1-23Yr hwn sy wan yn y ffydd, derbyniwch atoch, heb edrych àr amrywiaeth barnau. Y mae un, yn wir, yn credu y gall fwyta pob peth; ond yr hwn sy wan sydd yn bwyta llysiau yn unig. Yr hwn sydd yn bwyta, na ddirmyged yr hwn nid yw yn bwyta: a’r hwn nid yw yn bwyta, na farned àr yr hwn sydd yn bwyta: canys Duw á’i derbyniodd ef. Pwy wyt ti yr hwn wyt yn barnu àr was un arall? Drwy ei feistr ei hun y mae efe yn sefyll, neu yn syrthio; ond efe á gaiff sefyll, canys y mae Duw yn alluog i wneuthur iddo sefyll. Y mae un yn barnu y naill ddiwrnod yn santeiddiach na’r llall; y mae arall yn barnu pob diwrnod yn gyffelyb. Bydded pob un yn sicr yn ei feddwl ei hun. Yr hwn sydd yn cadw y diwrnod, sydd yn ei gadw i’r Arglwydd; ond yr hwn nid yw yn cadw y diwrnod i’r Arglwydd, nid yw yn ei gadw: yr hwn sydd yn bwyta, sydd yn bwyta i’r Arglwydd, canys y mae yn diolch i Dduw: a’r hwn nid yw yn bwyta i’r Arglwydd, nid yw yn bwyta, ac y mae yn diolch i Dduw. Canys nid yw yr un o honom yn byw iddo ei hun, a nid yw yr un o honom yn marw iddo ei hun. Ond pynag ai byw yr ydym, i’r Arglwydd yr ydym yn byw; ai marw yr ydym i’r Arglwydd yr ydym yn marw: pynag ai byw, gàn hyny, yr ydym, ai marw, eiddo yr Arglwydd ydym. Oblegid èr mwyn hyn y bu Crist farw, ac yr adgyfododd, ac y mae yn byw drachefn, fel yr arglwyddiaethai àr y meirw a’r byw hefyd. Eithr tydi, paham yr wyt yn barnu àr dy frawd? a thithau, paham yr wyt yn dirmygu dy frawd? canys gosodir ni oll gèr bron brawdle Crist. Canys y mae yn ysgrifenedig, “Fel mai byw fi, medd yr Arglwydd, pob glin á blyga i mi, a phob tafod á gyffesa i Dduw.” Felly, gàn hyny, pob un o honom drosto ei hun á rydd gyfrif i Dduw. Am hyny, na farnwn àr ein gilydd mwyach; ond penderfynwn yn hytrach, na bo i neb osod achlysur i dramgwyddo o flaen brawd, neu achos i syrthio. Mi á wn, ac y mae yn sicr genyf drwy yr Arglwydd Iesu, nad oes dim yn aflan o hono ei hun; èr hyny, i’r hwn sydd yn cyfrif peth yn aflan, i hwnw y mae yn aflan. Ac, os o achos bwyd y tristêir dy frawd, nid wyt ti mwyach yn rhodio fel y mae cariad yn gofyn. Na ddystrywia ef, â’th fwyd, dros yr hwn y bu Crist farw. Na chabler, gàn hyny, eich daioni chwi. Canys nid yw Teyrnasiad Duw fwyd a diod; ond cyfiawnder, a thangnefedd, a llawenydd yn yr Ysbryd Glan. A’r hwn sydd yn gwasanaethu Crist, drwy y pethau hyn, sy hoff gàn Dduw, a chymeradwy gàn ddynion. Felly, gàn hyny, dylynwn y pethau à berthynant i heddwch, ac adeiladaeth ein gilydd. O achos bwyd, na ddynystria waith Duw. Pob bwyd, yn wir, sy lân; eithr y bwyd hwnw sy niweidiol i’r dyn sydd yn bwyta i beri tramgwydd. Da yw, na fwytaer cig, a nad yfer gwin, a na wneler dim, drwy yr hyn y tramgwyddir, neu y rhwystrir, neu y gwanêir dy frawd. Y mae ffydd genyt ti: cadw hi i ti dy hun yn ngolwg Duw. Gwyn ei fyd yr hwn nid yw yn ei gollfarnu ei hun, yn yr hyn y mae yn ei gymeradwyo. Canys yr hwn sydd yn canfod gwahaniaeth rhwng bwydydd, á gollfernir, os bwyty; am nad yw yn bwyta o ffydd: oblegid bethbynag nid yw o ffydd, pechod yw.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.