2 Corinthiaid 12 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-21Ymffrostio, yn ddiau, nid yw fuddiol i mi; eto myfi á ddeuaf at weledigaethau a dadguddiedigaethau yr Arglwydd. Mi á adwaenwn ddyn yn Nghrist bedair blynedd àr ddeg yn ol, (pa un ai yn y corff, ai allan o’r corff, ni wn i; Duw á ŵyr;) y cyfryw un á gipiwyd i fyny hyd y drydedd nef. Yn wir, mi á adwaenwn y cyfryw ddyn; (pa un ai yn y corff, ai allan o’r corff, ni wn i; Duw á ŵyr;) ei gipio ef i fyny i wynfa, ac iddo glywed pethau anrhaethadwy, y rhai nid yw gyfreithlawn i ddyn eu hadrodd. Am y cyfryw un yr ymffrostiaf; eithr am danaf fy hun nid ymffrostiaf, oddeithr yn fy ngwendidau. Eto pe byddai ynof duedd i ymffrostio, ni byddaf ffol; canys mi á ddywedaf y gwir: ond yr wyf yn ymarbed, rhag i neb dybied am danaf, uwchlaw yr hyn y mae yn gweled fy mod, neu yr hyn y mae yn ei glywed genyf. A fel na’m tradyrchafer gàn odidogrwydd y dadguddiedigaethau, rhoddwyd i mi swmwl yn y cnawd, cènad Satan i’m cernodio, fel na’m tradyrchefid. Am y peth hwn, mi á attolygais i’r Arglwydd deirgwaith, à’r fod iddo ymadael â mi. Eithr efe á ddywedodd wrthyf, Digon i ti fy rhad i; heblaw hyny, fy nerth i á berffeithir mewn gwendid: – yn llawen iawn, gàn hyny, yr ymffrostiaf fi yn hytrach yn fy ngwendidau, fel y preswylio nerth Crist arnaf fi. Am hyny, yr wyf fi wrth fy modd mewn gwendidau, mewn anmharch, mewn anghenion, mewn erlidiau, mewn cyfyngderau, èr mwyn Crist; oblegid pan wyf wan, yna yr wyf gadarn. A aethym i yn ffol? Chychwi á’m gỳrasoch: canys mi á ddylaswn gael fy nghanmol genych chwi, oherwydd ni bum i mewn dim yn ol i’r Apostolion pènaf, èr nad wyf fi ddim. Arwyddion Apostol, yn ddiau, á weithredwyd yn eich plith chwi mewn pob amynedd, drwy arwyddion a rhyfeddodau, a nerthoedd. Canys beth yw yr hyn y buoch chwi yn ol am dano, mwy na’r cynnulleidfäoedd ereill, oddieithr am na bum i fy hun ormesol arnoch? Maddeuwch i mi hyn o gam. Wele, y drydedd waith yr wyf fi yn barod i ddyfod atoch, a ni byddaf ormesol arnoch; canys nid ydwyf yn ceisio yr eiddoch chwi, ond chychwi: oblegid ni ddylai y plant gasglu trysor i’r rhieni, ond y rhieni i’r plant. Ië, myfi yn ewyllysgar iawn á dreuliaf ac á ymdreuliaf, èr mwyn eich eneidiau chwi; èr po helaethaf yr wyf yn eich caru, lleiaf i gyd yr wyf yn cael fy ngharu. Boed felly ynte, ni phwysais i arnoch; èr hyny, gàn fod yn gyfrwys, mi á’ch deliais chwi drwy ddichell! A wneuthym i elw o honoch chwi, drwy neb o’r rhai à ddanfonais atoch? Mi a ddeisyfais àr Ditus fyned atoch; a chydag ef mi á anfonais frawd: á elwodd Titus ddim arnoch? Onid yn yr un ysbryd y rhodiasom? Onid yn yr un camrau? Drachefn, a ydych chwi yn tybied mai ymesgusodi yr ydym wrthych? Yn ngwydd Duw yr ydym yn llefaru yn Nghrist, wneuthur yr holl bethau hyn, garedigion, èr adeiladaeth i chwi. Eto ofni yr wyf rhag, ond odid, pan ddelwyf, na chaffwyf chwi yn gyfryw ag y mynwn; ac y caffer finnau genych chwithau yn gyfryw nas mỳnech: – rhag, ysgatfydd, bod yn eich plith chwi gynhenau, cenfigenau, llidiau, ymrysonau, goganau, hustingau, ymchwyddiadau, terfysgau. A rhag, pan ddelwyf drachefn, fod i’m Duw fy narostwng yn eich plith; a mi á ddygaf alar dros lawer, y rhai á bechasant o’r blaen, a ni ddiwygiasant oddwrth yr aflendid, a’r puteindra, a’r anlladrwydd à wnaethant.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help