Ioan Marc 6 - Yr Oraclau Bywiol - Welsh New Testament by John Williams 1842

DOSBARTH III.Anfoniad cyntaf yr Apostolion.

1-5Iesu gwedi gadael y lle hwnw, á aeth iddei wlad ei hun, a’i ddysgyblion á’i canlynasant ef. Ac efe á ddysgai àr y Seibiaeth yn eu cynnullfëydd, a llawer à’i clywsant á ddywedasant gyda syndod, O ba le y mae gàn hwn y galluoedd yma? Pa ddoethineb yw hwn à gafodd efe? a pha fodd y gwneir y fath wyrthiau ganddo ef? Onid hwn yw y saer, mab Mair, brawd Iägo a Ioses, a Iuwdas a Simon? Onid yw ei chwiorydd hefyd yma gyda ni? A hwy á dramgwyddasant wrtho. Eithr Iesu á ddywedodd wrthynt, Nid yw proffwyd yn cael ei ddiysdyru yn un màn, ond yn ei wlad ei hun, ac yn mhlith ei berthynasau ei hun, ac yn ei dŷ ei hun. A ni allai efe wneuthur un wyrth yno, oddeithr iachâu ychydig gleifion, drwy osod ei ddwylaw arnynt. Ac efe á ryfeddodd oblegid eu hannghrediniaeth hwynt.

6-13Ac efe á aeth drwy y pentrefi cymydogaethol, gàn athrawiaethu. A gwedi galw ato y deuarddeg, efe á’u hanfonodd hwynt allan bob yn ddau, ac á roddes iddynt awdurdod àr yr ysbrydion aflan; ac á orchymynodd iddynt beidio cymeryd dim i’r daith, ond un lawffon yn unig; nac ysgrepan, na bara, nac arian yn eu gwregys; ond bod â sandalau dàn eu traed, a pheidio gwisgo dwy bais. Efe á ddywedodd hefyd, I ba dŷ bynag yr eloch i fewn yn unrhyw le, aroswch yn y tŷ hwnw, nes y gadawoch y lle. Ond pa le bynag ni ’ch derbyniant, a ni ’ch gwrandawant, ysgydwch ymaith y llwch o dàn eich traed àr eich ymadawiad, fel gwrthdystiad yn eu herbyn. A gwedi iddynt ymadael, hwy á rybyddiasant ddynion yn gyhoeddus i ddiwygio; ac á fwriasant allan lawer o gythreuliaid, ac á iachâasant lawer o gleifion, gàn eu heneinio ag olew.

14-16A’r brenin Herod á glywodd am dano (canys yr oedd ei enw gwedi myned yn arglodus) ac á ddywedodd, Ioan y Trochiedydd á gyfodwyd oddwrth y meirw; ac am hyny y cyflawnir gwyrthiau ganddo. Ereill á ddywedent, Elias yw. Ereill, Proffwyd yw fel y rhai yn y cynamseroedd. Ond pan glywodd Herod am dano, efe á ddywedodd, Hwn yw Ioan yr hwn y tòrais i ei ben. Efe á gyfodwyd oddwrth y meirw.

17-29Canys Herod á berasai ddal Ioan, a’i gadw yn rwym yn y carchar, o achos Herodias, gwraig Phylip ei frawd, yr hon yr oedd efe ei hun wedi ei phriodi. Canys dywedasai Ioan wrth Herod, Nid cyfreithlawn i ti gael gwraig dy frawd. A hyn á gynhyrfodd anfoddlonrwydd Herodias, yr hon á fỳnasai ladd Ioan, ond nis gallasai, am fod Herod yn ei barchu ef, a chàn wybod ei fod ef yn ddyn cyfiawn a santaidd, efe á’i hamddiffynodd ef, ac á wnaeth lawer o bethau à gymhellid ganddo, ac á’i gwrandawodd gyda hyfrydwch. O’r diwedd daeth cyfle cyfaddas, yr hwn oedd dydd genedigaeth Herod, pan y gwnaeth efe wledd i brif swyddogion ei lys a’i fyddin, a goreugwyr Galilëa. Canys daeth merch Herodias i fewn, ac á gorelwodd o’u blaen hwynt, ac a foddiodd Herod a’i westeion gymaint, fel y dywedodd y brenin wrth y llances, Gofyn y peth á fỳni, a mi á’i rhoddaf i ti; ie, efe á dyngodd wrthi, Bethbynag á ofyni, mi á’i rhoddaf i ti, pe byddai yn hanner fy nheyrnas. A hi á giliodd o’r neilldu, ac á ddywedodd wrth ei mam, Beth á ofynaf? Hithau á atebodd, Pen Ioan y Trochiedydd. Yna ei merch á ddychwelodd àr frys at y brenin, ac á wnaeth y cais hwn: Mi á fỳnwn roddi o honot i mi yn ddioed mewn dysgl, ben Ioan y Trochiedydd. A’r brenin oedd yn ddrwg iawn ganddo; ond o barch iddei lw a’i westeion, ni fỳnai ei gommedd hi, ond yn ddiattreg á ddanfonodd wyliadur gyda gorchymyn i ddwyn pen y Trochiedydd. Yn ganlynol efe á aeth á dòrodd ei ben ef yn y carchar, ac á’i dyg mewn dysgl, ac á’i rhoddes i’r llances; a’r llances á’i rhoddes ef iddei mam. Pan glywodd ei ddysgyblion ef hyn, hwy á aethant ac á ddygasant ei gorff ef, ac á’i dodasant mewn gwyddfedd.

