Iago 2 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

1-13Fy mrodyr, na fydded genych ffydd ein gogoneddus Arglwydd ni Iesu Grist gyda derbyn wyneb. – Oblegid os daw i fewn i’ch cynnullfa chwi ŵr â modrwyau aur, mewn dillad gwychion, a dyfod hefyd un tlawd, mewn dillad gwael; ac edrych o honoch àr yr hwn sydd yn gwisgo y dillad gwychion, a dywedyd, Eistedd di yma mewn modd anrhydeddus; ac wrth y tlawd, Saf di yna; neu, Eistedd yma wrth fy ystol draed i: onid ydych chwi yn bleidiol yn eich plith eich hunain, ac yn farnwyr yn rhesymu yn ddrygionus? Gwrandewch, fy mrodyr anwyl: Oni ddewisodd Duw dylodion y byd – yn gyfoethogion mewn ffydd, ac yn etifeddion y deyrnas, yr hon á addawodd efe i’r rhai sydd yn ei garu ef? Eithr chwithau á ddiystyrasoch y tylawd. Onid yw y cyfoethogion yn eich gorthrymu chwi, ac yn eich llusgo gêr bron brawdleoedd? Onid ydynt hwy yn cablu yr enw rhagorol, yr hwn á elwir arnoch chwi? Os cyflawni yr ydych y gyfraith freninol, yn ol yr ysgrythyr, “Câr dy gymydog fel ti dy hun,” da yr ydych yn gwneuthur. Eithr os derbyn wyneb yr ydych, yr ydych yn gwneuthur pechod, gàn gael eich argyhoeddi gàn y gyfraith, megys troseddwyr. Canys pwybynag á gadwo y gyfraith i gyd oll, ac á ballo mewn un pwnc, y mae efe yn euog o’r cwbl. Canys y neb à ddywedodd, “Na odineba,” á ddywedodd hefyd, “Na ladd.” Ac os ti ni odinebi, eto á leddi, ti á aethost yn droseddwr y gyfraith. Felly dywedwch a felly gwnewch, megys rhai à fernir wrth gyfraith rhyddid; canys barn ddidrugaredd fydd i’r hwn ni wnaeth drugaredd; eithr y mae trugaredd yn gorfoleddu yn erbyn barn.

14-26Pa fudd yw, fy mrodyr, o dywed neb bod ganddo ffydd, ac heb fod ganddo weithredoedd? A ddichon ffydd ei gadw ef? Canys os bydd brawd neu chwaer yn noeth, neu mewn eisieu beunyddiol ymborth, a dywedyd o un o honoch wrthynt, Ewch mewn heddwch: ymdwymnwch ac ymddigonwch; eto heb roddi iddynt angenrheidiau y corff; pa les fydd? Felly ffydd hefyd, oni bydd ganddi weithredoedd, marw ydyw, a hi yn unig. Hefyd rhyw un á ddywed, Tydi ffydd sy genyt, minnau gweithredoedd sy genyf: dangos i mi dy ffydd di heb dy weithredoedd, a minnau wrth fy ngweithredoedd a ddangosaf i ti fy ffydd innau. Credu yr wyt ti mai un Duw sydd: da yr wyt yn gwneuthur: y mae hyd y nod y cythreuliaid yn credu ac yn crynu. Heblaw hyny, á fyni di wybod, O ddyn ofer, am ffydd heb weithredoedd, mai marw yw? Abraham ein tad ni, onid drwy weithredoedd y cyfiawnâwyd ef, pan godasai efe Isaac ei fab àr yr allor? Ti á weli bod ffydd yn cydweithio â’i weithredoedd ef, a thrwy weithredoedd bod ei fydd ef wedi ei pherffeithio. A felly cyflawnwyd yr ysgrythyr y sydd yn dywedyd, “Credodd Abraham i Dduw, a chyfrifwyd iddo yn gyfiawnder; a chyfaill Duw y galwyd ef.” Chwi á welwch mai drwy weithredoedd y cyfiawnêir dyn a nid drwy ffydd yn unig. Yr un ffunud hefyd, Rahab y buten, onid drwy weithredoedd y cyfiawnâwyd hi, gwedi derbyn o honi y cenadau yn ddirgel, a gwedi eu danfon ymaith ffordd arall? Canys megys y mae y corff heb yr ysbryd yn farw, felly hefyd ffydd heb weithredoedd, marw yw.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help