1 Iago, gwas i Dduw ac i’r Arglwydd Iesu Grist, at y deg a dau lwyth y sydd àr wasgar: Anerch.
2-8Cyfrifwch yn bob llawenydd, fy mrodyr, pan syrthioch mewn amryw brofedigaethau: gàn wybod bod y profiad o’ch ffydd chwi yn gweithio amynedd. Caffed yr amynedd yma, gàn hyny, ei berffaith waith, fel y byddoch berffaith a chyflawn, heb fod yn ol mewn dim. O bydd àr neb o honoch eisieu doethineb, gofyned am dani gàn Dduw, yr hwn sydd yn rhoi yn haelionus i bawb, a heb ddannod, a hi á roddir iddo ef. Eithr gofyned mewn ffydd, heb ammheu dim; canys yr hwn sydd yn ammheu, sy gyffelyb i dòn y môr, à ỳrir ac á deflir gàn y gwynt. Ac na feddylied y dyn hwnw, y derbyn efe ddim gàn yr Arglwydd. Gwr deuddyblyg ei feddwl sydd anwasted yn ei holl ffyrdd.
9-11Hefyd, y brawd o radd isel ymffrostied yn ei ddyrchafiad, a’r cyfoethog yn ei ddarostyngiad; canys megys blodeuyn y glaswelltyn y diflàna efe. – Canys cyfyd yr haul gyda gwres, ac á wywa y glaswelltyn, a’i flodeuyn á gwympa, a thegwch ei bryd ef á dderfydd; felly hefyd y diflàna y cyfoethog yn ei ffyrdd.
12-15Gwyn ei fyd y gwr sydd yn goddef profedigaeth; canys, wedi y byddo cymeradwy, efe á dderbyn goron y bywyd, yr hon á addawodd yr Arglwydd i’r rhai à’i carant ef. Na ddyweded neb pan demtier ef, Gan Dduw ym temtir; canys Duw nis gellir ei demtio â drygau, ac nid yw efe yn temtio neb. Eithr yna y temtir pob un, pan y tỳner ef ac y llithier gàn ei chwant ei hun: yna chwant, wedi ymddwyn, á esgor àr bechod; a’r pechod hwnw, pan berffeithier, á esgor àr farwolaeth.
16-27Na thwyller chwi, fy mrodyr anwyl; pob rhodd ddaionus, a phob dawn perffaith, oddi uchod y mae, yn disgyn oddwrth Dad y goleuadau, gyda’r hwn nid oes gyfnewidiad na chysgod troedigaeth. O’i wir ewyllys, yr ynnillodd efe nyni drwy air y gwirionedd; fel y byddem ryw flaenffrwyth o’i greaduriaid ef. O achos hyn, fy mrodyr anwyl; bydded pob dyn esgud i wrandaw, diog i lefaru, diog i ddigofaint; canys digofaint dyn nid yw yn cyflawni cyfiawnder Duw. Oherwydd paham, gàn roddi heibio bob budreddi, a helaethrwydd malais, gydag addfwynder derbyniwch yr impiedig air, yr hwn á ddichon gadw eich eneidiau. A byddwch wneuthurwyr y gair, a nid gwrandaẅwyr yn unig, gàn eich twyllo eich hunain drwy gau resymu. Oblegid os yw neb yn wrandaẅwr y gair, ac heb fod yn wneuthurwr y mae hwn yn debyg i wr yn edrych ei wynebpryd naturiol mewn drych; canys efe á’i hedrych ei hun, ac á â ymaith, ac yn y màn efe á annghofia pa fath un ydoedd. Eithr yr hwn à edrych i berffaith gyfraith rhyddid, ac á barâo, hwn, heb fod yn wrandaẅwr annghofus, ond gwneuthurwr y weithred, wrth wneuthur felly, á fydd dedwydd. Os yw neb yn eich mysg yn cymeryd arno fod yn grefyddol, heb attal ei dafod, ond twyllo ei galon ei hun, ofer yw crefydd hwn. Crefydd bur, a dihalogedig, gèr bron Duw, sef y Tad, yw hyn: Gofalu am yr amddifaid a’r gwragedd gweddwon yn eu hadfyd, a’i gadw ei hun yn ddifrycheulyd oddwrth y byd.
Who We AreWhat We EelieveWhat We Do
2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.