30-34A’r apostolion wedi ymgynnull yn nghyd, á fynegasant bob peth i Iesu, yr hyn á wnaethent, a’r hyn á ddysgasent. Ac efe á ddywedodd wrthynt, Deuwch o’r neilldu i le annghyfannedd, a gorphwyswch ychydig; oblegid yr oedd cynnifer yn dyfod ac yn myned, fel nad oeddynt yn cael hamdden gymaint ag i fwyta. A hwy á giliasant mewn llong i le annghyfannedd, i fod wrthynt eu hunain. Ond llawer o’r rhai à’u gwelsant yn ymadael, ac á wyddent i ba le yr oeddynt yn mordwyo, á redasant allan o’r holl ddinasoedd, ac á ddaethant yn nghyd. Wedi dyfod i dir, efe a welai dyrfa fawr, ac á dosturiodd wrthynt; am eu bod fel dëadell heb fugail; ac efe á ddysgodd iddynt lawer o bethau.

35-44Gwedi iddi hwyrâu, ei ddysgyblion á ddaethant ato, ac á ddywedasant, Y mae hwn yn lle anial, ac y mae hi yn awr yn hwyr; gollwng ymaith y bobl, fel yr elont i’r tyddynod cymydogaethol a’r pentrefi, a phrynu iddynt eu hunain fara; oblegid nid oes ganddynt ddim iddei fwyta. Yntau gàn ateb, á ddywedodd wrthynt, Diwallwch hwynt eich hunain. Hwythau á atebasaut, A awn ni a rhoddi dau gann ceiniog am fara, èr ei diwallu hwynt? Yntau á ddywedodd wrthynt, Pa sawl torth sy gènych? Wedi gwybod, hwy á atebasant, Pump, a dau bysgodyn. Ac efe á orchymynodd iddynt beri i’r holl bobl ledorwedd yn fyrddeidiau àr y glaswellt. A hwy a ffurfiasant eu hunain yn bedrorau, o fesur cantoedd a phumdegau. Yna y cymerodd Iesu y pumm torth a’r ddau bysgodyn, a chàn edrych i fyny tua ’r nef, á fendithiodd ac á dòrodd y torthau, ac á’u rhoddes iddei ddysgyblion, èr eu gosod o flaen y tyrfëydd. Efe á rànodd y ddau bysgodyn hefyd rhyngynt oll. Wedi iddynt oll fwyta, a chael eu digoni, hwy á ddygasant ymaith ddeg a dwy fasgedaid o weddillion y bara a’r pysgod. A’r rhai à fwytasent o’r torthau oeddynt bumm mil o wŷr,

45-52Ac yn ebrwydd efe á argymhellodd ei ddysgyblion i fyned i long, a myned drosodd o’r blaen tua Bethsaida, tra y byddai efe yn gollwng ymaith y bobl. A gwedi iddo eu hanfon hwynt ymaith, efe á giliodd i fynydd i weddio. Yn yr hwyr, pan oedd y llong yn nghanol y môr, ac yntau ei hunan àr y tir efe á’u gwelai hwynt yn ymboeni wrth y rhwyf, oblegid yr oedd y gwynt yn eu herbyn: ac yn nghylch y pedwerydd gwylbryd o’r nos, efe á aeth atynt, gàn gerdded àr y dwfr, ac á ymddangosai fel yn amcanu myned heibio iddynt. Pan welsant ef yn cerdded àr y môr, hwy á dybiasant mai drychiolaeth oedd, ac á waeddasant. Oblegid hwy oll á’i gwelsant ef, ac á ddychrynasant; yntau á siaredodd â hwynt yn uniawn, gàn ddywedyd, Cymerwch gysur, myfi yw; nac ofnwch. A gwedi iddo fyned i fyny atynt i’r llong, peidiodd y gwynt, yr hyn á’u llanwodd yn fwy fyth â syndod a rhyfeddod; canys yr oedd eu meddyliau gwedi eu hurtio gymaint, fel nad oedd ganddynt ddim adgof am y torthau.

53-56Gwedi iddynt fyned drosodd, hwy á ddaethant i diriogaeth Genesaret, lle y tiriasant. A gwedi glanio o honynt, y bobl á’i hadnabuant ef, ac á redasant drwy yr holl wlad hòno, gàn ddwyn y cleifion àr lythau i bob màn lle y clywent ei fod ef. Ac i ba bentref, neu ddinas, neu dref bynag yr elai efe, hwy á ddodent y cleifion yn yr hëolydd, ac á ddeisyfent arno gael cyfhwrdd, pe byddai ond â siobyn ei fantell ef, a phwybynag á gyfhyrddai ag ef, á iachêid.

Blog
About Us
Message
Site Map

Who We AreWhat We EelieveWhat We Do

Terms of UsePrivacy Notice

2025 by iamachristian.org,Inc All rights reserved.

Home
Gospel
Question
Blog
Help