Dadguddiad 9 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-12A’r pummed angel á udganodd; a mi á welais Seren yn syrthio o’r nef i’r ddaiar; a rhoddwyd iddo ef agoriad y pydew heb waelod. Ac efe á agorodd y pydew heb waelod, a chododd mwg o’r pydew, fel mwg ffwrn fawr: a thywyllwyd yr haul a’r awyr gàn fwg y pydew. Ac o’r mwg y daeth allan locustiaid àr y ddaiar; a rhoddwyd awdurdod iddynt, fel y mae gàn ysgorpionau y ddaiar awdurdod. A dywedwyd wrthynt, na wnaent niwed i laswellt y ddaiar, nac i ddim gwyrddlas, nac i un pren; ond i’r dynion oedd heb sel Duw yn eu talcènau. Ac ni chenadwyd iddynt eu lladd hwynt, ond eu poeni hwynt bumm mis: a’u poen hwynt oedd fel poen oddwrth ysgorpion, pan y bratho ddyn. Ac yn y dyddiau hyn y cais dynion farwolaeth, ac nis cânt; ac á chwennychant farw, a marwolaeth á gilia oddwrthynt. A chyffelybrwydd y locustiaid oedd fel meirch wedi eu parotoi i ryfel; ac àr eu pènau yr oedd, megys pe buasai coronau aur; ac yr oedd eu hwynebau fel wynebau dynion: a gwallt oedd ganddynt fel gwallt gwragedd; a’u dannedd oedd fel dannedd llewod. Ac yr oedd ganddynt lurigau fel llurigau haiarn; a thrwst eu hadenydd oedd fel trwst cerbydau, a llawer o feirch, yn rhedeg i ryfel. Ac yr oedd ganddynt gynffònau tebyg i ysgorpionau, a’u colynau oedd yn eu cynffonau hwy; a’u gallu oedd i ddrygu dynion bumm mis. Canys yr oedd ganddynt frenin arnynt, angel y pydew diwaelod, enw yr hwn yn yr Hebraeg ydyw Abàdon; ac yn y Röeg, y mae iddo yr enw Apòlyon. Un wae á aeth heibio, ac wele y mae dwy wae, heblaw hyny, yn dyfod eto.

13-21A’r chweched angel á udganodd; a mi á glywais lef allan o bedwar corn yr allor aur, yr hon oedd gèr bron Duw, yn dywedyd wrth y chweched angel, yr hwn oedd â’r udgorn ganddo, Gollwng yn rhydd y pedwar angel, sydd yn rhwym wrth yr afon fawr Euphrates. A gollyngwyd y pedwar angel, y rhai oedd wedi eu parotoi erbyn awr, a diwrnod, a mis, a blwyddyn, i ladd traian dynion. A rhifedi y gwŷr meirch oedd dwy fyrddiwn o fyrddiynau; mi á glywais eu rhifedi hwynt. A myfi á welais y meirch, a’r rhai oedd yn eistedd arnynt, fel hyn yn eu hymddangosiad; â chanddynt lurigau o dân, a hyacinth, a brwmstan: a phènau y meirch oedd fel pènau llewod, ac yr oedd yn myned allan o’u safnau dân, a mwg, a brwmstan. Gàn y tri hyn – gàn y tân, gàn y mwg, a chàn y brwmstan – oedd yn dyfod allan o’u safnau hwynt, y lladdwyd traian dynion. A gallu y meirch sydd yn eu safnau, ac yn eu cynffonau; a’u cynffonau sy debyg i seirff, a phènau ganddynt, ac â’r rhai hyny y maent yn drygu. Eto y gweddill o’r dynion, y rhai ni fuont feirw gàn y plaau hyn, ni ddiwygiasant oddwrth weithredoedd eu dwylaw, fel nad addolent gythreuliaid, ac eilunod aur, ac arian, a phres, a maen, a phren; y rhai ni allant na gweled, na chlywed, na rhodio. Ac ni ddiwygiasant oddwrth eu llofruddiaeth, a’u cyfareddion; nac oddwrth eu puteindra, na’u lladrad.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help