1-21Garedigion, na chredwch bob ysbryd, eithr profwch yr ysbrydion, ai o Dduw y maent; oblegid y mae geubroffwydi lawer wedi myned allan i’r byd. Wrth hyn yr adnabyddwch Ysbryd Duw: Pob ysbryd y sydd yn cyffesu mai Iesu yw Crist wedi dyfod yn y cnawd, o Dduw y mae. A phob ysbryd nad yw yn cyffesu Iesu, nid yw o Dduw; a hwn yw ysbryd anghrist, yr hwn y clywsoch ei fod yn dyfod; ac yn awr y mae efe yn y byd eisoes. Chychwi ydych o Dduw, blant bychain, ac á’u gorchfygasoch hwy; oblegid mwy yw yr hwn sy gyda chwi, na’r hwn sy gyda’r byd. Hwynthwy o’r byd y maent; am hyny o’r byd y maent yn llefaru, a’r byd á wrendy arnynt. Nyni o Dduw yr ydym: yr hwn sydd yn adnabod Duw, sydd yn ein gwrandaw ni; yr hwn nid yw o Dduw, nid yw yn ein gwrandaw ni. Wrth hyn yr adwaenom ysbryd y gwirionedd, ac ysbryd y cyfeiliorni. Garedigion, carwn ein gilydd; oblegid cariad o Dduw y mae; a phob un y sydd yn caru, gàn Dduw y cenedlwyd ef, ac y mae efe yn adnabod Duw. Yr hwn nid yw yn caru, nid adnabu Dduw; oblegid Duw cariad yw. Drwy hyn yr eglurwyd cariad Duw tuag atom ni, oblegid danfon o Dduw ei Fab, yr uniganedig, i’r byd, fel y byddem fyw drwyddo ef. Yn hyn y mae cariad, nid am i ni garu Duw, ond am iddo ef ein caru ni, ac anfon ei Fab i fod yn iawn dros ein pechodau. Garedigion, os felly y carodd Duw ni, ninnau hefyd á ddylem garu ein gilydd. Ni welodd neb Dduw erioed. Os carwn ni ein gilydd, y mae Duw yn trigo ynom, ac y mae ei gariad ef yn berffaith ynom. Wrth hyn y gwyddom ein bod yn trigo ynddo ef, ac yntau ynom ninnau, am ddarfod iddo roddi i ni o’i Ysbryd. A nyni á welsom, ac yr ydym yn tystiolaethu, ddarfod i’r Tad ddanfon ei Fab, i fod yn Iachawdwr i’r byd. Pwybynag á gyffeso bod Iesu yn Fab Duw, y mae Duw yn aros ynddo ef, ac yntau yn Nuw. A nyni á adnabuom, ac á gredasom y cariad y sy gàn Dduw tuag atom ni. Duw cariad yw: am hyny, yr hwn sydd yn aros mewn cariad, sydd yn aros yn Nuw, a Duw ynddo yntau. Drwy hyn y perffeithiwyd y cariad ynom ni, fel y caffom hyder ddydd y farn; oblegid megys y mae efe, felly yr ydym ninnau hefyd yn y byd hwn. Nid oes ofn mewn cariad; eithr y mae perffaith gariad yn bwrw allan ofn, oblegid y mae i ofn boenedigaeth: am hyny, yr hwn sydd yn ofni, ni pherffeithiwyd mewn cariad. Yr ydym ni yn ei garu ef, am iddo ef yn gyntaf ein caru ni. Os dywed neb, Yr wyf fi yn caru Duw, ac efe yn casâu ei frawd, celwyddog yw: canys yr hwn nid yw yn caru ei frawd, yr hwn á welodd, pa fodd y gall efe garu Duw, yr hwn nis gwelodd? Hefyd, y gorchymyn hwn y sy genym oddwrtho ef, Bod i’r hwn y sydd yn caru Duw, garu ei frawd hefyd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.