlith yr Iuddewon: o herwydd paham, yr ydwyf yn deisyf arnat fy ngwrandaw i yn ddyoddefgar. Fy muchedd i, o’m mebyd, yr hon oedd o’r dechreuad yn mhlith fy nghenedl yn Nghaersalem, sydd wybyddus i’r Iuddewon oll; y rhai a’m hadwaenent i o’r dechreu, (pe mỳnent dystiolaethu,) mai, yn ol yr arblaid fanylaf o’n crefydd ni, y bum i byw yn Pharisead. Ac yn awr, am obaith yr addewid à wnaed gàn Dduw i’n tadau, yr wyf yn sefyll i’m barnu; yr hon addewid y mae ein deg a dau lwyth ni, gàn addoli Duw yn barâus nos a dydd, yn gobeithio ei chyrhaeddyd: am yr hwn obaith, O frenin Agrippa! yr achwynir arnaf gàn yr Iuddewon. Paham y bernir yn beth anghygoel gènych chwi, y cyfyd Duw y meirw? Minnau, yn wir, á dybiais ynof fy hun y dylaswn wneuthur llawer o bethau yn erbyn enw Iesu o Nasareth. Yr hyn hefyd á wnaethym yn Nghaersalem; a llawer o’r saint á gauais i mewn carcharau, gwedi derbyn awdurdod gàn yr archoffeiriaid. A phan leddid rhai o honynt, mi á roddais fy mhleidlais yn eu herbyn; a chàn eu cosbi hwynt yn fynych yn mhob cynnullfa, mi á’u cymhellais i gablu; a chàn ymwallgofi yn ddirfawr yn eu herbyn, mi á’u herlidiais hyd ddinasoedd dyeithr hefyd. Yn y gorchwyl hwn, a myfi yn myned i Ddamascus, gydag awdurdod a chènadwriaeth oddwrth yr archoffeiriaid, àr hanner dydd, ac àr y ffordd, O frenin! mi á welais oleuni o’r nef, mwy na dysgleirdeb yr haul, yn tywynu o’m hamgylch i, a’r sawl oedd yn ymdaith gyda mi. A gwedi i ni oll syrthio àr y ddaiar, mi á glywais lais yn llefaru wrthyf, ac yn dywedyd yn yr Hebraeg, Saul, Saul, paham yr wyt yn fy erlid i? Caled yw i ti wingo yn erbyn y symylau. A mi á ddywedais, Pwy wyt ti, Arglwydd? Ac efe á ddywedodd, Myfi yw Iesu, yr hwn yr wyt ti yn ei erlid. Eithr cyfod, a saf àr dy draed; canys i hyn yr ymddangosais i ti, i’th osod di yn weinidog ac yn dyst, o’r pethau à welaist, ac o’r pethau à ddangosaf i ti àr ol hyn: gàn dy waered di oddwrth y bobl, ac oddwrth y Cenedloedd, at y rhai yr ydwyf yn awr yn dy ddanfon di, – i agoryd eu llygaid, iddeu troi o dywyllwch i oleuni, ac o feddiant Satan at Dduw; fel y derbyniont faddeuant pechodau, a chyfran yn mysg y rhai à santeiddiwyd, drwy ffydd ynof fi. O’r pryd hwnw, O frenin Agrippa! ni bum anufydd i’r weledigaeth nefol; eithr mi á fynegais, yn gyntaf i’r rhai yn Namascus, ac yn Nghaersalem, a thros holl wlad Iuwdea; ac yna i’r Cenedloedd, fod iddynt ddiwygio, a dychwelyd at Dduw, a gwneuthur gweithredoedd addas i ddiwygiad. O achos y pethau hyn, yr Iuddewon, wedi iddynt fy nal i yn y deml, á geisiasant fy lladd i â’u dwylaw eu hunain. Am hyny, gwedi i mi gael cymhorth gàn Dduw, yr wyf fi yn aros hyd y dydd hwn, gàn dystiolaethu i fychan a mawr, heb ddywedyd dim yn amgen nag á ddywedasai y proffwydi a Moses á ddelai i ben; y byddai y Messia yn ddyoddefwr, – y byddai efe yn gyntaf o adgyfodiad oddwrth y meirw, – y rhoddai efe oleuni i’r bobl, ac i’r Cenedloedd.

24-32A fel yr oedd efe yn amddiffyn ei hun fel hyn, Ffestus á ddywedodd â llef uchel, Paul, yr wyt ti yn anmhwyllo; llawer o ddysg sydd yn dy ỳru di yn ynfyd. Ond efe á atebodd, Nid wyf fi yn anmhwyllo, ardderchocaf Ffestus, ond geiriau gwirionedd ac iawnbwyll yr wyf fi yn eu traethu. Canys y brenin á ŵyr am y pethau hyn, wrth yr hwn hefyd yr wyf fi yn llefaru yn hyf: oherwydd nid wyf yn tybied bod dim o’r pethau hyn yn guddiedig oddwrtho, oblegid nid mewn congl y gwnaed hyn. O frenin Agrippa! a wyt ti yn credu y proffwydi? Mi á wn dy fod yn credu. Yna Agrippa á ddywedodd wrth Baul, Yr wyt ti o fewn ychydig i’m hynnill i fod yn gristion. A Phaul á ddywedodd, Mi á ddymunwn gàn Dduw, fod nid yn unig tydi, ond hefyd pob un à sydd yn fy ngwrandaw heddyw, o fewn ychydig ac yn gwbl oll y cyfryw ag wyf fi, ond y rhwymau hyn. A fel yr oedd efe yn dywedyd hyn, cyfododd y brenin, a’r rhaglaw, a Bernice, a’r sawl oedd yn eistedd gyda hwynt. A gwedi iddynt fyned o’r neilldu, hwy á lefarasant y naill wrth y llall, gàn ddywedyd, Ni wnaeth y dyn hwn ddim yn haeddu angeu – neu rwymau. Ac Agrippa á ddywedodd wrth Ffestus, Gallesid gollwng y dyn yma yn rydd, oni buasai iddo apelio at Gaisar.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help