Luwc 5 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-3A dygwyddodd, fel yr oedd efe yn sefyll wrth lỳn Gennesaret, a’r dyrfa yn pwyso ato i wrandaw gair Duw, weled o hono ddwy long àr dir yn ymyl y làn, ond y pysgodwyr oeddynt wedi myned i dir i olchi eu rhwydau. Gwedi myned o hono i fewn i un o honynt, yr hon oedd eiddo Simon, efe á ddymunodd arno wthio ychydig oddwrth y tir. Yna efe á eisteddodd, ac á ddysgodd y bobl allan o’r llong.

4-11Gwedi iddo orphen llefaru, efe á ddywedodd wrth Simon, Gwthia allan i’r dyfnddwr, a bwriwch eich rhwydau am helfa. Simon á atebodd, Feistr, yr ydym wedi bod yn ymboeni àr hyd y nos, a heb ddal dim; èr hyny, ar dy air di, mi á fwriaf y rhwyd. Wedi gwnenthur hyny, hwy á ddaliasant y fath liaws o bysgod, nes oedd y rhwyd yn dechreu rhwygo. A hwy á amneidiasant àr eu cyfeillion yn y llong arall, i ddyfod a’u cynnorthwyo hwynt. A hwy á ddaethant, ac á lwythasant y ddwy long, nes oeddynt yn mron soddi. Simon Pedr, pan welai hyn, á syrthiodd wrth liniau Iesu, gan ddywedyd, Dos ymaith oddwrthyf, O Arglwydd, canys dyn pechadurus wyf fi. Oblegid yr helfa bysgod à ddaliasent, á’i llanwasai ef a’i holl gymdeithion â dychryn, yn enwedig Iago ac Ioan, meibion Zebedëus, y rhai oeddynt gyfranogion â Simon. A dywedodd Iesu wrth Simon, Nac ofna; o hyn allan y déli ddynion. A gwedi iddynt ddwyn y llongau i dir, hwy á adawsant bob peth, ac á’i dylynasant ef.

12-16Pan oedd efe yn un o’r dinasoedd cymydogaethol, dyn wedi ei orchuddio â gwahanglwyf, wedi ei weled ef, á syrthiodd àr ei wyneb, ac á ddeisyfodd arno gàn ddywedyd, Feistr, os ewyllysi, ti á elli fy nglanâu. Iesu, gwedi estyn ei law a chyfhwrdd ag ef, á ddywedodd, Yr wyf yn ewyllysio; glanâer di. Y cythrym hwnw ei wahanglwyf á ymadawodd ag ef. Ac efe á orchymynodd iddo na ddywedai i neb. Ond dos, meddai efe dangos dy hun i’r offeiriad, a chyflwyna yr offrwm à bènodwyd gàn Foses èr hysbysu i’r bobl ddarfod dy lanâu. Eto, o gymaint â hyny yn fwy y sonid am Iesu yn mhob màn, nes yr ymgasglai tyrfëydd mawrion i wrandaw arno, ac i gael eu hiachâu o’u clefydau. Ac efe á giliai i leoedd annghyfannedd, ac á weddiai.

17-26Un diwrnod, fel yr oedd efe yn athrawiaethu, a Phariseaid, ac athrawon y gyfraith, y rhai á ddaethent o Gaersalem, ac o bob tref yn Ngalilea ac Iuwdea, yn eistedd gerllaw: gallu yr Arglwydd á amlygid yn iachâad y rhai cleifion. Ac wele, rhyw ddynion yn dwyn àr wely ddyn à flinid gàn barlys, á geisiasant ei ddwyn ef i fewn, a’i ddodi gèr bron Iesu; ond pan welent bod hyny yn anwneuthuradwy oblegid y dyrfa, hwy á ddringasant àr y tô, ac á’i gollyngasant ef i waered yn y gwelyan drwy y peithyndo, yn y canol gèr ei fron ef. Iesu yn canfod eu ffydd hwynt, á ddywedodd, Ddyn, maddeuwyd i ti dy bechodau. Ar hyny yr Ysgrifenyddion a’r Phariseaid á ymresymasant fel hyn, Pwy yw hwn sydd yn dywedyd cableddau? A all neb faddau pechodau heblaw Duw? Iesu yn gwybod eu meddyliau hwynt, gàn ateb á ddywedodd wrthynt, Beth ydych yn ei resymu yn eich calonau? Pa un hawddach, ai dywedyd, Maddeuwyd i ti dy bechodau, ai dywedyd, Cyfod a rhodia? Ond fel y gwybyddoch bod gàn Fab y Dyn awdurdod àr y ddaiar i faddau pechodau, Cyfod (meddai efe wrth y dyn parlysig,) cymer i fyny dy wely, a dychwel i’th dŷ. Y cythrym hwnw y cyfododd efe yn eu gwydd hwynt; ac efe á gymerodd i fyny ei wely, ac á ddychwelodd adref, gàn ogoneddu Duw. Pan welsant hyn, hwy á darawyd oll â syndod ac erbarch, ac á ogoneddasant Dduw, gàn ddywedyd, Gwelsom bethau aruthrawl heddyw.

27-32Ar ol y pethau hyn efe á aeth allan, ac a welai dollwr a’i enw Lefi, yn eistedd wrth y dollfa, ac á ddywedodd wrtho, Canlyn fi. Ac efe á gyfododd, á adawodd bob peth, ac á’i canlynodd ef. A Lefi á wnaeth iddo wledd fawr yn ei dŷ ei hun, lle yr oedd lliaws mawr o dollwyr ac ereill wrth y bwrdd gyda hwynt. Ond Ysgrifenyddion a Phariseaid y lle á rwgnachasant, gàn ddywedyd wrth ei ddysgyblion ef, Paham yr ydych chwi yn bwyta ac yn yfed gyda thollwyr a phechaduriaid? Iesu gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Nid y rhai iach, ond y rhai cleifion, sy raid iddynt wrth feddyg. Mi á ddaethym i alw, nid y rhai cyfiawn, ond pechaduriaid i ddiwygiad.

33-39Yna y gofynasant iddo, Paham y mae dysgyblion Ioan, a’r un modd yr eiddo y Phariseaid, yn ymprydio yn fynych ac yn gweddio, ond yr eiddot ti yn bwyta ac yn yfed? Yntau á atebodd. A fỳnech chwi i’r priodweis ymprydio, tra y mae y priodfab gyda hwynt? Ond y dyddiau á ddaw pan ddygir y priodfab oddarnynt: yn y dyddiau hyny yr ymprydiant. Efe á chwanegodd y gyffelybiaeth hon, Nid yw neb yn trwsio hen fantell â brethyn newydd; os yn amgen y newydd á rwyga yr hen; heblaw hyny, ni chydwedda yr hen a’r newydd byth â’u gilydd. Ni ddyd neb win newydd mewn hen gostrelau lledr; os yn amgen, y gwin newydd á rwyga y costrelau, a felly collir y gwin, a’r costrelau á wneir yn ddiddefnydd. Ond os dodir gwin newydd mewn costrelau newyddion, y ddau á gedwir. Hefyd, nid yw neb, wedi yfed hen win, yn y fàn yn galw am beth newydd; canys efe á ddywed, Y mae yr hen yn bereiddiach.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help